Daw'r cyhoeddiad ychydig fisoedd wedi i lywodraeth San Steffan gadarnhau mai’r Wylfa yn Ynys Môn fydd cartref Adweithydd Modiwlaidd Bach cyntaf y Deyrnas Unedig, a ddatblygwyd gan gwmni Rolls-Royce. Mae hyn yn golygu y bydd gogledd Cymru yn chwarae rhan ganolog yn uchelgais y Deyrnas Unedig i gynhyrchu ynni glân.
Ers dechrau gweithio â'i gilydd yn 2022, mae UKNNL a Sefydliad Dyfodol Niwclear (NFI) Prifysgol Bangor wedi:
• cyhoeddi papurau ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd ac sydd wedi eu hadolygu gan gymheiriaid.
• hyfforddi ymchwilwyr doethurol
• cefnogi talent newydd trwy noddi swydd technegydd labordy a gradd-brentisiaeth ym Mharc Gwyddoniaeth Menai.
Ddydd Iau 5 Chwefror, llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd gan Brif Swyddog Gweithredol UKNNL, Julianne Antrobus, ac Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Edmund Burke, sy’n nodi sut y bydd y ddau sefydliad yn cydweithio dros y pum mlynedd nesaf er mwyn parhau i ddatblygu gogledd Cymru fel canolfan fyd-eang o ran arbenigedd a thechnoleg ynni niwclear trwy fynd ati ar y cyd i wneud ymchwil a sicrhau mynediad at gyfleusterau er mwyn datblygu technolegau niwclear.
Wrth siarad yn ystod y llofnodi, dywedodd Juliane Antrobus, Prif Weithredwr UNKKL: “O gydweithio â phrifysgolion fel Prifysgol Bangor gallwn fynd ati i wneud ymchwil niwclear sydd gyda’r gorau yn y byd a sicrhau bod gan Brydain y gweithlu medrus sydd ei angen arni ar gyfer y dyfodol.
“Gyda’r cyhoeddiad y bydd Adweithydd Modiwlaidd Bach cyntaf y Deyrnas Unedig yn cael ei leoli yn yr Wylfa, mae’n ddechrau cyfnod cyffrous i’r maes niwclear yng ngogledd Cymru.
“Fel prif labordy cenedlaethol sifil y Deyrnas Unedig ar gyfer ymholltiad niwclear, rydym yn barod i weithio gyda Phrifysgol Bangor er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r arbenigedd technegol, y gallu ymchwil a’r arloesedd a fydd yn galluogi projectau fel yr Wylfa i gael eu cyflawni’n llwyddiannus a chymryd pob mantais ar oes aur ynni niwclear.”
Ychwanegodd Julianne: “Mae’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd hyd yn hyn – o hyrwyddo ymchwil ym maes tanwyddau niwclear y dyfodol, i gefnogi swydd technegydd labordy a gradd-brentisiaeth yn M-SParc, sef Parc Gwyddoniaeth y Brifysgol – yn enghraifft o sut mae cydweithrediadau o’r fath yn sylfaen i’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn UKNNL i ddatblygu’r sgiliau niwclear hynny sydd eu hangen er mwyn cyflawni blaenoriaethau’r Deyrnas Unedig. Rwy'n edrych ymlaen at weld beth fydd y pum mlynedd nesaf o gydweithio yn ei gynnig.”
“Mae adnewyddu’r bartneriaeth hon â’r Labordy Niwclear Cenedlaethol yn adlewyrchu ein hymrwymiad hirdymor i ragoriaeth ymchwil ac effaith ranbarthol. Gyda chadarnhad mai yn yr Wylfa y bydd Adweithydd Modiwlaidd Bach cyntaf y Deyrnas Unedig yn cael ei leoli, mae gogledd Cymru ar ddechrau cyfnod hollbwysig ar y daith at ynni glân, ac mae cydweithio ar y raddfa hon yn sicrhau y gall myfyrwyr, ymchwilwyr a phartneriaid diwydiannol gyfrannu'n uniongyrchol at arloesedd niwclear o'r radd flaenaf. Bydd adnewyddu ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cryfhau’r cydweithio rhyngom dros y blynyddoedd nesaf."
Ers 2022, mae’r bartneriaeth rhwng UKNNL a Phrifysgol Bangor wedi cyflawni canlyniadau go iawn sy'n hyrwyddo ac yn meithrin sgiliau niwclear uwch.
Gyda'n gilydd, rydym wedi hybu ymchwil i'r tanwyddau a'r deunyddiau niwclear a fydd yn pweru adweithyddion y dyfodol. Mae gwyddonwyr UKNNL ac academyddion Prifysgol Bangor wedi gweithio ochr yn ochr i gyhoeddi canfyddiadau mewn cyfnodolion blaenllaw, gan helpu i adeiladu'r sylfaen wybodaeth sydd ei hangen ar y sector.
Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn pobl. Mae Dr Charlotte Baxter, technegydd labordy y buom yn cyd-noddi ei swydd yn M-SParc, bellach yn arwain ar weithrediad offer profi arbenigol sy'n cefnogi ymchwil arloesol. Ers hynny mae Prifysgol Bangor wedi gwneud ei swydd yn swydd barhaol. Yn y cyfamser, fe wnaethom gyd-noddi Iwan Hughes fel prentis gradd, ac mae wedi ennill sgiliau a fydd o fudd i'r sector niwclear am ddegawdau i ddod.
Rydym wedi cefnogi ymchwilwyr PhD sy'n archwilio'r wyddoniaeth y tu ôl i’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau niwclear, gan helpu i ddatblygu’r gweithlu arbenigol sydd ei angen ar Brydain.
Mae UKNNL ar y cyd â Phrifysgol Bangor wedi gwneud cais am gyllid pellach i hyfforddi ychwaneg o arbenigwyr doethurol mewn technolegau niwclear newydd.