Fy ngwlad:
 dau dolffin yn dod i'r wybneb yn agos iawn at ei gilydd

Mae anadlu cydamserol yn lledaenu clefydau ymysg dolffiniaid trwynbwl a morfilod eraill

Yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd, gallai ymddygiad sy'n atgyfnerthu cysylltiadau cymdeithasol ymysg dolffiniaid trwynbwl enigmatig hefyd arwain at gyfraddau uwch o farwolaethau a heintiau. Cyhoeddwyd yr ymchwil yn in the Journal of Communications Biology y mis hwn.

Ychydig iawn o wybodaeth oedd gennym am ba ffactorau sy’n lledaenu’r Morbilifeirws dinistriol. Mae ein canfyddiadau'n awgrymu bod anadlu cydamserol yn un o'r ffactorau sy'n gyfrifol am ledaenu’r firws ymysg poblogaethau dolffiniaid trwynbwl. Mae eu harferion cymdeithasol pwysig yn cyfrannu at ledaenu’r clefyd. 
Gall ein canfyddiadau hefyd ein helpu i amddiffyn poblogaethau bregus, er enghraifft, un peth yr ydym yn ei wybod yw bod dolffiniaid yn dueddol o wneud fwy o anadlu cydamserol pan fyddant o gwmpas cychod, felly efallai y byddai’n helpu pe bawn yn lleihau’r straen hwn pan fyddwn yn gwybod bod yr haint yn bresennol.

Dr Ewa Kryzyszczyk,  Darlithydd mewn Sŵoleg

Rhywogaeth 'sentinel'

Mae dolffiniaid trwynbwl yn rhywogaeth 'sentinel', sy’n golygu bod pa mor dda neu wael y maent yn dod yn eu blaenau’n arwydd o iechyd yr ecosystem gyfan. Mae dolffiniaid o dan bwysau cynyddol oherwydd newidiadau y mae pobl yn eu hachosi, megis cefnforoedd yn cynhesu a chyflwyniad a lledaeniad clefydau newydd sy'n cael eu cludo ar blastigion a deunyddiau eraill i’r cefnfor. Mae achosion o Morbilifeirws wedi arwain at farwolaethau torfol mewn poblogaethau ledled y byd, gan gynnwys dros 1,650 o ddolffiniaid a ddarganfuwyd ar hyd arfordir Iwerydd yr Unol Daleithiau dros gyfnod o ddwy flynedd, ac amcangyfrifwyd bod dros 40% o’r boblogaeth wedi marw. 

Gwnaethom fodelu ymddygiad yn seiliedig ar arsylwadau a chymysgu dwy boblogaeth o ddolffiniaid yn gymdeithasol (rhanbarth Potomac-Chesapeake Bay yn yr Unol Daleithiau, lle mae'r dolffiniaid yn dymhorol ac yn mudo, ac yn rhannu'r ardal ehangach gyda grwpiau eraill o ddolffiniaid, a Shark Bay yn Awstralia, lle mae'r dolffiniaid yno drwy’r amser ac nid ydynt yn mudo). Roedd y canfyddiadau, a brofir gan gyfraddau dolffiniaid sownd, yn dangos mai'r dolffiniaid a oedd yn wynebu'r risg fwyaf yn y ddwy gymuned oedd yr aelodau ifanc ac oedolion gwrywaidd.

Awgrymodd yr ymchwil hefyd fod cyfradd yr haint yn uwch pan oedd dolffin ifanc yn cyflwyno'r haint i'r grŵp. Mae'n debyg mai'r rheswm am hyn yw bod anadlu cydamserol yn digwydd yn amlach ymysg dolffiniaid ifanc - ac, yn amlach na pheidio, gyda dolffiniaid eraill o fewn eu grŵp oedran - i feithrin y cysylltiadau hynny sy'n ddefnyddiol yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae lledaeniad yr haint o fewn y grŵp ychydig yn llai pan gaiff ei gyflwyno gan oedolion. Roedd y risg leiaf o rannu i’w weld ymysg oedolion benywaidd a lloi.

Mae gan yr ymchwil hon oblygiadau pwysig wrth ragweld pa unigolion o fewn grŵp sydd fwyaf bregus yn ystod epidemig, sy'n arbennig o ddefnyddiol mewn perthynas â rhywogaethau bregus megis dolffiniaid Guiana, sydd hefyd dan fygythiad morbilifeirws.

Mae'r papur, Breathing in sync: how a social behavior structures respiratory epidemic risk in bottlenose dolphins how a social behavior structures respiratory epidemic risk in bottlenose dolphins yn cael ei gyhoeddi yn journal of Communications Biology.