Fy ngwlad:

Llefydd Newid Hinsawdd Seminarau 2023

Seminarau 2023 Llefydd Newid Hinsawdd

Dr Sofie Roberts 

Prifysgol Bangor

Image of Sofie Roberts

Tra bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn fyd-eang, mae’n rhywbeth y gellir ei deimlo’n lleol, yn y mannau lle'r ydym yn byw ac yr ydym yn teimlo'n gysylltiedig â hwy.  Mae dulliau gweithredu seiliedig ar le felly yn hanfodol i liniaru effeithiau’r hinsawdd yn effeithiol. Yn y seminar hwn, byddaf yn adrodd am ganfyddiadau perthnasol am ymgysylltiad cymunedol a chanfyddiadau am weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn lleol, sydd wedi deillio o ddau broject byr: y naill yn dadansoddi gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ar lawr gwlad a’r llall yn ymwneud ag ymyriadau o’r brig i lawr.

Yn rhan gyntaf y cyflwyniad, byddaf yn trafod astudiaeth gydweithredol ddiweddar gyda GwyrddNi, mudiad o fentrau cymdeithasol sy’n cydweithio i rymuso cymunedau i gyflawni’r camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd. Aeth ein hastudiaeth i'r afael â deinameg gymdeithasol a chyfathrebol cynulliadau cymunedol gan gynnwys yr heriau cysylltiedig a sut gall cymorth academaidd helpu i sefydlu arferion gorau drwy gydweithio ar ymchwil.

Image of young trees next to a fence with buildings in the background

Nesaf, bydd y drafodaeth yn troi at broject diweddar mewn partneriaeth â Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig a Chyngor Sir Ddinbych, a oedd yn ystyried canfyddiadau cymunedol o ymyriadau mannau gwyrdd newydd yn y Rhyl trwy wahodd trigolion i rannu eu barn am newidiadau amgylcheddol yn eu hardal leol.

Byddaf yn trafod y ffyrdd y gellir gwella ymgysylltiad â’r hinsawdd drwy fanteisio ar drafodaethau cymunedol lleol a threftadaeth ddiwylliannol, gan blethu gweithredu hinsawdd yn y naratifau cymunedol ehangach sydd wedi eu gwreiddio mewn ymlyniad a phryder am yr ardal leol a chynefin pobl. Bydd gwaith yn y dyfodol yn mynd i'r afael â’r graddau y gellir cyffredinoli’r canfyddiadau hyn ar draws ardaloedd, gan nodi egwyddorion cyffredinol sy'n cymell ac yn grymuso cymunedau i ymgysylltu.

Gwylio'r recordiad

Dr Mark Hughes

Prifysgol Aalto, Helsinki

Mae adeiladau ac adeiladu yn cael effaith enfawr ar yr amgylchedd ac mae lleihau'r effaith hon yn hollbwysig os ydym am gael unrhyw obaith o gyfyngu ar yr hinsawdd yn cynhesu i ddim mwy na 2oC heb sôn am 1.5 oC. Mae angen newid sylfaenol ar frys. Cydnabyddir yn gyffredinol[1] bod adeiladau pren yn ateb ecolegol, gan helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd. Mae cynhyrchion pren yn storio carbon atmosfferig a ddaliwyd gan goed yn ystod eu twf ac yn disodli deunyddiau carbon-ddwys fel concrit a dur. Er bod adeiladu gyda phren wedi’i nodi fel ffordd bwysig o ddatgarboneiddio’r amgylchedd adeiledig, dylai chwilio am goed ar gyfer cynhyrchion pren ystyried holl werthoedd y coedwigoedd er mwyn osgoi gorgynaeafu, colli bioamrywiaeth a difrod i wasanaethau ecosystemau eraill. Os ydym am adeiladu o fewn 'ffiniau planedol' dylem fod yn defnyddio ein holl adnoddau, yn enwedig adnoddau coedwigoedd, yn llawer mwy cynnil a meddylgar. Er mwyn lleihau effaith yn sylweddol, dylem yn gyntaf roi'r gorau i ddymchwel adeiladau ac ymestyn eu hoes gymaint ag y bo modd! Mae adeiladau hynach yn lleihau'r defnydd o adnoddau, yn lleihau allyriadau adeiladu ac yn lleihau'r gwastraff a gynhyrchir. Felly, dylai adeiladau pren newydd gael eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu a’u dadgydosod, a dylid eu hadeiladu i bara, tra dylid ymestyn oes adeiladau presennol cyn belled ag y bo modd, a dylid eu hystyried yn ffordd werthfawr o storio deunyddiau. Mae angen newid meddylfryd ac ymarfer ar frys! Bydd y themâu hyn yn cael eu hystyried.

Mae gan Mark Hughes radd BSc mewn Peirianneg Fecanyddol, MSc mewn Technoleg Diwydiannau Coedwigaeth, a PhD mewn Gwyddor Pren. Ar ôl cael ei PhD yn 2000, bu’n gweithio am 6 mlynedd fel rheolwr ymchwil yng Nghanolfan BioGyfansoddion, Prifysgol Bangor. Symudodd i’r Ffindir yn 2006, gan ymgymryd â swydd ym Mhrifysgol Technoleg Helsinki (Prifysgol Aalto bellach), yn gyntaf fel rheolwr ymchwil ac yna fel athro llawn, o 1 Ionawr 2007 ymlaen. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn amrywiol, yn amrywio o berthnasoedd strwythur-priodwedd mewn pren a deunyddiau cyfansawdd, trwy addasu pren, i ddefnyddio pren mewn adeiladu sy’n effeithlon o ran adnoddau. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar wella cynaliadwyedd adeiladu pren trwy ei ddefnyddio i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau yn ogystal ag astudio sut y gellid cymhwyso egwyddorion economi gylchol i gadwyn werth adeiladau pren. Mae wedi awduro neu gyd-awduro dros 115 o gyhoeddiadau sydd wedi ymddangos yn y llenyddiaeth wyddonol, saith pennod llyfr ac wedi cyfrannu at nifer fawr o gynadleddau a digwyddiadau eraill dros y blynyddoedd. Ef yw pennaeth y rhaglen Cynaliadwyedd Creadigol yn Ysgol Peirianneg Gemegol Prifysgol Aalto.

Dr Erin Roberts 

Prifysgol Caerdydd

Hannah Johnson a Chloe Corbyn

Bydd y sesiwn hon yn rhoi dealltwriaeth i gyfranogwyr o’r berthynas gymhleth rhwng ymchwilwyr a gwleidyddion, trosolwg o sut mae polisïau a chyfreithiau yn cael eu gwneud yng Nghymru, sut i drafod y ddau fyd polisi ac ymchwil, awgrymiadau a chyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â’r Senedd, ac astudiaeth achos.

Mae Hannah Johnson yn arwain y rhaglen cyfnewid gwybodaeth yn Senedd Cymru, sy'n anelu at gryfhau cysylltiadau rhwng y senedd a'r gymuned ymchwil. Mae ganddi fwy na 12 mlynedd o brofiad mewn ymchwil seneddol ledled y byd, gan arbenigo mewn cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae hi hefyd yn darparu cyngor ar lefel ryngwladol i nifer o seneddau a rhaglenni cymorth democratiaeth, gan gynnwys i'r Cenhedloedd Unedig a'r UE, ac mae ganddi radd LLM mewn cyfraith hawliau dynol.

Mae Chloe Corbyn yn Uwch Ymchwilydd, yn gweithio yn y tîm amgylchedd a thrafnidiaeth yn Ymchwil y Senedd. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ymchwil, mewn prifysgolion a'r sector cyhoeddus. Hi yw'r prif ymchwilydd ar gyfer newid hinsawdd, datgarboneiddio ac ansawdd aer, ac mae'n arwain gwaith traws-Senedd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae ei phrofiad deddfwriaethol yn cynnwys craffu ar Ddeddf Amgylchedd Cymru 2016, ac yn fwy diweddar deddfwriaeth ar blastigau untro, ac ansawdd aer a thirweddau sain

Dr Giuseppe Forino

Prifysgol Bangor

Nod project Clicher oedd archwilio ffyrdd y mae'r cyhoedd, rhanddeiliaid a llunwyr polisi yn gweld treftadaeth ddiwylliannol (gan gynnwys y gwerth y maent yn ei roi ar ei chadwraeth) a'r bygythiad dirfodol y mae'r asedau diwylliannol hynny yn ei wynebu nawr o ran hinsawdd sy'n newid a'i bygythiadau cysylltiedig. Mae’r project wedi’i ariannu gan ymchwil trawsddisgyblaethol NERC ar gyfer Gwyddor Darganfod ac aeth i’r afael â’r cwestiwn ymchwil canlynol: Sut y gall gwerthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol helpu’r cyhoedd i ddeall newid yn yr hinsawdd yn well? Ym mis Chwefror 2023, fe wnaethom gynnal dau weithdy ym Mhlas-y-Bwlch gyda chymunedau lleol, ymarferwyr, llunwyr polisi ac academyddion i archwilio canfyddiadau a gwerthoedd cymunedau lleol am dreftadaeth ddiwylliannol gogledd Cymru (h.y. adrodd straeon, profiadau byw, myfyrdodau trafodol), ac ystyriaethau ynghylch newid yn yr hinsawdd, a risg cysylltiedig. Yn y gweithdai hyn, trafodwyd gwahanol themâu drwy rannu’n grwpiau a gafodd eu recordio. Rydym wedi cynnal dadansoddiad rhagarweiniol o ddata o recordiadau sain, ac wedi adfer y prif themâu sy'n dod i'r amlwg. Cyflwynwyd y dadansoddiad hwn mewn digwyddiad cyhoeddus estyn allan gyda rhanddeiliaid a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ym mis Mawrth 2023. Byddaf yn cyflwyno ac yn trafod y themâu hyn, gan amlygu heriau a chyfleoedd ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. 

Mae Dr Giuseppe Forino yn ddarlithydd mewn daearyddiaeth ddynol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Giuseppe yn wyddonydd cymdeithasol rhyngddisgyblaethol gyda chefndir mewn daearyddiaeth ddynol. Mae'n gweithio ar groesffordd perthnasoedd cymdeithasol-amgylcheddol ym maes rheoli risg trychinebau ac addasu i newid hinsawdd. Mae gan Giuseppe brofiadau ymchwil ac addysgu yn yr Eidal, Awstralia a'r DU, gyda gwaith maes yn Ewrop, Awstralia, De-ddwyrain Asia, ac Ecwador.

Dr Katherine Steele

Prifysgol Bangor

Mae bridio reis wedi cyfrannu at gynnydd cyson mewn cynhyrchiant grawn byd-eang dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae'r pwyslais wedi symud yn ddiweddar o wella maint y cnwd i addasu i straen amgylcheddol a datblygu ymwrthedd i blâu a chlefydau. Mae amrywiaeth reis newydd yn dod â manteision i ffermwyr reis a buddiolwyr eraill yn y gadwyn gyflenwi. Mae gwella mathau o reis persawrus yn flaenoriaeth fawr mewn llawer o wledydd sy'n tyfu reis oherwydd bod eu gwerth yn y farchnad yn fwy na gwerth mathau o reis nad ydynt yn rhai persawrus. Dechreuodd reis Basmati fel arbenigedd lleol yn y Punjab ac mae bellach wedi dod yn nwydd a werthir yn fyd-eang. Mae bridwyr yn India a Phacistan yn datblygu mathau newydd o reis Basmati, a gallai llawer ohonynt gael eu marchnata'n rhyngwladol. Mae rheoleiddwyr wedi cymeradwyo mathau penodol y gellir eu gwerthu wedi eu labelu fel Basmati ac maent wedi gosod terfyn ar faint o gynhyrchion nad ydynt yn fathau Basmati a ganiateir mewn cynhyrchion Basmati. Bydd y cyflwyniad hwn yn sôn am fy mhrofiad o ddadansoddi olion bysedd DNA reis Basmati ar gyfer dilysu a bridio ac yn trafod materion polisi sy'n ymwneud â'i burdeb.

Enillodd Katherine ei PhD o Brifysgol Nottingham mewn patholeg planhigion moleciwlaidd mewn gwenith. Mae hi wedi bod yn aelod o staff ym Mhrifysgol Bangor ers 25 mlynedd, gan ddechrau gydag ymchwil ôl-ddoethurol ar oddefgarwch sychder mewn reis. Ar hyn o bryd mae hi'n uwch ddarlithydd sy'n canolbwyntio ar Gynhyrchu Cnydau Cynaliadwy yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol. Mae ei hymchwil a'i haddysgu yn cwmpasu amrywiaeth eang o gnydau a phlanhigion ac yn gwneud defnydd o Ganolfan Ymchwil Henfaes Prifysgol Bangor a Gardd Fotaneg Treborth. Hi oedd Cyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu Coleg y Gwyddorau Naturiol ac arweiniodd eu cyflwyniad Effaith REF 2021. Mae hi'n cynrychioli Prifysgol Bangor ar Grŵp Tystiolaeth ac Ymgynghorol Iechyd Planhigion Cymru.

Dr Liz Morris-Webb (Prifysgol Bangor & Dr Tomas Buitendijk Prifysgol Coleg Dulyn)

Fe ddefnyddion ni ddull cymysg o weithredu a hwnnw wedi’i lywio gan Theori Actor-Rhwydwaith (yn seiliedig ar y fateroliaeth newydd) i ddeall yn well bwysigrwydd cysylltiad(au) diwylliannol y trigolion lleol â mannau penodol ar yr arfordir. Gobeithiwn y bydd yr wybodaeth hon yn helpu rhagweld pa mor debygol yw pobl o gefnogi neu wrthsefyll newidiadau arfaethedig i’r dirwedd.

Rydym yn defnyddio dulliau cymysg wedi'u hategu gan theori actor-rhwydwaith (wedi'i seilio ar ddull materoliaeth newydd) i geisio deall yn well bwysigrwydd cysylltiad diwylliannol pobl â lleoedd penodol. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn helpu i ragweld tebygolrwydd pobl o gefnogi neu wrthsefyll newidiadau i'r dirwedd.

Mae Tomas Buitendijk yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol ym maes Dyniaethau Glas ac Amgylcheddol, wedi'i leoli yn Sefydliad y Ddaear, Coleg Prifysgol Dulyn. Cwblhaodd ei ymchwil PhD yn flaenorol yn Ysgol Saesneg Prifysgol Dinas Dulyn. Ar hyn o bryd mae Tomas yn gweithio ar brosiect Ecostrwythur Iwerddon-Cymru, lle mae'n ymchwilio i gysylltiadau diwylliannol â'r arfordir. Mae ei waith yn cynnwys astudiaeth gymuned arfordirol yn ne Swydd Wicklow, Iwerddon, a gynhaliwyd ynghyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae hefyd yn cynnal astudiaeth synthesis ar fframweithiau Gwasanaethau Ecosystem (Diwylliannol) a'r Dyniaethau Amgylcheddol, ac astudiaeth ar Ddatrysiadau sy'n Seiliedig ar Natur ar Ynys North Bull ym Mae Dulyn.

Mae Liz Morris-Webb yn Ymchwilydd Ôl-ddoethurol ym maes dimensiynau dynol yr amgylchedd morol, wedi'i leoli yn Ysgol Gwyddorau'r Cefnforoedd yma ym Mangor. Mae diddordebau ymchwil Liz ym mhwysigrwydd cysylltiadau arfordirol / morol pobl ar eu lles, eu gwydnwch i newid ac ymddygiadau pro-amgylcheddol, yn enwedig yng nghyd-destun cydymffurfio â rheolaeth forol a gwydnwch i newid hinsawdd. Mae ei gwaith trawsddisgyblaethol yn cael ei lywio gan ddulliau o seicoleg amgylcheddol, daearyddiaeth ddynol a gwyddorau iechyd. Ariannwyd y gwaith cymunedol Gwyddelig a gyflwynir yma gan Ecostructure. Mae gwaith arall yn cynnwys deall beth sydd ei angen ar bysgotwyr Brasil i fod yn wydn i newid hinsawdd (a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig) a llywio darpariaeth addysg forol a llythrennedd cefnfor yn y dyfodol trwy brofi effeithiolrwydd deunyddiau addysg ar wella ymddygiadau bioddiogelwch ymhlith cychodwyr (Ecostructure) a gweithio gyda Rhwydwaith Ysgolion Glas yr Holl Iwerydd i ymgysylltu ag ysgolion ledled y rhanbarth.