Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor: Ble all dy radd fynd â chdi?
Os wyt ti’n ystyried astudio Iaith Saesneg neu Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, efallai dy fod yn ceisio meddwl sut olwg fyddai ar dy yrfa yn y dyfodol. Daeth digwyddiad gyrfaoedd a chyflogadwyedd diweddar â myfyrwyr presennol a graddedigion Prifysgol Bangor ynghyd i ddangos cymaint o lwybrau gyrfa cyffrous sydd ar gael wrth ddilyn un o’n rhaglenni gradd.
Wedi'i gynnal yn Stiwdio North Wales ym Mangor, roedd y digwyddiad yn tynnu sylw at sut mae'r sgiliau a ddatblygwyd ar ein rhaglenni gradd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth yn trosi’n uniongyrchol i yrfaoedd yn y byd go iawn.
Dysgu gan raddedigion profiadol
Rhannodd panel o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor eu teithiau gyrfa a lle mae eu graddau wedi mynd â nhw.
Georgina Merckel
Ymgynghorydd Gweithrediadau Busnes a sylfaenydd Stiwdio North Wales
Laura Czerwinska
Swyddog Cyfathrebu yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Albert Ventayol
Peiriannydd Iaith yn gweithio gyda Meta
Fe wnaethon nhw siarad am y sgiliau a’u helpodd i lwyddo - o feddwl yn feirniadol ac amlieithrwydd i gyfathrebu a dealltwriaeth o sut mae iaith yn siapio technoleg. Clywodd myfyrwyr hefyd am rôl gynyddol deallusrwydd artiffisial a thechnolegau iaith ar draws gwahanol ddiwydiannau.
Troi dy radd yn gyflogadwyedd
Ochr yn ochr â'r panel, cymerodd myfyrwyr ran mewn gweithdy sgiliau adfyfyrio a gynlluniwyd i'w helpu i gydnabod y cryfderau y maent eisoes yn eu hadeiladu trwy eu hastudiaethau. Anogodd y sesiwn nhw i gysylltu dysgu academaidd â chyflogadwyedd - cam allweddol wrth baratoi ar gyfer swyddi i raddedigion.
Rhoddodd cyfleoedd anffurfiol i rwydweithio drwy gydol y digwyddiad gyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau, rhannu syniadau a chlywed yn uniongyrchol sut beth yw bywyd gwaith mewn gwirionedd ar ôl y brifysgol.
Lleoliad ysbrydoledig yng nghanol Bangor
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Stiwdio North Wales, stiwdio greadigol annibynnol a sefydlwyd gan gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, Georgina Merckel. Roedd yr amgylchedd hamddenol ac ysbrydoledig yn atgyfnerthu’r neges bod graddedigion Prifysgol Bangor, wedi'u siapio gan amgylchedd dysgu cefnogol, yn mynd ymlaen i greu mannau creadigol, proffesiynol ac arloesol ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Edrych i’r dyfodol
Wedi'i drefnu gan Dr Sarah Cooper a'i gefnogi gan Gronfa Datblygiad Proffesiynol a Chronfa Cyflogadwyedd Myfyrwyr yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, denodd y digwyddiad ymgysylltiad cryf gan fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd.
Yn dilyn ei lwyddiant, mae'r Ysgol yn anelu at ddatblygu'r digwyddiad yn un blynyddol, gan barhau i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt archwilio eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Wyt ti’n barod i archwilio dy ddyfodol?
Mae astudio Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yn agor drysau i yrfaoedd yn y meysydd canlynol:
- cyfathrebu a’r cyfryngau
- addysg ac addysgu
- technolegau iaith a deallusrwydd artiffisial
- swyddi yn y sector cyhoeddus
- ymchwil a dadansoddi
- busnes ac ymgynghoriaeth
Archwilia ein rhaglenni gradd israddedig yn Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth i weld ble y gallai dy ddiddordebau dy arwain.
Neu cymera’r cam nesaf gyda'n rhaglenni ôl-radd mewn Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd i ehangu dy arbenigedd a gwella dy ragolygon gyrfa.