seroplane wing in the sky

Profion ar ddŵr gwastraff awyrennau yn dangos ‘methiant’ mesurau teithio awyr yng nghyfnod Covid

Roedd gan bron pob awyren a gyrhaeddodd tri maes awyr yn y DU yn ystod cyfnod o gyfyngiadau Covid y firws SARS CoV-2 yn eu dŵr gwastraff, yn ôl ymchwil sydd newydd ei chyhoeddi. Canfuwyd y firws hefyd mewn dŵr gwastraff yn y terfynellau cyrraedd.

Er gwaethaf yr holl fesurau oedd gan y DU ar waith i geisio atal pobl â’r salwch rhag hedfan i’r DU, roedd bron pob awyren a brofwyd gennym yn cynnwys y firws, a’r rhan fwyaf o’r carthffosydd terfynol hefyd. Gallai hynny fod oherwydd bod pobl wedi datblygu symptomau ar ôl profi’n negyddol; neu yn osgoi'r system, neu am ryw reswm arall. Ond dangosodd fod methiant rheolaeth ffiniau yn y bôn o ran gwyliadwriaeth Covid.

Yr Athro David Jones ,  Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor

Efallai y bydd ymchwil cynharach gan y tîm yn esbonio pam. Mewn arolwg barn o 2000 o oedolion, cyfaddefodd 23% o ymatebwyr eu bod wedi mynd ar awyren yn ôl i’r DU yn flaenorol wrth deimlo’n sâl. Gofynnodd yr arolwg hwnnw hefyd i ymatebwyr am eu harferion toiled ar deithiau awyren, a chanfuwyd y byddai 13% o unigolion sy'n dal taith awyren pellter byr yn debygol o ysgarthu ar yr awyren; gyda chyfran uwch i'w gweld mewn teithwyr pellter hir, sef tua 36% o'r cyfanswm. Yn seiliedig ar y wybodaeth hon, ynghyd â chyfraddau gollwng Covid, amcangyfrifodd y tîm pe bai samplo dŵr gwastraff yn cael ei sefydlu mewn meysydd awyr yn y dyfodol, gallai ddal 8-14% o achosion SARS-CoV-2 sy'n dod i mewn i'r DU trwy deithiau awyr.

Mae'r ymchwilwyr yn credu y gallai samplu dŵr gwastraff fod yn rhan o system gwyliadwriaeth clefydau heintus ar gyfer y DU yn y dyfodol. Gallai samplu yn y dyfodol hefyd nodi heintiau eraill, fel Norofeirws neu Enterofeirws, gan roi darlun cliriach o bosibl o ba bathogenau sy'n dod i mewn i'r wlad.

Y bwriad yw cael darlun cyffredinol i helpu systemau iechyd y DU i fod yn barod, neu, os yn bosibl, i gael rhybudd ymlaen llaw, o glefydau sy'n dod i'r amlwg. Ni fyddai’n ymarferol profi pob hediad sy’n cyrraedd, ond gallai cymryd dŵr gwastraff o’r rhai sy’n cyrraedd un derfynfa maes awyr a ddefnyddir ar gyfer teithiau pellter hir ddarparu amcangyfrif o’r clefydau sy’n dod i mewn i’r wlad.

"Ar hyn o bryd does gennym ni ddim syniad faint o bobl sy’n dod i mewn i’r wlad yn cario gwahanol glefydau, yn rhannol oherwydd nad oes unrhyw un eisiau cael eu profi yn y fan a’r lle. Mae monitro dŵr gwastraff yn rhoi cipolwg i ni o’r clefydau heintus y gall teithwyr eu cario wrth gyrraedd.

Dr Kata Farkas,  Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor

Mae’r papur‘Wastewater-based monitoring of SARS-CoV-2 at UK airports and its potential role in international public health surveillance’ yn cael ei gyhoeddi heddiw yn PLOS Global Public Health.

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?