Gwirfoddoli yn Wcráin gyda Teams4U, Mawrth 2023
Gweld a chariad. Dau air syml, ond dyna oedd gweledigaeth cyfarwyddwr cartref plant Magala yn Chernivtsi, Wcráin. Ei gobaith yw bod plant ag anabledd dysgu yng nghartref Magala yn cael eu gweld, yn cael eu cydnabod a bod gan y plant hawl i fyw eu bywyd gorau a bod gan bawb hawl i gariad. Ers dau fis mae Olga yn gyfarwyddwr newydd yn Magala, a gyda'i chyflog cyntaf prynodd faner fawr liwgar a’i gosod ar wal allanol y cartref i bawb cael gwybod bod y plant yno, yn bodoli’n rhan annatod a gweladwy o’r gymdeithas. Dyma’r llygedyn o obaith yn fy ail daith i wirfoddoli yn Wcráin gyda’r elusen Teams4U. Y tro yma cefais y fraint o arwain tîm o bedwar nyrs anabledd dysgu o Gymru a Chernyw. Hedfan i Suceava yn Rwmania a chael croeso gan y Brifysgol yno a fu’n gymorth inni groesi'r ffin i Wcráin ar droed yn ddiogel. Roedd y diffeithwch rhwng y ddwy wlad yn iasol ac yn wahanol iawn i fy nhaith gyntaf (Gorffennaf 2022) lle’r oedd prysurdeb merched yn gafael yn dynn yn eu plant a’u bagiau plastig a’u heiddo’n aros yn y cof. Roedd loriau’n aros i groesi i’r ddau gyfeiriad fel o’r blaen, dim ond 10 lorri sy’n croesi’n ddyddiol ac roedd y ciw oddeutu 15 milltir o hyd. Mae’r aros yn hir, a'r bwyd a’r adnoddau’n cymryd cryn amser i gyrraedd pen eu taith.

Pwrpas ein hymweliad oedd treulio amser i ddod i adnabod y plant ag anableddau dysgu a’r staff yng nghartref Magala; a chynnig cefnogaeth ymarferol iddynt fel nyrsys anableddau dysgu, a chynnig ein hamser ninnau hefyd fel unigolion i wneud gwahaniaeth i un eiliad o fywyd un plentyn tra oeddem yno. Weithiau mae’n rhaid i chi ffocysu ar y camau bach yma pan fo erchyllter y pictiwr mawr yn llethol. Eisteddai bachgen o’r enw Mykola (enw sy’n golygu buddugoliaeth y bobl) yn ddistaw ac yn amyneddgar yn ddyddiol, gan ddweud un gair drosodd a throsodd; “ходить (khodit)”, cerdded. Ac fel 'na bu hi, bob tro roeddwn i wrth ei ymyl, byddem yn cerdded, yn canu, yn sgwrsio yn Gymraeg a Rwsieg/Saesneg/Wcraineg drwy’r cyfieithydd. Roedd chwerthiniad Mykola yn heintus, ei lais swynol yn taro pob nodyn yn ddisglair. Byddai’n gafael yn dynn yn fy llaw a ninnau’n cerdded fel un. Mae 52 o blant yn y cartref, daeth 42 o ardal Donbas sydd dan warchae rhyfel, ac mae’r cartref yn paratoi i dderbyn 12 plentyn arall. Mae bywyd yn mynd yn ei flaen, prin yw’r staff a’r adnoddau ac maent yn byw gan glywed seiren yn ddyddiol sy’n rhybuddio bod taflegrau yn yr ardal. Yn ystod ein hymweliad clywsom 3 seiren bob dydd, nid oedd neb yn rhedeg am loches. Doedd nunlle i fynd a byddai’n amhosib i gyn lleied o staff helpu’r holl blant fynd i loches ddiogel. Wrth sgwrsio a’r bobl yn Chernivtsi, maen nhw’n datgan eu bod yn ‘hyblyg’ ac yn gallu addasu ac ymdopi, maen nhw’n gadarn yn eu cred yn eu hawliau fel gwlad. Y peth lleiaf y medrwn ni ei wneud yw sefyll gyda hwy. Mae’n flwyddyn ers i’r rhyfel ddechrau, prin ydym yn clywed nac yn gweld effaith y rhyfel ar unigolion, teuluoedd a’r gymdeithas yn Wcráin ar y newyddion. Ond pobol ydynt fel ninnau, eisiau byw eu bywyd gorau. Gan obeithio daw heddwch iddynt yn fuan. Mae Teams4U yn parhau â'r gwaith yn Wcráin ac mae croeso i chi gyfrannu: https://teams4u.com/365-days-in-ukraine/

Gan dreulio’n diwrnod olaf yn Rwmania, cawsom gyfle i ymweld â chartref blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu a dderbyniodd gefnogaeth elusennau. Braf oedd clywed miri a chwerthin y plant ac awch y staff i wella gwasanaethau. Hefyd, cawsom groeso cynnes gan staff Prifysgol Ștefan cel Mare University of Suceava. Cawsom gyfle i ymweld â’r Gyfadran Feddygol a’r Gwyddorau Biolegol ac ymuno mewn dosbarthiadau anatomeg a sesiynau sgiliau ymarferol myfyrwyr nyrsio yn yr ail flwyddyn a chwrdd â Phennaeth y Gyfadran a’r darlithwyr dros ginio. Cychwyn ar eu taith maen nhw ar addysgu ym meysydd iechyd ac oherwydd bod angen doethuriaeth i ddarlithio, prin yw’r nyrsys ar hyn o bryd sy’n cyfrannu at yr addysgu yno. Yn sicr mae cyfle yma i gydweithio, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau â’n trafodaethau yn y dyfodol. Mae’n brifysgol groesawgar sydd wedi agor ei drysau a’u llety i bobl Wcrain, mae’r darlithwyr yn rhoi o’u hamser i waith dyngarol yn ddyddiol ac mae hynny i’w ganmol.

Bydd y daith yma’n aros yn fy nghof a fy nghalon. Mae fy niolch yn fawr i’r unigolion y cwrddais â nhw ag am eu parodrwydd i rannu eu profiadau dirdynnol o fyw bob dydd o dan warchae rhyfel. Ond yn bennaf oll, diolch i’r plant ag anableddau dysgu am eu croeso diamod, eu gwên a’u direidi, roedd yn fraint bod yn eu cwmni. Ni fyddant yn angof a bydd y gefnogaeth yn parhau i sicrhau y bydd y plant yn cael eu gweld a’u caru.
