Ar 20 Mai 2020, newidiwyd y gyfraith ynghylch rhoi organau yn Lloegr i ganiatáu i fwy o bobl gydsynio i roi organau. Ym mis Rhagfyr, bydd deng mlynedd ers i'r gyfraith newid yng Nghymru.
Mae'r newidiadau'n golygu y bydd pobl 18 oed a hŷn sydd wedi byw yng Nghymru a Lloegr ers dros 12 mis, ac sy'n marw yng Nghymru neu Loegr, yn cael eu hystyried fel pe baent wedi cydsynio i roi organau, oni bai eu bod wedi gwneud penderfyniad clir i beidio â bod yn rhoddwr. Gellir cofnodi'r penderfyniad hwnnw ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.
Yn anffodus, yn y deng mlynedd ers i'r bil ddod i rym yng Nghymru, mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n diystyru penderfyniad eu perthynas ymadawedig yng Nghymru, sy'n golygu bod llai o organau ar gael i bobl sydd wir eu hangen. Mae ymatebion y cyhoedd ar y mater yn parhau i fod yn gymysg, gyda llawer yn mynegi pryderon ynghylch gallu'r teuluoedd i ddiystyru penderfyniad yr ymadawedig wrth gydbwyso hyn â'r angen i gynnal ymddiriedaeth yn y system. Fodd bynnag, mae cefnogaeth y cyhoedd i roi organau wedi parhau’n uchel (80%) cyn ac ar ôl y newid yn y gyfraith yn Lloegr.
Mae'r adnodd ar-lein newydd hwn yn helpu teuluoedd i ddeall beth mae rhoi organau’n ei olygu i unigolyn, drwy egluro sut mae'r gyfraith yn gweithio, cefnogi sgyrsiau gwybodus am roi organau, a sicrhau bod penderfyniadau pobl yn cael eu deall a'u parchu'n well. Mae'n gwneud hyn drwy rannu profiadau go iawn pobl sydd wedi bod yn rhan o’r drafodaeth am roi organau ar ôl i'w perthynas farw, a'r gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â chefnogi teuluoedd drwy gyfnod anodd iawn.
Mae’r adnodd ar-lein, sydd ar gael ar wefan Healthtalk, yn cynnwys hanesion uniongyrchol gan deuluoedd ledled Lloegr am roi organau. Bydd teuluoedd yn gallu clywed nyrsys arbenigol yn egluro sut maent yn cefnogi teuluoedd ac yn egluro sut mae'r ddeddfwriaeth wedi'i chynllunio i helpu unigolion. Mae ganddo adrannau penodol ar ethnigrwydd a ffydd, gyda'r nod o gefnogi pobl sy’n rhan o gymunedau lle gallai siarad am roi organau fod yn heriol, neu lle mae gwybodaeth anghywir wedi achosi dryswch neu ddiffyg ymddiriedaeth. Mae’r adnodd yn cynnwys esboniadau clir o 'gydsyniad tybiedig' yn y system 'optio allan', rôl teuluoedd, a sut i gofrestru neu rannu eich penderfyniad.
Crëwyd yr adnodd ar ôl ymchwil helaeth, a oedd yn cynnwys adolygu dadleuon Seneddol, dadansoddi cyfryngau, data archwilio arferol a chyfweliadau â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, y cyhoedd, a theuluoedd rhoddwyr posibl.
Mae'r adroddiad ar gael i'w ddarllen yma: https://researchonline.lshtm.ac.uk/id/eprint/4673056/
Roeddem yn clywed yn aml gan deuluoedd pa mor llethol a dryslyd oedd cael eu holi ynglŷn â rhoi organau ar adeg mor emosiynol ac amrwd — yn aml, ychydig oriau’n unig ar ôl marwolaeth sydyn anwylyd. Drwy rannu eu straeon yma, rydym yn gobeithio y bydd eraill yn teimlo'n fwy parod i wynebu’r hyn y mae rhoi organau yn ei olygu, a’i fod yn llai o sioc pan gaiff y pwnc ei godi, a’u bod yn fwy hyderus wrth drafod eu penderfyniadau ymlaen llaw.
Anaml y bydd teuluoedd yn cael trafferth gyda’r egwyddor o roi organau, ond pan gânt eu hwynebu â realiti’r hyn y mae’n ei olygu; sef yr amser sydd ei angen i drefnu’r broses o adfer organau, a’r canfyddiad o weithdrefnau ymledol, mae’n ddealladwy nad yw teuluoedd yn teimlo’n barod i wneud hynny. Er bod eu hymatebion yn gwbl ddynol, gallant, yn anfwriadol, ddiystyru penderfyniad eu hanwylyd — gan wadu’r cyfle iddynt helpu eraill ac, mewn rhai achosion, mynd yn groes i fwriad y gyfraith. Dyna pam mae cefnogaeth, sgyrsiau cynnar a gwybodaeth glir mor hanfodol.
Dangosodd ein hymchwil, er bod cefnogaeth y cyhoedd i roi organau’n parhau i fod yn uchel, fod llawer o deuluoedd yn dal i fod yn ansicr o ran beth oedd dymuniadau eu hanwylyd. Mae'r adnodd sydd wedi'i ddiweddaru ar Healthtalk yn cynnig canllawiau clir a thosturiol i helpu unigolion a theuluoedd i ddeall y gyfraith ac i sicrhau eu bod yn cael sicrwydd mewn amgylchiadau hynod o anodd.
Mae Healthtalk yn gasgliad anhygoel o fideos byr sydd ar gael i bobl eu gwylio. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd gyfeirio pobl at y fideos i'w helpu i wneud penderfyniadau ynghylch rhoi organau. Mae'r fideos yn adnodd hyfforddi gwych i fyfyrwyr meddygaeth, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mae Healthtalk yn adnodd am ddim, ac rwyf wrth fy modd bod gwaith ymchwil staff Prifysgol Bangor wedi ei wneud yn bosibl.