Darlithydd Bangor yn Cyflwyno mewn Symposiwm Rhyngwladol yn Rhydychen
Dydd Gwener, 19 Medi 2025, cyflwynodd Dr Gareth Evans-Jones, Darlithydd mewn Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, ei ymchwil mewn symposiwm academaidd ryngwladol arwyddocaol a gynhaliwyd yng Ngholeg Mansfield, Prifysgol Rhydychen.
Daeth y symposiwm, 'Intergenerational Dialogue for Just Futures', ag ysgolheigion, ymchwilwyr a llunwyr polisi o bob cwr o’r byd i drafod sut y gall deialog rhwng cenedlaethau gyfrannu at gyfiawnder, cymod a thrawsnewid cymdeithasol.
Agorwyd y digwyddiad gyda darlith gywerinod gan yr Athro Youssef Mahmoud, cyn Is-ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ac Uwch Gynghorydd yn y Sefydliad Heddwch Rhyngwladol, a archwiliodd arwyddocâd byd-eang deialog wrth adeiladu heddwch a diogelwch cymunedol.

Fel rhan o’r sesiwn 'Understandings of Intergenerational Dialogue', cyflwynodd Dr Evans-Jones bapur yn dwyn y teitl, 'Relational Ethics in Peacebuilding: Intergenerational Listening as a Method of Restorative Justice'. Pwysleisiodd ei ddarlith rôl drawsnewidiol gwrando rhyng-genedlaethol wrth feithrin cymod, adeiladu ymddiriedaeth, a hyrwyddo cyfiawnder adferol ar draws cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro. Cyhoeddir fersiwn estynedig o’r papur hwn mewn rhifyn o’r Journal of Dialogue Studies.
Roedd y symposiwm yn cynnwys ystod eang o safbwyntiau rhyngwladol, gyda chyfraniadau ar gyfiawnder rhyng-genedlaethol mewn cyd-destunau mor amrywiol â Gogledd Iwerddon, De Affrica, Brasil, Corea, a thu hwnt. Llwyddwyd i ddwyn sylw at nerth deialog cydweithredol rhwng cenedlaethau wrth lunio dyfodol mwy teg a chynaliadwy.
Meithrinodd y symposiwm hefyd berthnasau gwaith newydd a chydweithrediadau rhyngwladol arwyddocaol, a bydd Dr Evans-Jones yn chwarae rhan weithredol mewn ambell brosiect sydd yn yr arfaeth a ddatblygir dros y misoedd nesaf.