Campws Wrecsam
Yr Ysgol Gwyddorau Iechyd – Campws Wrecsam
Sylfaenwyd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd (yr Ysgol Nyrsio, Bydwreigiaeth ac Astudiaethau Iechyd gynt) ym Mhrifysgol Bangor - ym Mangor ac yn Wrecsam - yn ystod y 1990au yn dilyn integreiddio gwasanaethau addysg y GIG ar gyfer Proffesiynau Gofal Iechyd, a fuasai gynt yn rhan o’r Awdurdodau Iechyd Gwynedd a Chlwyd am dros ddeg ar hugain o flynyddoedd. Er ei bod bellach wedi ei hintegreiddio’n llwyr i mewn i’r sector addysg uwch yn hytrach na’r gwasanaeth iechyd, mae’r Ysgol wedi cadw ei chysylltiadau agos gydag Ymddiriedolaethau GIG Gogledd Cymru gan gynnwys Ysbyty Maelor (gweler isod) ac Ysbyty Glan Clwyd, ac y mae’r ddau ysbyty yma’n darparu lleoliadau ymarfer ar gyfer myfyrwyr nyrsio israddedig yn ystod eu tair blynedd o astudio. Staff yr ysbytai yma hefyd sy’n ffurfio’r rhan helaethaf o’r corff myfyrwyr ôl-gofrestru.
Mae gan Ysbyty Maelor Wrecsam gysylltiadau agos gyda’r Ysgol Gwyddorau Iechyd ac mae wedi ei leoli yn gyfleus o agos i’r Ysgol. Y Maelor yw’r ysbyty un safle mwyaf yng Ngogledd Cymru ac yn ddiweddar cyflawnwyd rhaglen foderneiddio werth miliynau lawer o bunnau yn yr ysbyty. Mae iddo statws academaidd sy’n datblygu mewn cysylltiad â Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru.
Llety Myfyrwyr ar Gampws Wrecsam Prifysgol Bangor
Mae llawer o fyfyrwyr sy'n mynychu campws Wrecsam yn byw o fewn pellter cymudo ond i'r rheini o ymhellach i ffwrdd neu sy'n dymuno byw mewn neuaddau myfyrwyr mae gan y Brifysgol nifer o ystafelloedd yn Neuadd yr Wyddfa yn Wrecsam. Mae'r llety o fewn pellter cerdded 2 funud i ganol y dref a 10 munud ar droed o brif adeiladau'r Brifysgol.
Dilynwch y cyswllt isod am fwy o wybodaeth:
Myfyrwyr Radiograffeg (Dim ond o Gampws Wrecsam y mae'r cwrs hwn yn cael ei redeg)
Myfyrwyr Nyrsio (Dim ond o Gampws Wrecsam y mae Nyrsio Plant yn cael ei redeg, gall llwybrau eraill gynnig hyblygrwydd o ran lle rydych chi'n astudio)
Cyrraedd Campws Wrecsam
Mae Wrecsam yng ngogledd ddwyrain Cymru, 70 milltir o Fangor, ac felly mae o fewn cyrraedd rhwydd i arfordir gogledd Cymru a golygfeydd godidog Eryri. Dim ond 13 milltir sydd rhwng Wrecsam a Chaer, gyda dinasoedd mawr Lerpwl a Manceinion o fewn cyrraedd rhwydd mewn car neu ar drên. Golyga hyn ei fod yn hawdd teithio yno o rannau helaeth o ogledd orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr ynghyd â gogledd orllewin Cymru. Saif campws Wrecsam ger Ysbyty Maelor ar Barc Technoleg Wrecsam.
Map Lleoliad
Cyfeiriad
Ysgol Gwyddorau Iechyd
Prifysgol Bangor
Canolfan Archimedes,
Parc Technoleg Wrecsam,
Ffordd Croesnewydd,
Wrecsam, LL13 7YP
Y cyrsiau sydd ar gael yng Nghanolfan Wrecsam
Teithio i Wrecsam
Gellir cyrraedd Wrecsam ar hyd yr A483 o’r A5 a’r M54 o’r De ac ar hyd yr M53 a’r M56 o’r Gogledd. Mae’r traffyrdd hyn wedyn yn arwain at yr M62, sef y brif ffordd rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin a’r M6, y brif ffordd rhwng y Gogledd a’r De. Mae safle Wrecsam ar ymylon rhanbarth gweithgynhyrchu Gogledd Orllewinol y Deyrnas Unedig yn golygu bod amseroedd gyrru i ganolfannau masnachol mawr yn syndod o fyr. Chwarter awr yw’r daith mewn car o Wrecsam i Gaer.
Ar y tren
Mae dwy orsaf reilffordd yn Wrecsam gyda chysylltiadau uniongyrchol â’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol. 3 awr ac 11 munud gymer y daith o Wrecsam i Lundain drwy Crewe, ac o Gaer gerllaw gellir cyrraedd Llundain mewn 2 awr a 40 munud.
Yr Ysgol
Ysgol Gwyddorau Iechyd
Prifysgol Bangor
Campws Wrecsam
Parc Technoleg Wrecsam,
Ffordd Croesnewydd,
Wrecsam, LL13 7YP
Ffôn: 01248 383134
E-bost: health@bangor.ac.uk