Mae'r wobr yn cydnabod pwysigrwydd cyfleu gwyddoniaeth ecolegol a chaiff ei chyflwyno i ecolegydd gweithredol sy'n llwyddo i bontio'r bwlch rhwng ymchwil wyddonol, disgyblaethau eraill a'r cyhoedd ehangach.
Mae Julia yn un o wyth ecolegydd a gydnabyddir yng ngwobrau blynyddol y gymdeithas, sy'n dathlu unigolion y mae eu gwaith wedi gwneud cyfraniad sylweddol at y gymuned wyddonol a chymdeithas yn ehangach.
Meddai Julia, "Roeddwn wrth fy modd pan glywais fy mod am gael y wobr hon, mae’n anrhydedd mawr. Mae'r gwaith rwy'n ei wneud mor rhyngddisgyblaethol nes fy mod i’n teimlo bron nad oes gen i’r hawl i alw fy hun yn ecolegydd. Ond dydych chi byth yn anghofio o ble ddaethoch chi, ac mae cael fy anrhydeddu gan fy nghymuned academaidd wreiddiol yn golygu llawer iawn i mi"
Cyflwynir y wobr yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Ecoleg Prydain yn Birmingham ym mis Rhagfyr, pan fydd dros 1,500 o ecolegwyr o bob cwr o'r byd yn ymgynnull i drafod y datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil ecolegol.