Wrth ddewis graddio yn y maes gofal Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a chwblhau cymhwyster proffesiynol ar yr un pryd, fe fydd y myfyrwyr yn gadael y Brifysgol yn hynod gyflogadwy.
Mae chwe myfyriwr wedi cofrestru i astudio cynllun Cam wrth Gam, Lefel a 3, cynllun Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant eleni, y nifer fwyaf erioed i gofrestru o dan y cynllun sy’n cael ei gynnig gan Fudiad Meithrin.
Bwriad y cynllun yw rhoi profiad ymarferol a hyfforddi myfyrwyr yn y gweithle. Wedi iddynt gwblhau’r cwrs byddant wedi eu cymhwyso i weithio mewn amrywiol swyddi yn cynnwys, Arweinydd Cylch Meithrin, Rheolwr Meithrinfa ac Arweinydd Clwb Ar Ôl Ysgol neu yn gallu gweithio efo plant a phobl ifanc hyd at 25 oed.
Dros y deunaw mis nesa’ bydd angen i’r chwe myfyriwr fynychu gweithdai a chwblhau tasgau amrywiol wrth weithio mewn lleoliadau gofal plant. Mae'r lleoliadau hyn yn dod o ymbarel y Mudiad Meithrin, sy’n cynnwys darpariaethau gofal plant, yn feithrinfeydd dydd preifat cyfrwng Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Un o’r myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs yw Mari Hughes o Langefni, mae hi’n hynod werthfawrogol o’r cyfle i astudio’r cynllun Cam wrth Gam: “Credaf fod astudio Cam wrth Gam ochr yn ochr gyda fy nghwrs gradd yn gyfle gwych nid yn unig i ennill cymhwyster newydd ond i ychwanegu at fy mhrofiadau yn y byd plant ac addysg yn ogystal ar Gymraeg. Mae hwn yn gyfle gwych i mi ar gyfer fy nyfodol a gobeithio am fy helpu i gyrraedd fy uchelgais i weithio yn y maes gofal plant.”
Meddai Leanne Marsh Prif Weithredwr Dros Dro Mudiad Meithrin: "Mae Mudiad Meithrin yn hynod falch o gydweithio gyda Phrifysgol Bangor i gefnogi cenhedlaeth nesaf y gweithwyr proffesiynol ym maes gofal plant a chwarae cyfrwng Cymraeg. Mae’r bartneriaeth hon yn allweddol i ni wrth ddatblygu’r gweithlu sector Gymraeg fydd yn sicrhau'r dechrau gorau posib i bob plentyn. Mae’r bartneriaeth yn cryfhau ein hymrwymiad ar y cyd i Ofal plant a Chwarae o ansawdd uchel ac yn gynhwysol ledled Cymru."
Meddai Rhian Tomos darlithydd ym maes plant ym Mhrifysgol Bangor: “Bwriad y cydweithio hwn ydy darparu gweithwyr dwyieithog proffesiynol ar gyfer y gweithlu plant a phobl ifanc er mwyn ehangu profiadau a chynyddu cyflogadwyedd ein myfyrwyr ond hefyd er mwyn cynorthwyo Mudiad Meithrin i recriwtio staff ar gyfer eu lleoliadau.”
Os oes gennych chi ddiddordeb cofrestru ar gyfer y cwrs gradd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ym Mhrifysgol, mae rhagor o wybodaeth drwy glicio’r ddolen yma.