Diwrnod Agored
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs israddedig, cewch flas go iawn ar fywyd prifysgol trwy ddod i Ddiwrnod Agored.  Rydym yn gobeithio byddwch yn gallu ymweld â ni – edrychwn ymlaen at eich gweld.
Ar Ddiwrnod Agored, byddwch yn:
- Cael mwy o fanylion am eich pwnc
 - Gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
 - Cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
 - Gweld y llety i fyfyrwyr
 - Cael blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
 - Mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
 - Ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.