Mae Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor, y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol a HR Wallingford wedi cyhoeddi dau bapur ymchwil newydd sydd wedi'u hadolygu gan gymheiriaid yng nghyfnodolion Nature Portfolio, gan hyrwyddo dealltwriaeth o sut mae isadeiledd gwynt alltraeth a newid hinsawdd yn ail-lunio gwely'r môr. Mae'r ddau bapur ymchwil ar gael i'w darllen yma: “Climate change affects future sea-bed mobility via storms and sea level rise” a “Turbulence drives seabed modification by offshore windfarms”
Mae'r ddwy astudiaeth yn ganlyniad i'r project ECOWind-ACCELERATE (talfyriad am “Ecological Implications of Accelerated Seabed Mobility around Windfarms”), project dan arweiniad Prifysgol Bangor, ac yn rhan o’r rhaglen ECOWind-ACCELERATE a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ac Ystad y Goron.
Mae'r papur diweddaraf, a gyhoeddwyd yn Nature Communications dan arweiniad Dr Chris Unsworth, yn canfod bod y grymoedd hydrodynamig sy'n gyrru symudedd gwaddod yn sgil sylfeini tyrbinau gwynt alltraeth yn gryfach ac yn ymestyn ymhellach nag a gydnabuwyd yn flaenorol.
Gwaddodion gwely'r môr (tywod, mwd a graean) sy'n pennu pa rywogaethau all oroesi neu ffynnu mewn ardal benodol. Gan ddefnyddio cyfuniad o arbrofion labordy, modelau cyfrifiadurol a data o’r byd go iawn o fferm wynt weithredol, mae'r ymchwil yn dangos y gall tyrfedd a achosir gan sylfeini unpeil amharu ar waddodion ar draws 3% ac 8% o wely'r môr mewn fferm wynt nodweddiadol. Nid yw'r effaith hon o ganlyniad i dyrfedd wedi'i chynnwys yn yr amcangyfrifon cyfredol o addasu gwely'r môr, sydd tua 1% o arwynebedd y fferm wynt. Wrth i gapasiti gwynt alltraeth ehangu'n gyflym i gyrraedd targedau ynni carbon isel, mae mesur yr effeithiau hynny’n gywir yn hanfodol.
Dywedodd Dr Chris Unsworth, uwch wyddonydd yn HR Wallingford a chyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, “Er ein bod ni’n dda am amcangyfrif ysgoth mewn sylfeini unpeil (ac isadeileddau eraill), roedd effaith y maes llif ar wely’r môr ymhellach i ffwrdd wedi’i hanwybyddu; ond mae gan yr effaith dyrfol fwy hon ar symudedd gwaddod y potensial i newid cyfansoddiad a chynefinoedd gwely’r môr. Yn y papur hwn rydym wedi datblygu a dilysu dull newydd o wneud yn union hynny.”
Ychwanegodd Dr Thomas Benson, Cyfarwyddwr Technegol yn HR Wallingford, “Y dull a gymerwyd gennym oedd addasu model Navier-Stokes sy’n seiliedig ar gyfartaledd Reynolds (openTELEMAC) i gynnwys effeithiau tyrfedd ar wely’r môr. Mae effeithlonrwydd y dull hwn o gymharu â model Navier-Stokes llawn yn golygu y gallwn efelychu'r tyrfedd sy’n cael ei gynhyrchu gan dyrbinau unpeil ar draws parth gofodol mawr a thros amserlen ddigon hir i roi gwell dealltwriaeth o effeithiau'r sgil-effaith ar wely'r môr.”
Mae'r astudiaeth hon yn dilyn yn agos papur a gyhoeddwyd yn Communications Earth & Environment dan arweiniad Dr Julia Rulent. Gwyddonydd Modelu’r Cefnfor yn y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol yw Julia, ac mae'r astudiaeth hon yn archwilio sut mae newid hinsawdd hefyd yn newid dynameg gwaddodion gwely'r môr. Gan ddefnyddio uwch fodelau cyfrifiadurol a rhagamcaniadau hinsawdd, mae'r ymchwil hwn yn dangos y bydd lefelau môr sy'n codi yn gyffredinol yn sefydlogi gwaddodion gwely'r môr trwy gynyddu dyfnder y dŵr ac felly’n lleihau effeithiau tonnau a cheryntau. Fodd bynnag, disgwylir i stormydd cryfach achosi aflonyddwch tymor byr yn amlach, a bydd cerrig mân yn symud yn y dyfodol mewn ardaloedd lle na fyddent yn symud heddiw.
Dywedodd Dr Julia Rulent: “Mae’n bwysig meintioli aflonyddwch i wely’r môr o ganlyniad i lanw rheolaidd a stormydd prin. Drwy adnabod y prosesau naturiol sylfaenol, a sut y gallent newid yn y dyfodol, mae gennym gyd-destun ystyrlon ar gyfer effeithiau dynol isadeiledd ar wely'r môr.”
Gyda'i gilydd, mae'r ddwy astudiaeth yn darparu enghreifftiau ar gyfer gwahanu effeithiau amgylcheddol isadeiledd ynni gwynt oddi wrth rai'r argyfwng hinsawdd ehangach.
Yr Athro Katrien Van Landeghem o Ysgol Gwyddorau’r Eigion sy’n arwain y project ECOWind-ACCELERATE. Dywedodd: “Mae’r astudiaethau yma, sydd wedi’u hadolygu’n drylwyr gan gymheiriaid, yn dangos sut mae ymchwil cydweithredol yn gwella ein dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd a datblygu ynni gwynt alltraeth ar amgylcheddau gwely’r môr. Mae'r canfyddiadau'n cefnogi asesiadau amgylcheddol at y dyfodol o foroedd sy'n newid yn gyflym, a chynllunio sy'n seiliedig ar risg ar gyfer, er enghraifft, ceblau tanddwr neu adfer cynefinoedd. Wrth i symudedd gwely'r môr siapio cynefinoedd morol a gweoedd bwyd, rhaid i ddatblygiad ynni gwynt alltraeth cyfrifol fynd law yn llaw â stiwardiaeth amgylcheddol gref.”