Astudiaeth yn canfod bod amrywiadau tymhorol yn yr hinsawdd yn dylanwadu'n fyd-eang ar newidiadau i faint arwyneb llynnoedd
Amrywiadau tymhorol yn yr hinsawdd yw'r rheswm mwyaf yn fyd-eang am newidiadau i faint arwyneb llynnoedd, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae gan yr ymchwil, sydd wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn gwyddonol, Nature, “oblygiadau mawr ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr, iechyd ecosystemau a bywoliaeth pobl.”
Llwyddodd y cydweithrediad rhwng academyddion o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Tsinghua, yn Beijing, Tsieina, i fapio 1.4 miliwn o lynnoedd pob mis rhwng 2001 a 2023. Gwnaed hyn trwy gyfuno setiau data o ddelweddau lloeren, technoleg ddysgu dwfn a chyfrifiadura perfformiad uchel, a oedd yn olrhain sut mae llynnoedd yn crebachu ac yn ehangu yn ystod y tymhorau.
Er bod astudiaethau blaenorol wedi canolbwyntio ar newidiadau hirdymor, mae'r gallu i gynnal asesiadau cynhwysfawr o effaith tymoroldeb wedi ei gyfyngu yn y gorffennol gan brinder data lloeren.
Canfu'r ymchwilwyr fod y llynnoedd a effeithir fwyaf gan dymoroldeb yn ffurfio 66% o arwyneb llynnoedd a 60% o gyfanswm nifer y llynnoedd yn y byd. Mae dros 90% o boblogaeth y byd yn byw mewn rhanbarthau sydd â llynnoedd o'r fath.
Yn ystod digwyddiadau eithafol a achosir gan dymoroldeb, gall yr effeithiau fod yn fwy na maint cyfunol amrywiadau tymhorol rheolaidd a newidiadau hirdymor dros 23 mlynedd, gan ddyblu crebachiad 42% o lynnoedd sy'n crebachu a gwrthbwyso’n llwyr 45% o lynnoedd sy'n ehangu.

Meddai Dr Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol NERC yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor, “Er bod rhai llynnoedd yn dangos tueddiadau hirdymor mwy na thymoroldeb, mae ein dadansoddiad yn dangos y gall effeithiau amodau eithafol a achosir gan dymoroldeb fod yn fwy na’r effaith gyfunol o dueddiadau hirdymor ac amrywiadau tymhorol nodweddiadol. Mae gan yr amodau eithafol eang a sylweddol hyn oblygiadau dwys ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr, iechyd ecosystemau a bywoliaeth pobl.
“Gall crebachiadau mawr, sydyn ym maint yr arwyneb ddatgelu gwaddodion ar waelod llynnoedd, a allai arwain at ollyngiadau methan sylweddol. Mae'r amodau eithafol hyn hefyd yn addasu'r hinsawdd leol ac yn herio gwydnwch ecosystemau dyfrol, gan, o bosib, ansefydlogi gweoedd bwyd systemau llynnoedd, newid dosbarthiad cynhyrchwyr cynradd amlwg, a sbarduno newidiadau cyfundrefn ecosystem hollbwysig, a allai fod yn anghildroadwy, ac effeithio ar lesiant pobl yn y broses.
“Mae ein hymchwil yn dangos yr angen am fonitro a dealltwriaeth gynhwysfawr o dymoroldeb, sy’n hanfodol i wella diogelwch ecosystemau llynnoedd, gwella rheolaeth dros adnoddau dŵr croyw a mireinio amcangyfrifon nwyon tŷ gwydr byd-eang.”
Meddai’r Athro Di Long o Brifysgol Tsinghua, “Mae llynnoedd yn hanfodol ar gyfer ecosystemau, allyriadau nwyon tŷ gwydr ac adnoddau dŵr. Er gwaethaf hyn, ychydig iawn ydym yn ei ddeall am ddynameg eu harwyneb, yn enwedig tymoroldeb, ar raddfeydd cyfandirol i fyd-eang oherwydd prinder arsylwadau lloeren.
“Mae ein hastudiaeth yn dangos mai tymoroldeb yw'r prif ffactor sy'n dylanwadu ar amrywiadau ym maint arwyneb llynnoedd yn fyd-eang. Mae'r canlyniadau hyn yn datgelu dynameg dymhorol a oedd yn gudd o'r blaen ac sy'n hanfodol i ddeall ymatebion systemau dŵr i newidiadau amgylcheddol, diogelu systemau llynnoedd a gwella modelau hinsawdd byd-eang.
Mae'r papur wedi cael cefnogaeth Sefydliad Gwyddorau Naturiol Cenedlaethol Tsieina, Gweinyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg Gweriniaeth Pobl Tsieina, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Ymddiriedolaeth Leverhulme a Gwobr Philip Leverhulme.