IEEE VIS 2022 Attendees

Delweddu hardd - cynwysoldeb ac amrywiaeth yng nghynhadledd hybrid Delweddu data 2022

Daeth cynhadledd VIS 2022 yr IEEE (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electronig) ag academyddion ac ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o'r byd. Roedd cyfranogwyr ar y safle yn Oklahoma City, eraill yn cyfranogi’n fyw ar-lein, a lleoedd am ddim i annog cynwysoldeb ac amrywiaeth.

Mae VIS yr IEEE yn gynhadledd flynyddol ar ddelweddu data. Mae’n gynhadledd sy’n cael ei threfnu gan wirfoddolwyr yn cynrychioli’r IEEE (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electronig). Eleni, cynhaliwyd VIS (y Gynhadledd Delweddu a Dadansoddeg Weledol) o 16 i 21 Hydref. Dyma oedd y tro cyntaf iddi gael ei threfnu fel digwyddiad hybrid, gyda chyfranogwyr ar y safle ac eraill yn cyfrannu o bell drwy ffrwd fyw. Cynhaliwyd yr elfen ar y safle yng Ngwesty Omni Oklahoma City yn Oklahoma City, Oklahoma, UDA. Rhoddodd elfen rithiol y gynhadledd gyfle i'r gymuned ddelweddu a dadansoddeg weledol gymryd rhan ar draws y byd.

Hon oedd y gynhadledd orau erioed. Rwyf wedi bod yn mynd i'r gynhadledd ddelweddu flynyddol ers blynyddoedd lawer, ond eleni roedd hyd yn oed yn well nag arfer: gyda chyfranogiad ar y safle ynghyd â chyfranogwyr yn cymryd rhan yn fyw yn rhithiol. Yn ogystal, gyda'r tocyn 'amrywiaeth a chynwysoldeb rhithiol', gallai nifer fawr o bobl gymryd rhan am ddim o bedwar ban byd. Mae hynny’n wych. Rwy’n deall fod tua 200 o bobl wedi cymryd rhan na fyddai wedi gallu gwneud hynny fel arall.

Jonathan C. Roberts,  Athro mewn Delweddu yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig

Ychwanegodd yr Athro Roberts “Ar ben hynny, cynhaliodd y trefnwyr raglen i blant o'r enw `VISKids'. Rhoddodd y rhaglen hon grantiau i gynorthwyo pobl i gymryd rhan gyda phlant ifanc, talu am ofal i blant, ac am deithio ac yn y blaen, a chynhaliodd y grŵp hefyd weithgareddau, trafodaethau a sesiynau chwarae ar gyfer y plant a'u rhieni. Am ffordd hyfryd o gynnwys mwy o ymchwilwyr, sydd â phlant ifanc.”

Jonathan C. Roberts,  Athro mewn Delweddu

Roedd Jonathan Roberts ar y safle yn Oklahoma, ond cyfranogodd academyddion eraill, ac ymchwilwyr o'r brifysgol yn rhithiol, gan gynnwys Dr Panagiotis (Panos) Ritsos a Dr Pete Butcher

Dywedodd Dr Ritsos (Darlithydd mewn Delweddu) 

Roedd yn brofiad rhyfeddol. Mwynheais y gynhadledd eleni. Er ei bod yn drueni na allwn fod yn bresennol yn y cnawd, roedd yn wych clywed yr holl gyflwyniadau ar-lein.” Aeth ymlaen i ddweud, “Fe wnaethon ni godi sgrin fawr, a gwylio sawl cyflwyniad gyda'n gilydd fel tîm. Wnes i fwynhau’r brif ddarlith yn arbennig. Siaradodd Dr Marti Hearst am ddelweddu, testun a geiriau llafar” 

Roedd Dr Pete Butcher (ymchwil ôl-ddoethurol mewn delweddu yn y Ganolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol (DSP)) yn bresennol yn y sesiynau ar ddelweddu trochi, gramadegau delweddu, dimensiynau data a dylunio delweddu. Eglurodd Pete “Wnes i fwynhau’r cyflwyniad o bapur Andrew McNutt o’r enw ‘No Grammar to Rule Them All: A Survey of JSON-style DSLs for Visualization’ yn fawr iawn, ac roedd yn cynnwys ein teclyn: VRIA. Mae VRIA yn fframwaith ar y we ar gyfer delweddu trochi. Dechreuodd y teclyn fel cyfraniad ar gyfer fy PhD, ac rydym wedi parhau i ddatblygu’r fframwaith yma ym Mangor. Roedd yn wych gweld arolwg McNutt, a oedd yn cynnwys ein teclyn ni ac eraill.” Ychwanegodd Pete, “Byddaf bob amser yn mwynhau cynhadledd VIS yr IEEE. Mae ymdeimlad o gymuned yno na cheir mohoni’n aml mewn  lleoliadau erailll.”

Bu'r ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn ymwneud â phum gwahanol weithgaredd ar gyfer y gynhadledd. 

  • Roedd Jonathan yn gyd-gadeirydd y rhaglen Papurau Byr, a welodd 32 o bapurau’n cael eu cyhoeddi. 
  • Jonathan oedd cadeirydd y bwrdd Prawf Amser (ToT). Mae'r bwrdd hwn yn cydnabod cyhoeddiadau ymchwil o gynadleddau blaenorol sy'n dal yn berthnasol ac yn ddefnyddiol heddiw. Ystyriwyd papurau o gynhadledd Gwyddoniaeth a Thechnoleg Dadansoddeg Weledol yr IEEE 2012. Dyfarnwyd gwobr ToT 2022 i’r papur “Enterprise Data Analysis and Visualization: An Interview Study” gan Sean Kandel, Andreas Paepcke, Joseph M. Hellerstein, Jeffrey Heer. 
  • Eisteddodd Jonathan ar y pwyllgor i benderfynu ar Wobr Traethawd Hir Doethuriaeth VIS orau 2022, a ddyfernir gan Gymuned Dechnegol Delweddu a Graffeg (VGTC) Cymdeithas Gyfrifiadurol yr IEEE.
  • Eisteddodd Panos ar bwyllgor rhaglen VIS yr IEEE, a adolygodd y papurau llawn.
  • Cyflwynodd Jonathan bapur o'r enw “Reflections and Considerations on Running Creative Visualization Learning Activities”, a gyhoeddwyd yn y gweithdy VisGuides.

Roedd Oklahoma City yn hardd iawn, ac felly hefyd y delweddu”

meddai'r Athro Roberts. Dywedodd ymhellach

Cerddais drwy'r ystafell bosteri cyn y sesiwn bosteri gyda'r hwyr. Roedd yno enghreifftiau anhygoel a hardd o ddelweddu data. Delweddau o jetlifau, fortecsau, delweddu tablaidd lliwgar, i enwi ond ychydig. Ac roedd yn wych gweld ein llyfr yn cael ei arddangos ar stondin Springer. Y tu allan, roedd y tywydd yn heulog ac yn boeth, gyda nifer o arddangosfeydd Calan Gaeaf geometrig mawr, a machlud haul ysblennydd i ddod â'r gynhadledd i ben. Cyfarfûm â nifer o ymchwilwyr newydd, dechrau ar gydweithrediadau newydd, a chefais amser pleserus iawn. Da iawn VIS 2022” 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?