Four videos of multiple animals, with labels classifying the animals

Ai hwn yw eich anifail chi?

Ymchwilwyr Deallusrwydd Artiffisial yn cyflwyno eu hymchwil mewn Cynhadledd Prosesu Delweddau 

Rhagarweiniad 

Cyflwynodd yr Athro Lucy Kuncheva ynghyd â’r myfyrwyr PhD Frank Williams a Samuel Hennessey (a ariennir gan ganolfan hyfforddiant doethurol Cyfrifiadura Uwch a Dysgu Peirianyddol Deallusrwydd Artiffisial) eu hymchwil ar adnabod anifeiliaid ym mhumed Cynhadledd Ryngwladol yr IEEE ar Brosesu Delweddau, Rhaglenni a Systemau (IPAS 2022)  

Cynhaliwyd pumed Cynhadledd Ryngwladol yr IEEE ar Brosesu Delweddau, Rhaglenni a Systemau (IPAS 2022) rhwng 5 a 7 Rhagfyr 2022, ac fe'i cynhaliwyd yn Genova, yr Eidal. Bu i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Burgos, Sbaen, roi dau gyflwyniad o'u hymchwil.

Adnabod, ail-adnabod ac olrhain anifeiliaid

Teitl y papur cyntaf oedd “A Benchmark Database for Animal Re-Identification and Tracking” gan Ludmila Kuncheva, Francis Williams, Samuel Hennessey, a Juan Rodriguez. 

Roedd y papur yn canolbwyntio ar her rhwystrau mewn fideos. Mae recordiadau fideo o anifeiliaid yn ffynhonnell ddefnyddiol ar gyfer dadansoddi, ond oherwydd lleoliad y camera, a sut mae'r anifeiliaid yn symud, mae pysgod a gwrthrychau eraill yn cael eu cuddio. Mae hyn yn gwneud dosbarthiad yn heriol.  

Dywedodd Sammuel “I sefydlu meincnod, yr ydym yn ei ddefnyddio i adnabod anifeiliaid unigol, fe wnaethom hyfforddi a phrofi dau ddeg chwech o ddulliau dosbarthu. Gwnaethom hyn ar draws y pum fideo. Rydym hefyd yn adrodd ar ganlyniadau o’r radd flaenaf mewn dulliau dysgu ar gyfer canfod ac olrhain gwrthrychau.” 

Canfod gwrthrychau ar gyfer adnabod anifeiliaid

Teitl yr ail bapur oedd “Combination of Object Tracking and Object Detection for Animal Recognition” gan Francis Williams, Ludmila I Kuncheva, Juan Rodriguez, a Samuel Hennessey. Edrychodd y papur ar sut y gellir ail-bwrpasu modelau sy'n gweithio'n dda i adnabod pobl a cherbydau ar gyfer adnabod anifeiliaid. 

Gorffennodd Lucy trwy ddweud “Ein nod yw cyfrannu at anodi anifeiliaid yn awtomatig ar fideo, fel y gellir cael labeli a blychau terfyn mewn amser real, heb fawr o gysylltiad dynol. Os hoffai pobl ymchwilio ymhellach, yna edrychwch ar ein storfa git, neu cysylltwch â ni. Gallwch ymweld â'n tudalennau gwe prifysgol neu dudalennau gwe personol am fanylion cyswllt.” 

 

Golygydd: J. C. Roberts 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?