Adroddiad newydd yn datgelu sut mae pobl ifanc yn defnyddio cyfeillion deallusrwydd artiffisial
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi taflu goleuni ar sut mae pobl ifanc yn defnyddio cyfeillion deallusrwydd artiffisial.
Edrychodd eu hadroddiad ar bobl ifanc sy'n defnyddio sgwrsfotiau deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT, a Character.ai yn eu bywydau beunyddiol, gan ddarparu dadansoddiad manwl o arferion, cymhellion a chanfyddiadau.
Bu iddynt archwilio patrymau defnydd ac effaith gymdeithasol y technolegau newydd hyn ar bobl ifanc rhwng 13 a 18 oed, gan edrych hefyd ar foddhad y bobl ifanc ynddynt ac i ba raddau roeddent yn ymddiried yn y dechnoleg.
Canfuwyd bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau (56%) yn credu bod gan systemau deallusrwydd artiffisial a ddefnyddir ar gyfer cwmni y gallu i feddwl neu ddeall. Yn hollbwysig, fodd bynnag, mae 77% yn credu na all cyfeillion deallusrwydd artiffisial "deimlo".
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd gan y Labordy Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol, ac a ariannwyd gan Responsible AI UK, wedi dangos bod cyfeillion deallusrwydd artiffisial eisoes yn bresenoldeb ystyrlon ym mywydau llawer o bobl ifanc yn y Deyrnas Unedig.
Dywed yr ymchwilwyr, yn achos y rhan fwyaf o ddefnyddwyr, nad yw'n ymddangos bod y systemau hyn yn disodli cyfeillgarwch gyda phobl nac yn achosi niwed eang. Yn hytrach, ymddengys y cânt eu defnyddio'n ystyrlon, megis ar gyfer cyngor, chwilfrydedd ac adloniant, a bod lleiafrif sylweddol yn eu defnyddio fel cyfrwng i drafod materion o bwys.
Ar yr un pryd, mae grŵp bach ond sylweddol iawn o bobl ifanc yn ymwneud yn fwy dwys â chyfeillion deallusrwydd artiffisial, sy'n arwyddocaol o ystyried y marwolaethau sy'n gysylltiedig â ChatGPT a Character.ai, a ddatblygwyd gan Open AI.
Mae'r data'n dangos bod 96% o'r ymatebwyr wedi defnyddio o leiaf un o'r 31 ap a restrir yn yr arolwg fel cydymaith deallusrwydd artiffisial.
Mae data arolwg cynrychioliadol o 1,009 o ddefnyddwyr yn eu harddegau yn dangos y dywed 53% o'r rhai a holwyd eu bod yn ymddiried naill ai’n llwyr neu’n rhannol yn yr wybodaeth a'r cyngor a gânt gan gymdeithion deallusrwydd artiffisial. Mewn cyferbyniad, dim ond 13% sy'n mynegi diffyg ymddiriedaeth rannol neu lwyr, gyda 34% ddim yn siŵr.
Wrth gymharu sgwrsio gyda deallusrwydd artiffisial â sgwrsio gyda ffrindiau go iawn, mae 44% o'r ymatebwyr yn canfod bod sgyrsiau gyda chyfeillion deallusrwydd artiffisial ychydig neu lawer llai boddhaus. Mae bron i draean (32%) yn nodi eu bod yn fwy boddhaus, tra dywed 24% bod y profiadau tua'r un fath.
Mae dros ddwy ran o dair (67%) o'r ymatebwyr yn teimlo nad yw defnyddio cyfeillion deallusrwydd artiffisial "yn effeithio ar eich cyfeillgarwch o gwbl gyda phobl", tra bod chwarter (26%) yn credu bod deallusrwydd artiffisial mewn gwirionedd yn "eich helpu i feithrin mwy o gyfeillgarwch gyda phobl", o bosibl trwy ganiatáu ymarfer sgiliau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae lleiafrif bach (7%) yn credu bod deallusrwydd artiffisial yn “disodli rhai o’ch cyfeillion dynol”.
Un canfyddiad arwyddocaol o'r arolwg yw'r graddau y mae defnyddwyr yn eu harddegau yn troi at ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer trafodaethau pwysig. Er bod 44% yn datgan na fyddent byth yn dewis deallusrwydd artiffisial dros berson go iawn ar gyfer mater difrifol, mae 52% o'r ymatebwyr wedi ymddiried mewn cydymaith deallusrwydd artiffisial am rywbeth pwysig neu ddifrifol o leiaf unwaith.
Canfuwyd bod defnyddwyr yn gwerthfawrogi'r rhyddid i fynegi eu hunain heb ofni beirniadaeth na chanlyniadau cymdeithasol a'u bod yn gweld deallusrwydd artiffisial fel cyfrwng diogel i fynegi meddyliau na fyddent efallai'n eu rhannu â chyfoedion. Mae’r ffaith fod cymdeithion deallusrwydd artiffisial ar gael ddydd a nos yn atyniad sylweddol.
Dywedodd Andrew McStay, sy’n Athro Technoleg a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor a Chyfarwyddwr y Labordy Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol, “Mae systemau deallusrwydd artiffisial bellach yn anhygoel o glyfar. Ychydig flynyddoedd yn ôl, doedd sgwrsfotiau a chynorthwywyr llais byth yn 'deall' fel petai beth roedd pobl yn ei olygu, ond mae systemau deallusrwydd artiffisial heddiw yn eglur, yn berswadiol, ac weithiau'n debyg i bobl – hyd yn oed yn ymddangos fel petaen nhw’n gallu uniaethu. Er nad yw'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn credu y gall cyfeillion deallusrwydd artiffisial deimlo, mae mwyafrif yn credu y gallan nhw feddwl neu ddeall. Mae'r gwahaniaeth hwn yn bwysig. Mae ein canlyniadau'n dangos eu bod yn priodoli nodweddion tebyg i'r meddwl i gymdeithion deallusrwydd artiffisial ac yn eu trin fel asiantau bwriadol. Mae'r canfyddiad hwn yn helpu i esbonio pam mae pobl ifanc yn ymddiried mewn cyngor gan ddeallusrwydd artiffisial, yn datgelu gwybodaeth bersonol i’r cyfryngau hyn, ac weithiau'n profi ymwneud gyda deallusrwydd artiffisial fel rhywbeth mwy boddhaol na sgyrsiau gyda ffrindiau. Mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd efelychu empathi.”
Dywedodd Vian Bakir, Athro Cyfathrebu Gwleidyddol a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor, "Ar y cyfan, mae'r canfyddiadau'n cefnogi dull llywodraethu sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn cefnogi ymdrechion i atal achosion eithafol fel y rhai a adroddwyd o'r Unol Daleithiau, ond rydym ni hefyd yn rhybuddio rhag llithro i banig moesol. Nid ydym yn dweud hyn i wanhau ymdrechion i atal niwed, ond i sicrhau na anwybyddir y canfyddiad ehangach bod cyfeillion deallusrwydd artiffisial yn dechnoleg y gellir sefydlu perthynas â hi. Mae angen ehangach i ddeall bod pobl ifanc yn byw mewn byd lle mae prif dechnolegau’r cyfryngau yn medru uniaethu; ac nid yw effaith hyn yn hysbys eto. Bydd angen ymchwil barhaus a chadw golwg fanwl ar bolisi wrth i systemau a defnydd esblygu, ond mae'r dystiolaeth bresennol yn glir. Mae pobl ifanc yn ffurfio perthnasau â systemau deallusrwydd artiffisial ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw’n credu mai'r ateb yw, ydy, mae systemau deallusrwydd artiffisial a ddefnyddir fel cyfeillion yn eu deall nhw.”