
Mae Prifysgol Bangor wedi sicrhau Dyfarniad Prifysgol a Choleg Masnach Deg o fri ar gyfer 2025.
Caiff y Dyfarniad 2* ei gyflwyno am ymrwymiad parhaus y brifysgol i hyrwyddo treuliant moesegol a chyfiawnder byd-eang ar draws ei champysau.
Mae'n cydnabod ymrwymiad parhaus dros ddwy flynedd academaidd i gynyddu ymwybyddiaeth ac i weithredu ar gyfiawnder masnach a globaleiddio yn ystod cyfnod pan mae tirweddau addysgol sy'n newid ac argyfyngau byd-eang sy'n cynyddu yn parhau i herio sefydliadau.
Cyflwynir y Dyfarniad mewn partneriaeth gan y Sefydliad Masnach Deg a Students Organising for Sustainability UK (SOS-UK). Mae hyn er mwyn annog cydweithio rhwng myfyrwyr, staff ac undebau myfyrwyr. Mae'r rhaglen yn cefnogi sefydliadau i gyfarparu myfyrwyr â’r ddealltwriaeth a’r offer i ysgogi newid byd-eang cadarnhaol.
Dywedodd Angela Church, Pennaeth Lleoliadau, Lletygarwch ac Arlwyo Prifysgol Bangor, “Mae cyflawni 2* yn gamp fawr. Mae'n cydnabod gwaith gwych project Masnach Deg y myfyrwyr, yn ogystal â digwyddiadau Masnach Deg Campws Byw sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd i fyfyrwyr. Hoffwn ddiolch i bob aelod o grŵp llywio Masnach Deg am eu hymrwymiad i'r dyfarniad hwn.”
Dywedodd Sarah Brazier, Pennaeth Ymgyrchoedd y Sefydliad Masnach Deg, “Ar ôl dathlu 30 mlynedd o Fasnach Deg yn y Deyrnas Unedig y llynedd, mae prifysgolion yn chwarae rhan hanfodol yn y mudiad Masnach Deg. Mae angerdd ac egni myfyrwyr yn ganolog i greu byd tecach. Mae gwerthu cynhyrchion Masnach Deg ar gampysau, siarad ar ran ffermwyr a gweithwyr ledled y byd, a mentrau dan arweiniad myfyrwyr i gyd wedi cyfrannu at newid.
“Wrth i ni agosáu at ddiwedd blwyddyn academaidd 2025, hoffwn ddiolch o galon i chi a’ch llongyfarch i gyd – staff a myfyrwyr y brifysgol sydd wedi mynd gam ymhellach i gefnogi’r mudiad Masnach Deg drwy eich ceisiadau am ddyfarniadau. Mae eich ymrwymiad a'ch creadigrwydd yn parhau i ysgogi newid. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i ddatblygu dyfodol mwy teg a mwy cynaliadwy i bawb".
Aseswyd prifysgolion ar draws ystod eang o feysydd, gan gynnwys Ymchwil a Chwricwlwm, Ymgyrchu a Dylanwadu, a Chaffael, Adwerthu ac Arlwyo.
Dyfarnwyd pwyntiau ychwanegol am ddulliau arloesol ac effeithiol o ymgysylltu myfyrwyr a staff â chynaliadwyedd byd-eang a masnach foesegol.