Eleni, roedd Bangor yn sefyll allan am ei chydbwysedd cryf rhwng fforddiadwyedd a phrofiad myfyrwyr, gyda chostau byw cymharol isel ynghyd â sgôr uchel ar gyfer bywyd cymdeithasol a chynaliadwyedd hefyd. O gyfradd troseddu isel i gost taith Uber, pryd o fwyd yn McDonald’s, a hyd yn oed peint o gwrw, sgoriodd Bangor yn uchel ym mhob categori. Seiliodd y llunwyr eu canlyniadau ar sefydliadau yn y Deyrnas Unedig sydd wedi’u rhestru yn The Complete University Guide.
Cipiodd Bangor y safle uchaf yn yr un tabl hefyd yn 2023. Mae cipio’r un teitl yn 2026 yn atgyfnerthu enw da’r brifysgol fel lle cymharol resymol a diogel i astudio.
Yn wahanol i dablau cynghrair traddodiadol sy’n canolbwyntio ar raddau, cofrestru, a rhagolygon graddedigion, mae safle Unifresher yn cymharu ffactorau sy’n adlewyrchu bywyd go iawn myfyrwyr, gan gynnwys costau byw, cyfraddau troseddu, ymdrechion cynaliadwyedd, ac ansawdd bywyd cymdeithasol.
Mae agwedd Prifysgol Bangor at gynaliadwyedd, a’i huchelgais i arwain y maes o ran cynaliadwyedd wedi ennill sgôr uchel i’r brifysgol, a’i gosod ar frig y rhestr. Gosodwyd y Brifysgol ar y brig hefyd am fod yn lle cymharol rad a diogel i astudio, yn ôl y canllaw amgen. Roedd yr elfen olaf yn ychwanegu gwybodaeth o ffynonellau sy’n dangos barn y myfyrwyr eu hunain am fywyd cymdeithasol.
Cyflawnodd Prifysgol Bangor y sgôr uchaf o 539, gan ei gosod yn gadarn ar frig y tabl o flaen Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Newcastle.