Delwedd o'r gair 'English' mewn geiriadur

Iaith Saesneg

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

 

 

2il

Gwerth ychwanegol: Ieithoedd ac Ieithyddiaeth

Guardian University Guide 2023

25 Uchaf

ar gyfer Profiad Myfyrwyr: Saesneg

Times & Sunday Times: Good University Guide

Pam Astudio Iaith Saesneg?

Bydd ein modiwlau cyflwyniadol ac uwch yn rhoi cefndir sylfaenol cadarn ichi ynghyd â golwg wyddonol bwysig ar natur, strwythur a defnydd iaith, yn ogystal ag ar hanes Saesneg a sosioieithyddiaeth (y berthynas rhwng iaith a chymdeithas).

Bydd ein cwrs yn rhoi cyfle i chi astudio amrywiaeth o bynciau, a wnaiff eich galluogi i archwilio a datblygu'ch diddordebau a’ch arbenigeddau. Yn eich trydedd flwyddyn rydym yn cynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol cyffrous sy'n caniatáu i fyfyrwyr archwilio, datblygu a mireinio eu diddordebau a'u harbenigedd ymchwil a chanolbwyntio ar y pynciau a'r cwestiynau hynny sydd o’r diddordeb mwyaf ichi. Ar gyfer project traethawd hir Blwyddyn 3, rydym yn cynnig cyfle a chefnogaeth i fyfyrwyr ddatblygu eu projectau eu hunain, gan roi sylw i gyflogadwyedd neu astudio graddedig uwch. Mae ein staff yn gwneud eu gorau i ddarparu ar gyfer unrhyw bwnc traethawd hir y gellir ei gefnogi'n rhesymol gan ein harbenigedd ymchwil.

Rydym yn adran fywiog, hygyrch a chyfeillgar ac mae’r staff wedi ymrwymo i addysgu o ansawdd uchel, i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr, cefnogaeth fugeiliol gref ac ymchwil arloesol trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan ein hadran hefyd system gymorth arweinwyr cyfoed ragorol i'ch helpu pan gyrhaeddwch yn eich blwyddyn gyntaf i ymgartrefu a dod yn gyfarwydd â bywyd campws. Mae gennym ni hefyd system cynrychiolwyr myfyrwyr sy'n fodd o ddarparu adborth ar ein modiwlau, ar brofiad myfyrwyr ac ansawdd ein graddau trwy gydol eich gradd israddedig. Rydym yn angerddol am addysgu a sicrhau bod ein myfyrwyr iaith Saesneg yn ennill sgiliau rhagorol mewn meddwl yn feirniadol, dadansoddi, sgiliau cyflwyno ac ymchwil.

Mae ein myfyrwyr hefyd yn elwa ar gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes. Yn ogystal â'r adnoddau hyn, mae gan ein cymdeithas myfyrwyr adrannol, Cymdeithas Ieithyddiaeth Bangor, le penodol i astudio a chasgliad helaeth o lyfrau ar Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn ei swyddfa sydd mewn lleoliad cyfleus yn yr un adeilad â'n swyddfeydd staff a’r ystafell seminar. Mae Cymdeithas Ieithyddiaeth Bangor hefyd yn cynnal Diwrnod David Crystal yn flynyddol lle mae’r Athro David Crystal, awdurdod pennaf y byd ar yr iaith Saesneg, yn rhoi dosbarthiadau i fyfyrwyr yr Ysgol.

Mae ein cwrs Iaith Saesneg hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ganolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â dysgu Saesneg a/neu ieithyddiaeth Gymraeg a dwyieithrwydd, a wnaiff eich paratoi ar gyfer cyfleoedd gyrfa penodol yn y meysydd hynny (efallai y bydd angen hyfforddiant ychwanegol ar gyfer rhai ohonynt).  

 

Proffil fideo myfyrwyr - Sophie James

Mae Sophie yn astudio Iaith Saesneg a Ffrangeg drwy'r gyfrwng Gymraeg yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Iaith Saesneg. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Iaith Saesneg llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Iaith Saesneg ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Iaith Saesneg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Iaith Saesneg

Mae gennym gefndir rhagorol o ragoriaeth ymchwil mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae gennym broffil ymchwil gweithgar ac amrywiol a gydnabyddir yn rhyngwladol, gydag arbenigeddau sy'n cynnwys:

  • Datblygiad iaith gyntaf ac ail iaith
  • Addysgeg dysgu iaith - dysgu Saesneg fel ail iaith neu iaith arall a chaffael ail iaith
  • Dadansoddi disgwrs
  • Anhwylderau iaith a datblygiad iaith annodweddiadol
  • Seicoieithyddiaeth
  • Ieithyddiaeth Corpws
  • Iaith a Chyfathrebu
  • Technolegau iaith / Prosesu Iaith Naturiol
  • Ieithyddiaeth Hanesyddol
  • Amrywiad a newid iaith
  • Ieithyddiaeth gymdeithasol
  • Iaith, rhywedd a grym.
  • Ieithoedd dadleuol eu statws, dwyieithrwydd ac amlieithrwydd
  • Prosesu a chaffael mydryddiaeth a chystrawen
  • Iaith amseryddol a dehongliad amser
  • Iaith ffigurol a threfniadaeth feddyliol profiadau dynol
  • Tafodiaith, amrywiad a newid yn y Gymraeg

Mae’r ansawdd ymchwil ym maes Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth gyda'r gorau yn y byd, ac mae REF (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil) 2014, yr asesiad cenedlaethol diweddaraf o ansawdd ymchwil, yn cadarnhau hynny.

Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd a gallant gefnogi gyda’r canlynol:

  • Meddalwedd ystadegol fel:  SPSS, R-Statistics ac Excel.
  • Meddalwedd seicoleg arbrofol fel E-Prime, GORILLA Experiment Builder, Open Sesame a Webexp.
  • Meddalwedd dadansoddi acwstig a ffoneteg fel: Audacity, Praat, a SIL Speech Analyzer
  • Profion seicometrig / iaith safonol (e.e. EVT, BPVS, NARA, WISC, K-BIT, TROG, CELF)
  • Amrywiaeth eang o feddalwedd corpws a choncordans arbenigol gan gynnwys PLANT a CLAN
  • Ymchwil arbrofol gan ddefnyddio potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a pheiriannau tracio llygaid
  • Bwth ac offer recordio o safon broffesiynol
  • Technolegau iaith ar y cyd ag Uned Technolegau Iaith Bangor a’r Adran Cyfrifiadureg

Yn bwysicach na dim, mae ein hymchwil yn llywio darpariaeth yr addysgu ar bob lefel. Hefyd rydym yn falch o'r amgylchedd ymchwil bywiog sydd yma ac mae'r amrywiol ddigwyddiadau a gynhelir trwy gydol y flwyddyn yn dyst i hynny. Yn ogystal â sgyrsiau unigol a'r seminarau ymchwil, rydym hefyd yn cynnal gweithdai a chynadleddau mawr. Anogir y myfyrwyr i gymryd rhan a bod yn rhan o'r gymuned fywiog honno.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.