Ewch y Tu Hwnt i'r Cyffredin
Meithrin dysgu cynhyrchiol a’r defnydd o dechnoleg yn yr ystafell ddosbarth
Mae Prifysgolion Bangor a Wrecsam fel rhan o’r cydweithrediad WCLD, wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr rhyngwladol i ddatblygu cynhadledd ymarferol i'ch helpu i ddatblygu profiadau dilys wedi’u cyfoethogi gan dechnoleg yn eich ystafelloedd dosbarth.
Mae'r gweithdy hwn wedi'i anelu at addysgwyr plant 3-18 oed ac yn cyflwyno tasgau cydweithredol ac ymarferol. Mae’n cynnwys cyfleoedd i ddefnyddio opsiynau technoleg sylfaenol mewn ffordd sy’n glir i’w dilyn a’i mabwysiadu, a fydd yn eich ysbrydoli i ddefnyddio technoleg mewn gwahanol ffyrdd yn eich ystafell ddosbarth. Dysgwch sut i wella'ch cwricwlwm trwy ddefnyddio fideo 360, Rhithrealiti (VR), a/neu Ddeallusrwydd Artiffisial (AI).
Siaradwyr gwadd:
Mae Dr William Rankin yn ddamcaniaethwr addysgol, yn ddylunydd, yn siaradwr, ac yn ymchwilydd gyda phrofiad mewn addysg uwch, cwmnïau Fortune 500, a busnesau newydd ym maes technoleg addysgol. Mae wedi gweithio gyda llywodraethau, sefydliadau addysgol, a chwmnïau ar draws y byd i ddatblygu dulliau addysgu a dysgu arloesol. Ac yntau’n hyrwyddwr cynnar o ddefnyddio technolegau symudol ar gyfer dysgu, mae’n awdurdod cydnabyddedig ar ddysgu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr a dysgu seiliedig ar brojectau sy’n integreiddio profiadau byd go iawn.
Yn 2016, cydsefydlodd Rankin y grŵp Unfold Learning gyda’i bartner Bea Leiderman i gyflwyno ei fodel ‘dysgu dimensiynol’ a’r fframwaith adeiladol ““Follow/Tinker/Make/Share” sy’n ddatblygiad ohono.
Gwasanaethodd Rankin fel Cyfarwyddwr Dysgu byd-eang i Apple o 2013–16, a gweithiodd am 24 mlynedd fel Athro Saesneg a Chyfarwyddwr Arloesedd Addysgol ym Mhrifysgol Gristnogol Abilene, ac ar hyn o bryd mae’n Arbenigwr Preswyl ar ddysgu â chymorth technoleg yn Sefydliad Technoleg De Alberta yn Calgary.
Mae gan Dr Janet Twyman hanes cryf o drosglwyddo technoleg hyfforddi a datblygu rhaglenni ar y we i'w dosbarthu'n eang. Mae ei phrojectau diweddar yn cynnwys dylunio a datblygu rhaglen darllen cynnar hynod effeithiol ar sail egwyddorion a gweithdrefnau o wyddor sylfaenol dadansoddi ymddygiad, a datblygu gweithdrefnau parodrwydd darllen ar gyfer dysgwyr ag anableddau deallusol a niwroddatblygiadol.
Mae Dr. Twyman yn arloeswr ym myd addysg, yn arweinydd syniadaethol, ac yn sylfaenydd Blast: cwmni gwyddorau dysgu. Mae ganddi hefyd swydd mewn cyfadran fel Athro Cysylltiol Pediatreg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Massachusetts. Cyn hynny bu’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Arloesedd a Thechnoleg i’r Ganolfan Arloesedd mewn Dysgu a ariennir gan Adran Addysg yr Unol Daleithiau a hi oedd Is-lywydd Datblygiad Hyfforddi, Ymchwil, a Gweithredu yn Headsprout. Mae ei herthyglau, penodau llyfrau, a chyflwyniadau niferus yn ymdrin â dadansoddi ymddygiad, dylunio ar gyfer hyfforddi, technoleg, a systemau addysgol, gan gynnwys cyd-olygu dau lyfr ar arloesedd addysgol a dysgu wedi’i bersonoli.
Bydd cyfraniadau o £250 tuag at athrawon cyflenwi yn cael eu dyrannu i nifer cyfyngedig o leoedd, ar sail y cyntaf i'r felin. Gellir hawlio cyfraniadau ar ôl bod yn bresennol yn y digwyddiad.



Gweithdy ymarferol
Ar ôl y sesiwn gyntaf, gall y cyfranogwyr ddewis mynd i un o dri gweithdy ymarferol:
Gweithdy 1 – ‘The future is intelligent: Bringing generative AI into your lesson planning’.
Dr Janet Twyman a Dr Kaydee Owen.
Bydd y sesiwn hon yn arfogi addysgwyr yng Nghymru â gwybodaeth ymarferol a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i symleiddio’r gwaith o gynllunio gwersi. Bydd y cyfranogwyr yn defnyddio amrywiaeth o offer deallusrwydd artiffisial i gyfrannu ar lunio cynnwys deniadol i’w dysgwyr, a rhoddir sylw penodol i asesu ffurfiannol, cyfarwyddyd gwahaniaethol, ac archwilio cyfleoedd dysgu a sbardunir gan fyfyrwyr.
Byddwn hefyd yn edrych ar wella canlyniadau trwy roi promptiau ac yn trafod ffyrdd o ddeall yr ystyriaethau moesegol wrth ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn yr ystafell ddosbarth.
Gweithdy 2 – ‘Using Interactive 360° and Virtual Reality’
Bydd Dr Sammy Chapman yn cyflwyno ac yn hwyluso ystafell drafod yn canolbwyntio ar adnoddau rhyngweithiol 360° ac adnoddau rhithrealiti. Canolbwyntir ar feddalwedd Kuula sy'n cael ei defnyddio ar draws project y Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu, a'r nod fydd galluogi athrawon i ddilyn a chwarae gyda'r dechnoleg.
Gweithdy 3 – ‘Digital creativity, green screen and stop motion video’
Dr Sue Layland /Dr Nick Young a Dr Bill Rankin
Bydd y drydedd sesiwn grŵp yn edrych ar ffyrdd creadigol o ddefnyddio fideo yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys ffyrdd rhad o ddefnyddio sgrin werdd ac animeiddio stop-symudiad. Byddwch yn creu fideo byr ac yn defnyddio effeithiau creadigol gan ddefnyddio technoleg hygyrch, ac yn trafod syniadau, opsiynau a sut mae’r syniadau hyn yn cyd-fynd â’r fframwaith cymhwysedd digidol.