Mae’r Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol Bangor wedi chwarae rôl allweddol wrth gefnogi niwclear yng Ngogledd Cymru ers sefydlu yn 2017. O dan arweinyddiaeth sefydlol yr Athro Bill Lee FREng FLSW, ac ymroddiad ddiflino ein hymchwilwyr, partneriaid a chydweithredwyr, mae’r Sefydliad wedi datblygu’n ganolfan arloesi ag arbenigedd niwclear yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Mae’r llwyddiant hwn hefyd yn adlewyrchu ymroddiad a dyfalbarhad nifer o bobl o gymunedau lleol a’n partneriaid diwydiannol, gwleidyddion o bob plaid sydd wedi hyrwyddo Wylfa fel conglflaen yn nyfodol ynni’r Deyrnas Unedig.
Mae Adweithyddion Modiwlaidd Bach yn cynrychioli cenhedlaeth newydd o dechnoleg niwclear: sef gorsaf bŵer cryno a gynhyrchir mewn ffatrïoedd, y gellir eu defnyddio’n gyflymach ac yn fwy effeithlon o ran cost na’r adweithyddion traddodiadol. Technoleg sydd wedi eu profi'n flaengar ar gyfer rhaglen y 21ain ganrif. Byddant yn darparu pŵer dibynadwy, carbon isel; yn ategu ffynonellau ynni adnewyddadwy ac yn helpu i sicrhau diogelwch ynni’r Deyrnas Unedig am ddegawdau i ddod.
Mae'r Wylfa, sydd wedi’i lleoli ar Ynys Môn, yn safle delfrydol ar gyfer arloesi o’r fath. Mae ganddi dreftadaeth niwclear gref, cysylltiadau grid cadarn, a gweithlu lleol medrus wedi’i lunio gan fwy na hanner canrif o weithrediadau niwclear diogel. O'r orsaf bŵer Magnox Wylfa wreiddiol i'r atomfa yn Nhrawsfynydd, mae Gogledd Cymru wedi bod yn gartref i genedlaethau o weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd wedi cyfrannu at stori lwyddiannus niwclear y Deyrnas Unedig.
Mae Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor, ei barc gwyddoniaeth M-SParc a grwpiau eraill yn croesawu’r cyfle i chwarae rhan ganolog yn y bennod newydd hon – gan hyfforddi a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, peirianwyr ac weithredwyr niwclear a fydd yn cynnal yr ymdrech ddegawdau hir hon.
Rydym yn gyffrous i weld twf parhaus y sector niwclear yng Ngogledd Cymru – datblygiad a fydd yn dod â manteision parhaol i Gymru a’r Deyrnas Unedig ehangach. Mae Wylfa yn safle eithriadol gyda hanes balch o weithredu niwclear diogel a gweithlu lleol medrus iawn. Mae’r cam nesaf hwn yn cynnig y cyfle i’r rhanbarth arwain y byd ym maes cyflwyno a gweithredu technoleg adweithydd modiwlar bychan fasnachol, a chydweithio â’r gymuned ehangach yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y rhai a gynrychiolir yn y South West Nuclear Hub. Da iawn i bawb, pob lwc, a chroeso i Gymru adweithydd modiwlar bychan BachRolls-Royce.”