Mae adroddiad newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi bron i dair mil o rywogaethau sydd bellach yn bodoli mewn pum lleoliad neu lai ledled Cymru, gan eu gwneud yn agored iawn i golli cynefinoedd, newid hinsawdd, a digwyddiadau trychinebus sydyn. Mae’r adroddiad Rhywogaethau mewn Perygl, a ddisgrifir fel yr asesiad cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, yn catalogio popeth o chwilod yr Wyddfa a'r fritheg frown i gregyn pys Arctig-Alpaidd a mwsogl plu gwlanog.
Mae Cymru eisoes wedi colli 304 o rywogaethau ers i gofnodi biolegol systematig ddechrau yn y 1800au, gydag 11 rhywogaeth wedi'u colli ers dechrau'r mileniwm yn unig, gan gynnwys y durtur, rhegen yr ŷd, a rhisglyn y morfa. Ond, gwêl Dr Tyler Hallman, Darlithydd mewn Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, obaith gwirioneddol yn sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd ati. Wrth siarad â'r BBC, dywedodd:
Rwy'n credu bod yna straeon llwyddiant cadwraeth enfawr. Mae'r durtur Ewropeaidd wedi diflannu yng Nghymru ond, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ei phoblogaeth yn Ewrop wedi cynyddu'n fawr felly pwy a ŵyr, efallai y bydd un yn dod yn ôl. Efallai y byddwch chi'n gweld pethau'n dychwelyd wrth i amodau wella a'r rhywogaeth gyfan wneud yn well. Mae hynny'n beth cadarnhaol iawn, mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud, mae'n debyg.
Mae'r adroddiad yn nodi llwybrau clir ar gyfer gweithredu cadwraethol. Dim ond ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y mae bron i hanner y rhywogaethau sydd mewn perygl (47%) i'w cael, gan amlygu pwysigrwydd hanfodol rhwydwaith safleoedd gwarchodedig Cymru. Mae Tywyn Niwbwrch ar Ynys Môn yn unig yn cynnal 130 o'r rhywogaethau hyn sydd mewn perygl, gan ddangos sut y gall rheoli cynefinoedd yn ofalus mewn safleoedd allweddol wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Pwysleisiodd Dr Hallman,
Mae angen i safleoedd gwarchodedig Cymru weithredu fel rhwydwaith cysylltiedig, gan ganiatáu i rywogaethau symud a phoblogaethau adfer.
Nid oes rhaid i achub y rhywogaethau hyn fod yn rhy ddrud. Dywedodd Mannon Lewis, arweinydd prosiectau strategol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth y BBC fod llawer o atebion yn syml ac yn rhad, fel addasu cyfundrefnau pori a newid pryd mae glaswellt yn cael ei dorri neu wrychoedd yn cael eu tocio. Mae’r adroddiad llawn Rhywogaethau mewn Perygl ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Gyda'r dystiolaeth bellach ar gael, mae'r pwyslais yn troi at gyflawni camau cadwraeth yn y safleoedd sydd bwysicaf.