Fy ngwlad:
Dr Christopher Staples

Gwyddonwyr o Gymru’n derbyn cyllid i wella dealltwriaeth o ganser y fron sy'n gysylltiedig â newidiadau i enynnau etifeddol

Diolch i gyllid newydd gan Breast Cancer Now, mae ymchwilwyr yn gweithio i gael gwell dealltwriaeth o sut mae canser y fron a achosir gan newidiadau i’r genyn BRCA1 etifeddol yn goroesi. Y nod yw defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu triniaethau newydd.