Fy ngwlad:
Dr Ceryl Teleri Davies

Dyfarnu cymrodoriaeth Winston Churchill i ymchwilydd o Brifysgol Bangor i astudio gofal tosturiol yn Sweden a Chanada

Mae Dr Ceryl Teleri Davies, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn Cymrodoriaeth Winston Churchill i astudio dulliau o ddarparu gofal tosturiol i ferched sydd wedi dioddef trais a cham-drin rhywiol yn Sweden a Chanada.