Croeso i Ysgol y Gwyddorau Naturiol (SNS). Rydym yn hapus iawn eich bod chi wedi penderfynu astudio gyda ni, a gobeithiwn eich bod yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod. Mae dechrau eich addysg Brifysgol yn gyfnod cyffrous, ond fe all fod yn brawychus ac ychydig yn llethol. Cynlluniwyd rhaglen yr Wythnos Groeso i'ch helpu i ymgartrefu ac i ddarparu gwybodaeth amhrisiadwy sy'n angenrheidiol i'ch cefnogi chi drwy gydol eich amser ym Mangor. Byddwch yn cael cyfarfod â'ch tiwtor personol, a chael eu cyflwyno i staff sydd â chyfrifoldebau am les myfyrwyr, gyrfaoedd, darpariaeth TG a llawer mwy. Mae cymorth wrth law drwy'r system Arweinwyr Cyfoed, a thrwy gofyn i staff.
Yn y llawlyfr hwn, fe welwch amserlen o ddigwyddiadau’r Wythnos Groeso a drefnwyd Gan yr Ysgol.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn ystod yr Wythnos Groeso a dod i'ch adnabod yn ystod eich cyfnod astudio gyda ni.
Dewch o hyd i'ch amserlen trwy chwilio am eich grŵp pwnc neu deitl eich cwrs
Dewch o hyd i'ch amserlen trwy chwilio am eich grŵp pwnc neu deitl eich cwrs