O amgylch Bangor...
Ynys Môn...

Ynys Môn yw un o'r llefydd mwyaf poblogaidd gan ymwelwyr sy'n dod i ogledd Cymru oherwydd y milltiroedd o draethau a llwybrau arfordirol a cheir yno.
Mae tref Porthaethwy, sy'n gartref i Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol, rhyw chwarter awr o gerdded i ffwrdd o Fangor Uchaf ac yno mae nifer o siopau bychain, tai bwyta, caffis a thafarndai.
Ac os oes gennych awydd mentro dros y dŵr i Iwerddon, gallwch deithio yno o borthladd Caergybi, sydd rhyw hanner awr i ffwrdd o Fangor ar y trên.
Parc Cenedlaethol Eryri...
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn baradwys i'r rhai hynny ohonoch sy'n gwerthfawrogi natur ar ei harddaf. Mae'r parc yn 25 milltir o drysor cenedlaethol sy'n cynnwys nifer o atyniadau a llefydd gwych i gael picnic.
Mae Llanberis yn bentref sy'n eistedd yn falch yng nghanol y Parc efo'i golygfeydd bendigedig. Os ydych chi'n barod am sialens pan na wnewch chi ddringo i gopa'r Wyddfa, neu os nad ydych chi'n fodlon ar hynny, mae yna ffordd ddiog o fynd i fyny yno drwy fynd ar drên bach yr Wyddfa.