Daw'r cyhoeddiad yn sgil cyhoeddi canlyniadau diweddaraf PISA, a dynnodd sylw at heriau parhaus o ran canlyniadau darllen yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae cynllun newydd Llywodraeth Cymru yn nodi dull hirdymor o wella llythrennedd a rhifedd drwy sicrhau mwy o eglurder, cysondeb a chydlyniad ar draws y system addysg.
Yn ei datganiad, dywedodd y Gweinidog,“Rydym yn disgwyl i ragor o ysgolion gael budd o CAL:ON, ein canolfan ragoriaeth genedlaethol newydd ar gyfer llythrennedd, sydd wedi cael canmoliaeth uchel gan athrawon ac sy'n cael lle blaenllaw yn ein Cynllun.”
A hithau wedi'i sefydlu yn 2025 a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae CAL:ON Cymru yn datblygu rhaglenni ac ymyriadau llythrennedd dwyieithog, dulliau dysgu proffesiynol, adnoddau asesu, a chanllawiau cenedlaethol ar gyfer ysgolion ledled Cymru. Mae pob rhaglen ac adnodd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r cynllun newydd yn rhoi CAL:ON Cymru wrth wraidd nifer o fentrau cenedlaethol mawr. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno asesiadau sgrinio llythrennedd, datblygu canllawiau cenedlaethol ar lythrennedd, a chryfhau'r ddarpariaeth ffoneg yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ar hyn o bryd mae CAL:ON Cymru yn treialu ei becyn cymorth gydag ysgolion ledled Cymru. Nod CAL:ON Cymru yw sicrhau bod darpariaeth llythrennedd genedlaethol yn seiliedig ar ymchwil gadarn. Mae’r ganolfan yn dod ag ymchwilwyr, ysgolion, a phartneriaid cenedlaethol at ei gilydd i ddatblygu a gwerthuso dulliau dwyieithog o addysgu, asesu, ac ymyrryd yng nghyd-destun llythrennedd, cyn cefnogi’r broses o'u cyflwyno’n genedlaethol. Bydd y model ymchwil-i-ymarfer hwn hefyd yn cynhyrchu data newydd a fydd yn llywio’r gwaith o esblygu’r dull cenedlaethol o addysgu llythrennedd gyda thystiolaeth o ysgolion am yr hyn sy'n gweithio go iawn ymhlith dysgwyr.