CYNHELIR Y GYNHADLEDD RYNGWLADOL AR YMDEIMLAD 2024 (ICM:2024) YM MANGOR, AR 2-6 AWST 2024
Bydd y digwyddiad hwn yn uno ymchwilwyr, hyfforddwyr, goruchwylwyr, athrawon, ac ymarferwyr ymwybyddiaeth ofalgar, gyda phobl fyfyrgar, llunwyr polisi, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd. Byddwn yn anelu at gynnwys safbwyntiau a lleisiau amrywiol pobl nad ydynt, yn hanesyddol, wedi cael cyfle i leisio eu barn (fel siaradwyr a chyfranogwyr)
Mae'n bosibl ymuno â ni am y 5 diwrnod llawn neu'r gynhadledd 2.5 diwrnod. Penderfynwch faint o'r gynhadledd yr hoffech chi ei mynychu trwy ddewis yr opsiynau isod.
Trosolwg
Bydd y digwyddiad hwn yn uno ymchwilwyr, hyfforddwyr, goruchwylwyr, athrawon, ac ymarferwyr ymwybyddiaeth ofalgar, gyda phobl fyfyrgar, llunwyr polisi, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd. Byddwn yn anelu at gynnwys safbwyntiau a lleisiau amrywiol pobl nad ydynt, yn hanesyddol, wedi cael cyfle i leisio eu barn (fel siaradwyr a chyfranogwyr).
Mae'r gynhadledd hon yn galw am safbwyntiau amrywiol ar berthnasedd, arwyddocâd a photensial ymwybyddiaeth ofalgar yn ein byd sydd ohoni heddiw.
Mae'r byd a'n cymdeithas yn profi newidiadau sylweddol. Ein nod yw darparu gofod lle gall pobl ddod at ei gilydd i siarad, gofyn cwestiynau, a chael eu hysbrydoli. Ar y cyd, byddwn yn archwilio rôl ymwybyddiaeth ofalgar mewn ymateb i’r posibiliadau a’r heriau niferus yr ydym yn eu hwynebu heddiw.
Gan ddefnyddio ein pum prif thema, bydd y gynhadledd yn archwilio sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar gyfrannu at y gwaith o fynd i’r afael â heriau rhwyg cymdeithasol, anghydraddoldeb, diffyg cynhwysiant ac amrywiaeth, a chwalfa’r hinsawdd a bioamrywiaeth, yn ogystal ag ymchwilio i ddulliau ymwybyddiaeth ofalgar o fewn addysg, gweithleoedd ac iechyd a lles.
- Thema 1: Ymchwil, theori ac addysgeg wyddonol
- Thema 2: Myfyriol, Athronyddol ac Ysbrydol
- Thema 3: Dulliau diwylliannol, cymdeithasol a systemig
- Thema 4: Cymhwyso ac arloesi yn y byd go iawn, ar lawr gwlad
- Thema 5: Mentrau gwleidyddol, amgylcheddol a byd-eang
Byddwn yn gofyn y cwestiynau heriol yr ydym i gyd yn eu hwynebu wrth inni ymchwilio i’r hyn sydd ei angen fwyaf yn y byd ar hyn o bryd.
Benefits of attending
Mae’r gynhadledd Ryngwladol hon yn gyfle i glywed am ddatblygiadau arloesol a chyfrannu at y don nesaf o ymwybyddiaeth ofalgar yn ein byd.
I gyflwyno mewn symposiwm Ymchwil neu sesiwn bosteri gwnewch gais yma: Cofrhetwch yma
Lleoliad
Bydd y gynhadledd yn cael ei chyflwyno'n bersonol ym Mangor, Gogledd Cymru a hefyd ledled y byd trwy Hybiau Rhyngwladol yn Tsieina, Sbaen, Gwlad Groeg, De Affrica a mwy.
Mae gan y gynhadledd dros 40 o bartneriaid sy'n cyfathrebu ein deunyddiau marchnata trwy eu rhwydweithiau a'u rhestrau dosbarthu.
Pris
Mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan yn y gynhadledd hon. Bydd pob cyflwyniad yn cael ei recordio a bydd ar gael yn y cnawd ac ar-lein yn ystod y gynhadledd ac wedi hynny. Mae’r gwahanol fathau o docynnau yn cynnwys:
Tocyn cynhadledd mynediad llawn 5 diwrnod
Tocyn cynhadledd prif fynediad 2.5 diwrnod
Tocyn cynhadledd mynediad ar-lein 2.5 diwrnod
Tocyn gweithdy 1 diwrnod ar ôl y gynhadledd
Tocyn gweithdy 1 diwrnod ar-lein ar ôl y gynhadledd
Bwrsariaethau ar gael:
If you feel you can benefit from participating in the conference and require financial assistance to attend, please see Our Bursaries page.
Cinio’r Gynhadledd
Ymunwch â chydweithwyr ar gyfer Cinio’r Gynhadledd ar nos Sadwrn 3 Awst 2024.