Arweiniwyd y rownd ariannu gan y buddsoddwr biotechnoleg Dr Urs Spitz, ochr yn ochr â ffynonellau ariannu ychwanegol. Bydd y buddsoddiad yn galluogi’r cwmni i symud ymlaen â cherrig milltir gwyddonol allweddol, gan ddod â’i raglen therapiwtig flaenllaw yn nes at ddatblygiad clinigol, yn ogystal â chefnogi creu swyddi newydd gwerth uchel yng Nghymru.
Sefydlwyd Awen Oncology ar sail ymchwil gydweithredol ym Mhrifysgol Bangor, gyda’r cwmni’n deillio o waith ymchwil a gynhaliwyd yn Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd Orllewin y Brifysgol. Ymhlith cyd-sylfaenwyr y cwmni mae Dr Ramsay McFarlane a Dr Jane Wakeman o Brifysgol Bangor, ochr yn ochr â’r Athro Andrea Brancale, gynt o Brifysgol Caerdydd.
Mae’r cwmni’n canolbwyntio ar ddatblygu therapïau arloesol gyda’r potensial i drawsnewid triniaeth canser. Mae ei raglen flaenllaw yn targedu math prin o ganser yr esgyrn lle mae angen clinigol sylweddol heb ei ddiwallu ar hyn o bryd, gyda’r potensial i’r ymchwil gael cymwysiadau ehangach ar draws canserau mwy cyffredin.
Mae Awen Oncology wedi’i leoli ym M-SParc, parc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, sy’n cefnogi busnesau arloesol a gweithgarwch ymchwil a datblygu yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, “Mae llwyddiant Awen Oncology yn dangos cryfder yr ecosystem arloesi rydym yn ei adeiladu, lle gall busnesau gael mynediad at y cyfleusterau, y rhwydweithiau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ehangu. Dw i’n falch iawn bod y buddsoddiad hwn nid yn unig yn cyflymu taith y cwmni tuag at effaith glinigol, ond hefyd yn dod â swyddi a phrofiad gwerth uchel i’r rhanbarth.”
Fel rhan o’r buddsoddiad, bydd Dr Spitz yn ymuno â bwrdd y cwmni, gan ddod â phrofiad rhyngwladol helaeth o gefnogi a thyfu cwmnïau biotechnoleg drwy gamau clinigol a masnachol.
Dywedodd Dr Ramsay McFarlane, Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Awen Oncology, “Mae sicrhau’r buddsoddiad hwn yn nodi carreg filltir bwysig i Awen Oncology wrth i ni barhau i ddatblygu ein llinell therapiwtig. Bydd yn ein galluogi i gyrraedd cerrig milltir gwyddonol hollbwysig wrth gryfhau ein tîm gyda thalent fedrus iawn yma yng Nghymru.
“Mae ein prif raglen yn targedu math prin o ganser yr esgyrn sydd ag angen clinigol sylweddol heb ei ddiwallu, gyda chymwysiadau posibl ar draws canserau mwy cyffredin. Ein nod yn y pen draw yw darparu triniaethau sy’n gwella – ac o bosibl yn achub – bywydau.”
Mae’r ymchwil sy’n sail i waith Awen Oncology wedi cael ei chefnogi gan Ymchwil Canser Cymru, gan adeiladu ar fwy na 15 mlynedd o fuddsoddiad mewn ymchwil canser sylfaenol yng Nghymru.
Dywedodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil Ymchwil Canser Cymru, “Fel elusen ymchwil canser Cymru ac un o brif gyllidwyr ymchwil canser yng Nghymru, rydym yn falch o fod wedi cefnogi sylfeini’r gwaith hwn dros fwy na 15 mlynedd. Mae’n galonogol gweld yr ymchwil hon yn symud ymlaen tuag at effaith byd go iawn i gleifion.”