Mae’r Computational Science Centre for Research Communities (CoSeC) yn cefnogi cymunedau ymchwil cyfrifiadurol cydweithredol a gyllidir gan UKRI. Mae gan y ganolfan genhadaeth i ddarparu meddalwedd ymchwil fel seilwaith i alluogi ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r CoSeC Impact Award yn cydnabod unigolion y mae eu gwaith yn cael effaith sylweddol (diffiniad REF o effaith) ar ymchwil cyfrifiadurol, mewn cydweithrediad agos â CoSeC a chymunedau cysylltiedig.
Mae sganiau CT pelydr-X yn creu delweddau 3D o du mewn gwrthrych heb ei ddifrodi. Mae meddygon yn eu defnyddio i roi diagnosis i gleifion, ac mae gweithgynhyrchwyr yn eu defnyddio i ganfod diffygion. Ond pan fydd gwrthrych yn drwchus neu wedi ei wneud o sawl deunydd, gall y pelydrau-X ystumio'r ddelwedd, gan ei gwneud yn aneglur a hyd yn oed greu nodweddion nad ydynt yno o gwbl. Gelwir y broblem hon yn "galedu paladr".
Mae ymchwil doethurol Sunny yn mynd i'r afael â’r broblem mewn dwy ffordd:
- Offeryn newydd, y Beam Hardening Predictive Index (BHPI) sy’n rhagweld faint o ystumio fydd yn digwydd cyn i sgan gael ei wneud.
- Soiri Piblinell awtomataidd, wedi ei hadeiladu gydag offer CCPi (gVXR i efelychu sganiau a'r Core Imaging Library i ail-greu delweddau), sy’n profi miloedd o gyfuniadau foltedd a hidlwyr i ddod o hyd i'r gosodiadau sganio gorau.
Meddai Sunny Nwokolo, “Mae’n anrhydedd ennill y 2026 CoSeC Impact Award. Datblygodd y Beam Hardening Predictive Index (BHPI) o gwestiwn syml: a allwn ragweld a chynllunio o amgylch caledu paladr cyn gwneud sgan, yn hytrach na’i gywiro at y tro nesaf?
Roedd cwblhau’r mynegai’n dibynnu'n llwyr ar yr offer agored a'r gymuned y tu ôl iddynt, gVirtualXRay a'r Core Imaging Library (CIL), ac ar gefnogaeth CCPi a CoSeC.
Rwy'n ddiolchgar i'm goruchwyliwr, Franck Vidal, STFC Scientific Computing i Jean Michel Létang, INSA Lyon - Institut National des Sciences Appliquées de Lyon, ac i'm holl gydweithwyr, a gobeithio y bydd BHPI yn wirioneddol ddefnyddiol mewn nifer o feysydd sy'n dibynnu ar sganiau CT pelydr-X.”
Bydd Sunny yn trafod ei ymchwil yng nghyfarfod defnyddwyr IBSim & #gVXR ac yn y Sefydliad Ffiseg ym mis Hydref.
Darllenwch bapur diweddaraf Sunny "A beam-hardening predictive index (BHPI) for simulation-guided spectral optimisation in laboratory X-ray.
Ewch i weld y post llawn ar LinkedIn, rhowch sylw a rhannwch.