Beth Rydyn Ni’n Ei Wneud?
Project ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Chymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) yw #NNF3 Cysylltu Conwy. Mae’r prosiect, sy’n rhedeg rhwng mis Awst 2024 a mis Mawrth 2026, yn cael ei ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur (Rownd 3), a ddarperir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Nod y project hwn yw asesu'r potensial yn y dyfodol i wneud gwaith adfer ar raddfa morweddau yn Ardal Cadwraeth Arbennig y Fenai a Bae Conwy, ac o’i hamgylch.
Drwy gydweithio â rheoleiddwyr amgylcheddol, partneriaethau arfordirol ac amrywiaeth o randdeiliaid, rydym yn mynd ati i adeiladu’r sylfeini ar gyfer cynllun adfer cynefinoedd morol hirdymor sydd o fudd i fioamrywiaeth a chymunedau arfordirol.

Ein Nodau a'n Gweithgareddau
Rydym yn gwella ein dealltwriaeth o bresenoldeb a dosbarthiad cynefinoedd morol allweddol yn lleol – morwellt, wystrys brodorol, morfeydd heli a chregyn gleision – ac yn nodi rhwystrau i'w hadferiad. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- Astudiaeth ddesg yn cydgrynhoi data presennol am gynefinoedd
- Diweddaru asesiadau o addasrwydd cynefinoedd
- Arolygon maes wedi'u targedu i wirio mapiau cynefinoedd ar lawr gwlad
- Arolygon o rywogaethau anfrodorol goresgynnol
- Gweithdy cyfnewid gwybodaeth gyda phartneriaid ac ymarferwyr i edrych ar ehangu'r gwaith adfer
Rydym yn parhau i ddefnyddio’r gwaith adfer wystrys brodorol ym Mae Conwy fel astudiaeth achos i ddeall dichonoldeb ac effaith, gan archwilio'r potensial i ehangu'r gwaith adfer yn y Fenai ar yr un pryd. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- Monitro meithrinfeydd wystrys ac adferiad yn barhaus ym Mae Conwy
- Gwirio allbynnau’r gwaith modelu addasrwydd cynefinoedd wystrys ar lawr gwlad
- Nodi lleoliadau ar gyfer treialon adfer
- Astudiaeth ddichonoldeb ar oroesiad wystrys yn y Fenai
Nod Cysylltu Conwy yw cynnwys cymunedau arfordirol mewn adferiad morol. Drwy godi ymwybyddiaeth, darparu hyfforddiant a chynnig dysgu ymarferol, rydym yn adeiladu rhwydwaith o stiwardiaid môr gwybodus. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- Cynnig cyfleoedd hyfforddi â thâl i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa
- Darparu cyfleoedd gwyddoniaeth i ddinasyddion a datblygu dulliau monitro cost isel
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol i godi ymwybyddiaeth a chysylltu â chymunedau
Gwirfoddoli Gyda Ni!
Monitro Meithrinfeydd Wystrys
Mae ein meithrinfeydd wystrys wedi’u lleoli ym Marinas Conwy a Deganwy, ac maen nhw’n darparu amgylcheddau diogel a reolir, lle gall wystrys brodorol dyfu a rhyddhau larfâu i’r dyfroedd o’u cwmpas. Mae’r meithrinfeydd hyn yn cefnogi adferiad poblogaethau o wystrys a gallant hefyd weithredu fel canolbwynt i wyddoniaeth gymunedol ac ymgysylltu â’r gymuned.
Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr i’n helpu i fonitro’r safleoedd hyn. Fel gwyddonydd-ddinesydd, byddwch yn:
- Casglu data am iechyd a thwf wystrys
- Cofnodi’r rhywogaethau morol sy’n byw o amgylch y meithrinfeydd
- Helpu i fonitro amodau amgylcheddol fel tymheredd a halwynedd y dŵr
Nid oes angen profiad blaenorol - darperir hyfforddiant llawn, a chroesewir pobl o bob cefndir (18+ oed). Mae’n ffordd wych o ddysgu am fywyd morol lleol, cyfarfod pobl sy’n rhannu’r un diddordebau, a gwneud gwahaniaeth ymarferol drwy adfer riffiau wystrys
Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth ac ymuno â’r grŵp o wirfoddolwyr.
Cyfarfod y Tîm
Newyddion Diweddaraf
Gweld MwyDigwyddiadau
Cysylltu â Ni
I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan ym mhroject Cysylltu Conwy:
Instagram: @wild_oysters_project
#NNF2: Dod ag wystrys gwyllt yn ôl i Fae Conwy – ein project blaenorol