Myfyrwyr a darlithydd mewn seminar

Ieithyddiaeth

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

 

 

2il

am Werth Ychwanegol: Ieithoedd ac Ieithyddiaeth

Times & Sunday Times: Good University Guide 2023

15 Uchaf

Bodlon â'r adborth: Ieithoedd ac Ieithyddiaeth

Guardian University Guide 2023

Pam Astudio Ieithyddiaeth?

Mae gradd mewn Ieithyddiaeth yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd rhagorol yn y pwnc. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig y mae cyflogwyr amrywiol yn eu gwerthfawrogi.

Dyluniwyd ein cwricwlwm i gyflwyno myfyrwyr i'r meysydd craidd / sylfaenol mewn ieithyddiaeth (e.e., seineg, morffoleg ffonoleg, cystrawen, semanteg, pragmateg a sosioieithyddiaeth) yn y flwyddyn gyntaf, gan ddatblygu ac ehangu ar y pynciau hyn yn yr ail flwyddyn ynghyd â phynciau cymhwysol fel hanes Saesneg, dwyieithrwydd, a swyddogaethau disgwrs. Rydym ni wedyn yn cynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol yn y drydedd flwyddyn a fydd yn caniatáu ichi archwilio, datblygu a mireinio'ch diddordebau a'ch arbenigedd ymchwil ac i ganolbwyntio ar y pynciau a'r cwestiynau hynny sydd o ddiddordeb mwyaf ichi. Ar gyfer project traethawd hir Blwyddyn 3, rydym yn cynnig cyfle a chefnogaeth i fyfyrwyr ddatblygu eu projectau eu hunain, gan roi sylw i gyflogadwyedd neu astudio am radd uwch. Mae ein staff yn gwneud eu gorau i ddarparu ar gyfer unrhyw bwnc traethawd hir y gellir ei gefnogi'n rhesymol gan ein harbenigedd ymchwil.

Rydym yn darparu cefnogaeth gadarn a phersonol trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan ein hadran hefyd system gymorth arweinwyr cyfoed ragorol i'ch helpu pan gyrhaeddwch yn eich blwyddyn gyntaf i ymgartrefu a dod yn gyfarwydd â bywyd campws. Mae gennym ni hefyd system cynrychiolwyr myfyrwyr sy'n fodd o ddarparu adborth ar ein modiwlau, ar brofiad myfyrwyr ac ansawdd ein graddau trwy gydol eich gradd israddedig.

Mae ein myfyrwyr hefyd yn elwa ar gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes. Yn ogystal â'r adnoddau hyn, mae gan ein cymdeithas myfyrwyr adrannol, Cymdeithas Ieithyddiaeth Bangor, le penodol i astudio a chasgliad helaeth o lyfrau ar Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn ei swyddfa sydd mewn lleoliad cyfleus yn yr un adeilad â'n swyddfeydd staff a’r ystafell seminar. Mae Cymdeithas Ieithyddiaeth Bangor hefyd yn cynnal Diwrnod David Crystal yn flynyddol lle mae’r Athro David Crystal, awdurdod pennaf y byd ar yr iaith Saesneg, yn rhoi dosbarthiadau i fyfyrwyr yr Ysgol.

Gellir dilyn Ieithyddiaeth fel gradd anrhydedd sengl neu fel gradd gydanrhydedd gyda'r cyrsiau canlynol: Iaith Saesneg, Ieithoedd Modern (e.e. Tsieinëeg, Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Chymraeg), a Seicoleg. Gall myfyrwyr sy’n dilyn gradd Ieithyddiaeth anrhydedd sengl hefyd ddilyn modiwlau dewisol mewn ystod o feysydd pwnc fel Llenyddiaeth Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg.

Gellir dilyn ein holl gyrsiau Ieithyddiaeth 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' neu 'gyda Blwyddyn ar Leoliad'.

 

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Ieithyddiaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ieithyddiaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Ieithyddiaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Ieithyddiaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Ieithyddiaeth

Bu Prifysgol Bangor yng Ngogledd Cymru yn enwog ers amser maith am ei hymchwil a'i harbenigedd blaenllaw ym meysydd ieithyddiaeth Gymraeg a Dwyieithrwydd; fodd bynnag mae gan ein staff diwyd ac amrywiol hefyd ystod eang o arbenigeddau a phroffiliau ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol yn y meysydd canlynol: caffael iaith gyntaf ac ail iaith, amrywiad a newid iaith, cynnal iaith, datblygiad iaith annodweddiadol, ieithyddiaeth corpws, iaith a chyfathrebu, technolegau iaith / prosesu iaith naturiol, ieithoedd dadleuol eu statws, prosesu a chaffael mydryddiaeth a chystrawen, seicoieithyddiaeth, ieithyddiaeth hanesyddol, gramadegoli, dadansoddi disgwrs gwybyddol, dadansoddi disgwrs beirniadol, dadansoddi amlfodd, iaith amseryddol a natur iaith ffigurol, addysgeg dysgu iaith wrth gaffael ail iaith ac wrth ddysgu Saesneg fel ail iaith neu iaith arall, ac ymagweddau ffurfiol / swyddogaethol at iaith, gan gynnwys defnydd iaith.

Mae ein hymchwil yn sail wybodaeth i'n darpariaeth dysgu ar bob lefel, gyda'n myfyrwyr yn elwa o staff brwd sy'n gweithio'n arloesol ym maes ymholiadau a datblygiadau academaidd.

Mae ein hamgylchedd ymchwil bywiog hefyd yn amlwg gyda'r amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir trwy gydol y flwyddyn, yn amrywio o sgyrsiau unigol i seminarau a gweithdai anffurfiol i gynadleddau mawr. Mae llawer o'r rheiny'n agored nid yn unig i staff academaidd, ond hefyd i fyfyrwyr ac i'r cyhoedd.

 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?