Mae entrepreneur o Landdaniel, Ynys Môn wedi derbyn cymorth i ddatblygu ei fusnes ym myd ffotograffiaeth chwaraeon moduro, gyda chefnogaeth Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi gan Brifysgol Bangor.
Dywed Greg Childs, sylfaenydd cwmni ffotograffiaeth Trackside Focus®, fod cydweithio ag Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor, wedi rhoi dealltwriaeth gliriach o bwy yw cwsmeriaid ei gwmni. Mae Greg yn deall erbyn hyn sut maen nhw'n dod o hyd i'w fusnes, sut maen nhw’n rhyngweithio ag o, a beth sy'n eu cymell i archebu gweithdai gyda’i fusnes ffotograffiaeth.
“Roeddwn i eisiau dealltwriaeth ddyfnach a chliriach o fy musnes, yn enwedig pwy yw fy nghwsmeriaid. Mae derbyn help i ddatblygu fy musnes wedi caniatáu i mi ehangu'r busnes yn fwy effeithiol, gwella fy strategaethau farchnata, a gwneud penderfyniadau gwell a mwy gwybodus ar gyfer fy musnes,” meddai Greg.
Bwriad Trackside Focus® yw datblygu ffotograffwyr chwaraeon modur amatur. Mae'r cwmni'n darparu gweithdai ffotograffiaeth ymarferol ar gyfer pob lefel; o ddechreuwyr hyd at ffotograffwyr profiadol. Mae nifer dethol o weithdai achrededig hefyd ar gyfer ffotograffwyr amaturaidd sy’n bwriadu canolbwyntio ar yrfa broffesiynol.
“Mae ceisio a methu yn rhan o reoli busnes bach,” ychwanega Greg, sy’n dod yn wreiddiol o Swydd Bedford. “Ond mae cael data, ymchwil a dadansoddi cadarn fel sylfaen yn hynod fuddiol. Mae’n caniatáu i mi ymdrin â thwf gyda mwy o hyder.”
O ganlyniad i’r cynllun, a thrwy weithio gyda darlithwyr Ysgol Fusnes Albert Gubay - Dr Heather He, Darlithydd mewn Gwyddor Data a Dadansoddeg a Dr Hanxiong Zhang, Uwch Ddarlithydd - mae gan Greg set ddata cadarn a fframwaith strategol yn sylfaen tuag at y dyfodol.
“Mae gen i ddadansoddiad cynhwysfawr bellach er mwyn llywio sut rwy’n marchnata’r busnes. Mae hyn cynnwys sut i ddenu a chadw cwsmeriaid, mesur enillion ar fuddsoddiad ac asesu gwerth cwsmeriaid. Rho hyn sylfaen i mi ehangu a datblygu’r hyn rwy’n credu a all ddod yn ecosystem flaenllaw yn y diwydiant ar gyfer ffotograffwyr chwaraeon modur.”
Dywedodd Dr Heather He, Darlithydd mewn Gwyddor Data/Dadansoddeg yn Ysgol Albert Gubay: “Rydym wrth ein bodd yn defnyddio ein harbenigedd dadansoddi data i gefnogi Trackside Focus®. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Gynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi am greu model gwirioneddol gynhyrchiol sy’n gyfle i brifysgolion a diwydiant gydweithio, a throi ein sgiliau proffesiynol yn werth cymdeithasol pendant.”
Breuddwydiodd Greg am flynyddoedd i sefydlu cwmni ffotograffydd Fformiwla 1. Ac er na wireddwyd yr uchelgais honno, treuliodd Greg chwe blynedd yn mireinio ei sgiliau ar draws ystod eang o arddulliau ffotograffig. Ar ôl symud i ogledd Cymru — a chyfnod byr yn gweithio ym maes lletygarwch ochr yn ochr â bod yn ffotograffydd llawrydd — cymerodd y naid i lansio ei fenter ei hun, a wnaed yn bosibl trwy gefnogaeth etifeddiaeth ei daid. Sefydlodd ei gwmni Trackside Focus® yn 2023. Wrth fyfyrio ar ei daith, mae'n cyfaddef mai entrepreneuriaeth — yn hytrach na ffotograffiaeth - fu ei angerdd mwyaf mewn gwirionedd.
“Rwy’n cyfaddef mai nid fi yw’r ffotograffydd mwyaf dawnus. Dwi wrth fy modd yn bod yn entrepreneur, gan adeiladu busnes o'i seiliau. Rheoli fy nghwmni fy hun fu'r antur fwyaf heriol i mi erioed ymgymryd ag o. Ond bu hefyd yn brofiad gwerth chweil a phleserus, hyd yn oed yn ystod y dyddiau anoddaf.”
Mae teithio rhyngwladol bellach yn nodwedd hanfodol o fusnes Greg. Cyflwyna Trackside Focus® weithdai mewn lleoliadau pell yn cynnwys Dubai, Ffrainc, Budapest a Barcelona. Ond maen nhw hefyd yn trefnu nifer o ddigwyddiadau yn y Deyrnas Unedig; mewn lleoliadau rasio yn Oulton Park yn Swydd Gaer, Silverstone yn Swydd Nottingham a Brands Hatch yn Swydd Gaint. Ond er bod Greg yn dweud fod Dubai yn sefyll allan fel un o'r lleoliadau sy’n ei ysbrydoli fwyaf, mae Greg yn cyfaddef ei fod yn teimlo rhyddhad wrth ddychwelyd adref i ogledd Cymru. Mae bod adref yn Llanddaniel bob amser yn dod â phersbectif i’w fywyd, meddai.
“Gall yr holl deithio fod yn heriol ar adegau, gyda'r meysydd awyr agosaf yn Lerpwl neu Fanceinion â'r man rasio agosaf yn Oulton Park yn Swydd Gaer. Ond er hynny, dwi bob amser yn gwerthfawrogi dychwelyd adref. Mae Ynys Môn yn le mor brydferth, a dyna le mae fy nheulu. Mae’n braf dod adref ar ôl bod i ffwrdd dramor.”
Dywedodd Nicola Sturrs, Rheolwr Datblygu Busnes Prifysgol Bangor: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cydweithio â Greg yn Trackside Focus ®, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â'n holl berthnasau busnes yn y dyfodol. Mae ein Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi wedi profi i fod yn hynod boblogaidd ers iddo ddechrau yn 2024, ac rydym hyd yn hyn wedi cydweithio â dros 60 o fusnesau o bob cwr o Ynys Môn, Gwynedd a Sir y Fflint.”