Fy ngwlad:
Waste

Ymdrech un dyn i atal gwastraff adeiladu

Ar ôl bron i 30 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, daeth Andrew Craig yn fwyfwy rhwystredig wrth weld faint o ddeunydd oedd yn cael ei wastraffu bob dydd. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, sefydlodd ei fusnes ei hun sy’n ailddefnyddio ac yn ailgylchu deunyddiau yn hytrach na’u hanfon i’r bin.