Astudiaeth Newydd: Tynged riffiau cwrel yn gysylltiedig â grymoedd cefnforol cudd o dan yr wyneb, medd gwyddonwyr
Mae papur gwyddonol newydd yn datgelu y gallai sawl rhagfynegiad am ddyfodol riffiau cwrel yn wyneb newid hinsawdd fod yn hepgor darn hanfodol o'r pos.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Nature Ecology & Evolution, ac dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Brenin Abdullah (KAUST), yn dadlau bod yn rhaid i wyddor riffiau cwrel ystyried yn well y grymoedd ffisegol sy'n llunio amgylchedd riffiau.

Mae rhain yn cynnwys ceryntau cefnforol a dŵr yn codi a patrymau tymheredd dŵr dwfn a llifau maetholion.
Heb gynnwys y ffactorau hyn mewn modelau ecolegol, meddai'r awduron, rydym mewn perygl o gamddeall ble a pham mae riffiau cwrel yn goroesi—neu'n marw—o dan straen hinsawdd. O ganlyniad i hyn, nid yw llunwyr polisi a rheolwyr cadwraeth yn mynd ati i achub riffiau cwrel yn y modd sydd fwyaf tebygol o lwyddo.
“Nid yw riffiau cwrel yn bodoli ar wahân i’r cefnfor o’u cwmpas. “Maen nhw’n rhan o dirwedd forol ddeinamig sydd wedi’i llunio gan symudiad dŵr, cyflenwad maetholion, a phatrymau tymheredd o dan yr wyneb,” meddai’r prif awdur Dr Laura Richardson, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. “Ond mae ein modelau presennol o ddyfodol riffiau cwrel ac effeithiau gwres mawr yn y moroedd yn aml yn dibynnu’n llwyr ar ddata lloeren o dymheredd arwyneb y môr. Mae hynny'n hepgor llawer o'r stori."
Mae'r papur yn tynnu sylw at enghreifftiau trawiadol lle mae prosesau cefnforol sylweddol wedi newid sut mae riffiau yn ymateb i straen hinsawdd.
Ar ynys Palmyra Atoll yn y Môr Tawel, goroesodd cwrelau El Niño 2015, sef y digwyddiad gwaethaf o’i fath ar gofnod. Ffenomen hinsawdd naturiol yw El Niño sy'n digwydd pan fydd dŵr yn Nwyrain Cefnfor y Môr Tawel yn cynhesu'n fwy na'r arfer. Bu i’r cwrelau hyn oroesi oherwydd y dŵr oer, llawn maetholion a gludwyd gan geryntau cefnforol grymus.
Mewn cyferbyniad, profodd riffiau yn Archipelago Chagos yng nghanol Cefnfor India a Moorea ym Mholynesia Ffrengig gannu difrifol oherwydd straen gwres dŵr dwfn yn 2019 na ganfuwyd gan loerennau oedd yn mesur tymheredd wyneb y môr.
Mae nodi rhesymau eigionegol pam mae rhai riffiau yn goroesi gwres mawr yn y moroedd tra bod riffiau eraill yn marw yn hanfodol i helpu arwain ymdrechion i amddiffyn riffiau cwrel.
Adolygodd yr ymchwilwyr, gan gynnwys o Brifysgol James Cook, dros 1,000 o bapurau gwyddonol. Canfuasant bod llai na 10% wedi ystyried yn benodol ecoleg (y berthynas rhwng organebau byw, gan gynnwys bodau dynol, a'u hamgylchedd ffisegol) ac eigioneg (astudiaeth o nodweddion ffisegol, cemegol a biolegol y cefnfor) y lleoliadau astudio.
Mae'r diffyg integreiddio disgyblaethau gwyddonol yma, yn ôl yr awduron, yn gallu esbonio pam nad yw llawer o ragolygon ynghylch riffiau yn cyfateb yn gynyddol ag arsylwadau o waith maes.
“Nid yw deall gwydnwch riffiau yn ymwneud â mesur straen gwres yn unig—mae'n ymwneud â deall y prosesau ffisegol perthynol a all liniaru neu fwyhau gwres, gan gyflenwi neu gyfyngu ar adnoddau maethol hanfodol ar gyfer cymunedau riffiau cwrel ar yr un pryd” meddai'r uwch awdur Dr Michael Fox, Athro Cynorthwyol Gwyddor Forol yn KAUST. “Gallai pontio’r bwlch hwn wella’n sylweddol sut rydym yn modelu, yn rheoli ac yn amddiffyn riffiau cwrel mewn byd sy’n cynhesu.”
Mae'r ymchwilwyr yn galw am ymdrech newydd o gydweithio rhyngddisgyblaethol rhwng eigionegwyr ac ecolegwyr, a chasglu data empirig ehangach, fel modd o wneud penderfyniadau mwy hirben a llunio gwell strategaethau cadwraeth.
“Yn bwysig, nid ydym yn dechrau o’r dechrau”, meddai’r Athro Gareth Williams, Athro Bioleg Forol ym Mhrifysgol Bangor a chyd-awdur yr astudiaeth. “Ers dros ganrif, mae 'eigioneg fiolegol' wedi gosod y sylfeini ar gyfer cysylltu'r amgylchedd ffisegol ag ecoleg organebau morol, dim ond angen cymhwyso’r dulliau hyn ychydig yn well i wyddor riffiau cwrel sydd angen i ni ei wneud”.