Dr Georgina Smith wedi ennill Gwobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Llongyfarchiadau i Dr Georgina Smith, darlithydd mewn marchnata, sydd wedi ennill Gwobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Bangor eleni. Mae'r Wobr hon yn cydnabod staff am eu cyfraniad rhagorol i addysgu a/neu gefnogaeth dysgu. Gwneir enwebiadau ar gyfer y Wobr gan Benaethiaid Ysgolion ac Adrannau’r Gwasanaethau Proffesiynol. Cyflwynwyd y gwobrau yn ystod y seremonïau graddio.

Dr Georgina Smith, "Rwy'n teimlo'n freintiedig i dderbyn Gwobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr. Fel Cyfarwyddwr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr, rwyf wedi gweithio'n agos gyda'n myfyrwyr i sicrhau bod yr Ysgol yn darparu amgylchedd ysgogol a chefnogol sy'n gosod myfyrwyr ar lwybr tuag at yrfa lwyddiannus iawn. Rwy'n angerddol am fanteision dysgu mewn amgylchedd amrywiol, amlddiwylliannol ac yn ymdrechu i ddarparu dosbarthiadau rhyngweithiol lle mae myfyrwyr yn cael eu cyfoethogi gan brofiadau a safbwyntiau eu cyfoedion."
Yr Athro Bruce Vanstone, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor, "Mae Georgina wedi dangos ymrwymiad cyson i ragoriaeth yn ei haddysgu a'i dull cefnogol tuag at addysgu myfyrwyr. Mae'n esiampl i'w hefelychu o addysgu cynhwysol, hyblyg ac ymatebol. Mae Georgina'n creu amgylchedd dysgu effeithiol a phleserus i fyfyrwyr, gan annog rhyngweithio wrth archwilio dyfnder y pwnc. Mae'n darparu adborth adeiladol ac mae bob amser yn barod i addasu ei dull addysgu i gael y gorau allan o'i myfyrwyr. Mae dull brwdfrydig Georgina tuag at ymgysylltu â myfyrwyr a'u profiad yn cael ei gydnabod yn dda gan ei chyd-weithwyr, ac mae ei chyfraniadau wedi arwain at effeithiau cadarnhaol sylweddol ledled yr ysgol."