Trosolwg o’r Project
Ymchwiliodd y project i'r hyn y mae pobl yn ei gamddeall am y llanw sy'n arwain atynt yn cael eu torri i ffwrdd o ddiogelwch y lan. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod am newidiadau’r llanw yn gyffredinol, mae ymwelwyr â'r arfordir yn parhau i gael eu dal gan y llanw yn aml ac mae’r RNLI yn cael eu galw i helpu – sy'n dangos nad oes digon o ymwybyddiaeth o symudiadau’r llanw a'r peryglon cysylltiedig. Roeddem eisiau deall pa ffyrdd o feddwl a allai achosi'r digwyddiadau hyn, a sut y gellid eu hosgoi.
Pob blwyddyn, mae badau achub ac achubwyr bywyd yn achub cannoedd o fywydau ar y glannau oherwydd bod pobl yn cael eu dal gan y llanw. Mae cael eich dal gan y llanw yn achos sylweddol o ddigwyddiadau sy’n galw am gymorth gan fadau achub ac achubwyr bywyd, gyda dros 35,500 o bobl wedi cael cymorth a mwy na 200 o fywydau wedi'u hachub yn ystod y 5 mlynedd diwethaf; fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau’r RNLI mae yna nifer o farwolaethau o hyd. Er mwyn lleihau nifer y digwyddiadau a all beryglu bywydau, mae angen gwell ddealltwriaeth o'r rhesymau pam mae pobl yn mynd i drafferthion ar yr arfordir. Rhoddodd y project sylw i hynny drwy ystyried canfyddiad pobl o’r llanw a’u dealltwriaeth ohono. Ein nod oedd helpu'r RNLI ddatblygu mesurau rhagofalus mwy pwrpasol, ac ymateb yn uniongyrchol i anghenion defnyddwyr yr arfordir yn ôl eu canfyddiadau hwythau.
Ein man cychwyn oedd tuedd pobl i gyffredinoli ar sail eu profiad hwythau o’r llanw, heb sylweddoli y gall symudiadau’r llanw amrywio’n ddirfawr o’r naill le i’r llall ac ar adegau gwahanol. Yn rhan o’r gwaith hwn, gwnaethom archwilio beth yw'r camsyniadau cyffredin sy'n arwain at filiynau o blant, oedolion, trigolion a thwristiaid yn rhoi eu hunain mewn perygl ar ddamwain.
- Cyfathrebu helaeth rhwng yr RNLI ac academyddion
- Adolygu’r llenyddiaeth berthnasol
- Cyfweld unigolion a oedd wedi cael eu dal gan y llanw ac a achubwyd gan yr RNLI.
- Creu arolwg ar-lein cenedlaethol cynrychioladol a oedd yn asesu dealltwriaeth y cyhoedd o'r llanw, a'r gallu i ddehongli tabl llanw wrth ymweld â thraeth
- Datgelodd ein harolwg fod dros 15% o'r cyhoedd yn adrodd eu bod wedi cael eu dal gan y llanw, neu bron a bod wedi eu dal.
- Mae gan bedwar o bob deg o bobl ddiffyg gwybodaeth sylfaenol am y llanw: ei fod yn dod i mewn ddwywaith y dydd, bod y llanw yn yr un lleoliad yn codi ac yn gostwng ar wahanol adegau bob dydd, a bod faint mae’r llanw yn codi a gostwng yn amrywio ar draws gwahanol rannau o'r wlad.
- Roedd dros chwarter o'r cyhoedd ym Mhrydain ac Iwerddon yn cael trafferth darllen tabl llanw sylfaenol, a dim ond chwarter y rhai a gymerodd rhan oedd yn gallu cael gwybodaeth fwy cymhleth ohono. Yn aml, mae pobl yn camfarnu eu gallu eu hunain i ddarllen tabl llanw.
- Ymhlith y camsyniadau cyffredin a arweiniodd at gael eu dal gan y llanw oedd y llanw'n dod i mewn yn llawer cyflymach ac yn gryfach na'r disgwyl, ac yn aml o gyfeiriad gwahanol. Yn aml, mae pobl yn disgwyl y bydd y dŵr yn dod i’r lan mewn llinell syth, yn eithaf araf, gan eu galluogi i gerdded yn ôl at y banciau tywod pan fo angen. Fodd bynnag, yn anaml y bydd llif cyson i’r llanw a’r trai. Yn hytrach, bydd yn llifo'n ochrol i ddechrau ar hyd sianeli ac o amgylch y traethellau, a’u torri i ffwrdd o'r tir mawr a chael gwared ar y llwybrau diogel yn ôl i'r tir – a gall hynny ddigwydd yn gyflymach na’r disgwyl.
- Mae hyn yn dangos methiant cenedlaethol i ddeall yr amrywioldeb yn symudiad y llanw – un o agweddau mwyaf sylfaenol ar y cefnfor.
- Rydym yn awgrymu ystyried ychwanegu egwyddor hanfodol newydd at agenda Llythrennedd y Cefnfor, gyda'r nod o wella llythrennedd cymdeithasol o’r llanw a chydnabyddiaeth risg ar yr arfordir.
Cyfnodolion a Phapurau
Darllen y papur mewn cyfnodolyn
Morris-Webb, Elisabeth S., Martin Austin, Chris Cousens, Naomi Kent, Kat Gosney, and Thora Tenbrink. 2025. Cut off by the tide: How ocean literacy can help save lives. Ocean and Society Cyfrol 2, Erthygl 9793.
Cousens et al. 2025. Tidal literacy: Public understanding and misconceptions of the tide. Adroddiad yr RNLI.
mwy o fanylion am y ffactorau sy'n cynyddu'r risg o gael eich dal gan y llanw
Tally, David. 2023. Assessing the factors responsible for RNLI rescues caused by tidal cut off. Traethawd MSc, Prifysgol Bangor.
Datganiadau i'r Wasg
- Datganiadau i'r Wasg gan Brifysgol Bangor: 30 Ionawr 2023, 4 Ebrill 2023, a 9 Ebrill 2025
- Datganiadau i'r Wasg gan yr RNLI: 4 Ebrill 2023 a 9 Ebrill 2025
Edrych ymlaen a’r ymchwil at y dyfodol
- Beth allwn ei wneud i wella ymwybyddiaeth pobl o risg pan fyddant ar draethau?
- Datblygu strategaethau cyfathrebu a gweithredol wedi'u mireinio, mewn cydweithrediad â'r RNLI, sy'n targedu camsyniadau cyffredin ledled y Deyrnas Unedig yn uniongyrchol.
- Datblygu rhaglen hyfforddi gydweithredol i hyfforddi myfyrwyr fel Gwirfoddolwyr Diogelwch Dŵr yr RNLI, gan roi iddynt wybodaeth ymarferol am y llanw i leihau nifer yr achosion o’r cyhoedd yn cael eu dal gan y llanw.
- Estyn ein hymchwil y tu hwnt i'r RNLI, e.e., mynd i'r afael ag arwyddion ac arferion addysgu yn y Deyrnas Unedig, ac estyn allan at ranbarthau a chyd-destunau eraill lle gall llythrennedd y llanw ddylanwadu ar ddiogelwch.
- Casglu rhagor o dystiolaeth sy'n caniatáu i lythrennedd y llanw gael ei gynnwys yn agenda Llythrennedd y Cefnforoedd ledled y byd, sy'n eiriol dros fwy o fynediad at y cefnfor a chysylltiad ag ef, ond nad yw ar hyn o bryd yn cyfeirio at ddyletswydd gofal o ran mynediad diogel.
- Ehangu cwmpas sut y gellir cymhwyso’r syniad o lythrennedd y llanw yn fyd-eang i gynnwys peryglon a heriau pellach sy'n gysylltiedig â'r llanw.
Cysylltu â Ni
Os oes gennych ddiddordeb cydweithio â ni, cysylltwch os gwelwch yn dda: