Gwyddonwyr yn datgelu sut y gallai coed aeddfed addasu i lefelau uwch o CO2 a ragwelir o ran hinsoddau yn y dyfodol
Mae gwyddonwyr wedi datgelu sut y gallai coed aeddfed addasu i lefelau uwch o CO2 yn yr atmosffer yn y dyfodol, gan alluogi twf parhaus a’r gallu i dynnu carbon ohono.
Mae academyddion o Brifysgol Bangor, sy'n gweithio fel rhan o gonsortiwm rhyngwladol a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), wedi cyfrannu at ymchwil sy'n dangos y gall coed aeddfed ymateb i newid yn yr atmosffer drwy addasu dyraniad carbon i hyrwyddo strategaethau "gwneud dros eu hunain" neu "allanoli" o ran cyrchu maetholion pridd.
Cafodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Proceeding of the National Academy of Sciences (PNAS) ei chynnal yng nghyfleuster ymchwil coedwigaeth awyr agored Prifysgol Birmingham, BIFoR-FACE.
Darganfu ymchwilwyr fod coed sy’n tyfu mewn atmosffer sy’n llawn CO2 yn defnyddio dulliau tactegol masnachu carbon yn y pridd am faetholion.
Cafodd blychau gwreiddiau ag ochrau persbecs eu claddu yn y goedwig, i ganiatáu i wyddonwyr gael mynediad at y pridd a'r gwreiddiau islaw coed derw Seisnig anferth, tua 180 oed, sy'n tyfu mewn atmosffer sy'n cynnwys dros draean yn fwy o CO2. Dyma sut y mae disgwyl i'r atmosffer fod erbyn canol yr 21ain ganrif.
Yn ôl mesuriadau a wnaed ar ôl cynyddu CO2 yn y goedwig dros bum mlynedd, mae’r coed derw wedi gweld cynnydd gwerth 73% yn eu systemau canghennu gwreiddiau mân. Roedd y strategaeth ‘gweithredu dros eu hunain’ hon wedi helpu’r coed i archwilio mwy o’r pridd drwy gydol y flwyddyn er mwyn dod o hyd i faetholion ac i’w hamsugno.
Roedd y strategaethau "allanoli" a ddefnyddiwyd ganddynt, sy'n cynnwys partneriaethau masnach â'r gymuned microbaidd pridd, yn dangos patrymau tymhorol penodol.
Gwelwyd cynnydd gwerth 63% o ran faint o foleciwlau organig bach a oedd yn cael eu rhyddhau neu eu harchwysu’n gynnar yn y gwanwyn a'r hydref, sy'n paratoi microbau pridd i ryddhau maetholion sydd wedi'u cloi mewn priddoedd, a thrwy hynny, diwallu anghenion maetholion coed. Roedd cynnydd gwerth 17% hefyd yn nifer y ffyngau symbiotig sy'n gysylltiedig â gwreiddiau yn yr hydref.
Yn ogystal, o dan lefelau CO2 uwch, nid yn unig y gwnaeth coed fuddsoddi mwy o garbon yn eu prosesau masnachu yn y pridd, fe wnaethant hefyd newid y coctel o gemegau a ryddhawyd fel archwys gwreiddiau, gan ddarparu un strategaeth 'allanoli' arall i ennill maetholion a chynnal twf.
Dywedodd yr Athro Andy Smith, o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, “Mae gan goedwigoedd rôl bwysig fel sinciau carbon i helpu i wrthbwyso allyriadau CO2 anthropogenig. Mae ein hymchwil yn datgelu sut y gellir cynnal twf coedwigoedd trwy strategaethau tanddaearol newydd sy'n cynnal cyflenwad digonol o faetholion pridd i barhau i amsugno CO2 atmosfferig trwy ffotosynthesis ac atafaelu carbon.”
Dywedodd Dr Michaela Reay, prif awdur Prifysgol Bryste, a gynhaliodd yr ymchwil ar gyfer yr astudiaeth hon ym Mhrifysgol Birmingham, “Yn ogystal ag amsugno maetholion a dŵr o briddoedd, mae gwreiddiau hefyd yn arddangos coreograffi clyfar a deinamig, sy’n cynnwys cyfaddawdau arbenigol iawn gyda microbau pridd trwy strategaethau archwilio maetholion amrywiol drwy gydol y flwyddyn.
“Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod coed yn fwy ystwyth wrth optimeiddio twf nag a feddyliwyd yn flaenorol, a byddant yn parhau i fod yn ystwyth mewn atmosfferau sydd â lefelau uwch o CO2, cyn belled â bod cyflenwadau maetholion y pridd yn cael eu cynnal.”
Dywedodd yr uwch awdur, yr Athro Sami Ullah o Brifysgol Birmingham, “Bydd y mewnwelediadau mecanistaidd hyn i’r ffordd y bydd coed sy’n tyfu mewn atmosfferau’r dyfodol yn caffael maetholion pridd yn cael goblygiadau polisi sylweddol, sy’n uniongyrchol berthnasol i fentrau lliniaru hinsawdd megis Cytundeb Hinsawdd Paris, Bargen Werdd yr Undeb Ewropeaidd, ac uchelgeisiau sero net y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd erbyn 2050.”
Gan nad yw'r maetholion sydd ar gael yn y pridd yn ddiderfyn, y cwestiwn sy’n parhau o hyd yw a allai buddsoddiad carbon ychwanegol coed wrth gaffael maetholion ddisbyddu stociau maetholion y pridd yn y pen draw.
Gall ymatebion coedwigoedd i newidiadau gorfodol, megis lefelau uwch o CO2 yn yr atmosffer, gymryd blynyddoedd lawer i gyrraedd pwynt cydbwysedd newydd. Bydd yr ymchwil barhaus yn BIFoR-FACE yn asesu a all cyflenwadau maetholion barhau i ddiwallu anghenion maetholion coed.