Mae CAL:ON Cymru yn fenter llythrennedd dwyieithog wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac wedi'i harwain gan yr Athro Manon Jones o'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda Dr Cameron Downing a'i dîm ym Mhrifysgol Efrog ac OxEd and Assessments.
Mae dau bapur ymchwil sydd newydd eu cyhoeddi wedi darparu tystiolaeth gref newydd ar gyfer effaith y Rhaglen Iaith a Llythrennedd (RILL), ymyriad llythrennedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddatblygwyd a'i gwerthuso gan ymchwilwyr CAL:ON Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r astudiaethau'n dangos bod RILL yn gwella canlyniadau darllen i blant ag anawsterau darllen mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg, gyda goblygiadau pwysig ar gyfer cymorth llythrennedd ledled Cymru.
Dywedodd yr Athro Manon Jones, Arweinydd Canolfan CAL:ON Cymru, “Mae llwyddiant y treialon hyn yn gosod y sail i CAL:ON fel canolfan ragoriaeth ar gyfer llythrennedd. Maent yn dangos bod ymyriadau iaith cynhwysfawr, strwythuredig yn helpu plant sy'n cael trafferth darllen, nid yn unig wrth ddarllen geiriau ond wrth ddeall ac ar draws ieithoedd. Dyma beth fydd CAL:ON Cymru yn ei gyflwyno a'i ddatblygu dros y ddwy flynedd nesaf.”
Mae RILL yn ymyriad strwythuredig mewn grwpiau bach a gynlluniwyd ar gyfer plant sy'n cael trafferth darllen. Wedi'i chyflwyno dros 15 wythnos, mae'r rhaglen yn targedu elfennau craidd llythrennedd gan gynnwys ffoneg, darllen geiriau, geirfa a darllen a deall. Fe'i cynlluniwyd i'w chyflwyno gan gymhorthyddion dysgu hyfforddedig, felly dyma opsiwn raddadwy a chost effeithiol i ysgolion.
Roedd yr astudiaeth gyntaf, a gyhoeddwyd yn The Journal of Child Psychology and Psychiatry, yn gwerthuso RILL mewn ysgolion cyfrwng Saesneg gyda phlant 7–9 oed oedd ag anawsterau darllen. Gwnaeth plant a dderbyniodd yr ymyriad welliannau sylweddol mewn dadgodio, sillafu, geirfa a ddysgwyd a darllen a deall. Yn hollbwysig, cynhaliwyd y cynnydd hwn sawl mis ar ôl i'r ymyriad ddod i ben. Dangosodd dadansoddiad fod gwelliannau mewn dealltwriaeth darllen yn gysylltiedig â chynnydd cynharach mewn darllen fesul geiriau, a geirfa, gan dynnu sylw at rôl hanfodol dadgodio wrth gefnogi llwyddiant darllen y tu hwnt i'r blynyddoedd cynnar.
Roedd yr ail bapur, a gyhoeddwyd yn Reading and Writing, yn canolbwyntio ar lythrennedd dwyieithog ac mae'n cynrychioli'r hap-dreial rheoledig cyntaf o ymyriad llythrennedd yn y Gymraeg. Dangosodd yr astudiaeth fod cyflwyno RILL yn Gymraeg wedi arwain at welliannau uniongyrchol a pharhaol mewn darllen geiriau Cymraeg a geirfa fynegiannol mewn plant dwyieithog ag anawsterau darllen. Darparodd hefyd dystiolaeth newydd o drosglwyddo traws-ieithyddol tymor byr gyda chynnydd mewn darllen Cymraeg yn arwain at welliannau mewn darllen geiriau Saesneg. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu, er y gall sgiliau llythrennedd drosglwyddo rhwng ieithoedd, bod amseriad a dilyniant ymyriad yn bwysig, gyda chefnogaeth gynharach yn arwain at y buddion mwyaf cynaliadwy.
Gyda'i gilydd, mae'r astudiaethau'n cynnig sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer RILL ac yn tanlinellu pwysigrwydd ymyriadau llythrennedd cynnar, strwythuredig a chyfoethog o ran iaith ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol. Gan adeiladu ar y dystiolaeth hon, mae CAL:ON Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen RILL yn cael ei chyflwyno'n genedlaethol ledled Cymru yn 2027, gan gynnig mynediad i ysgolion at ddull profedig, sy'n seiliedig ar ymchwil, o wella canlyniadau llythrennedd i blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg.