CSEE EXPO 2023, posters

EXPO 2023 - Dathliad o waith project myfyrwyr

Cynhaliwyd yr EXPO Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddydd Mercher 15 Mawrth 2023. Cyflwynodd y myfyrwyr eu gwaith project blwyddyn olaf, a chafwyd sgyrsiau byr gan gwmnïau lleol. 

EXPO 2023 yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig

Cynhaliwyd yr EXPO Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddydd Mercher 15 Mawrth 2023. “Mae hwn yn ddigwyddiad arddangos,” meddai’r Athro Jonathan C. Roberts (Cyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu ar gyfer yr Ysgol). “Mae’r EXPO yn rhoi cyfle i’r holl fyfyrwyr blwyddyn olaf gyflwyno eu project blwyddyn olaf, ac i gwmnïau gyflwyno’r hyn maen nhw’n ei wneud.” Eleni cynhaliwyd yr EXPO yn Neuadd Pritchard-Jones sef prif neuadd y Brifysgol. Dangosodd y myfyrwyr eu gwaith project ar bosteri a gafodd eu harddangos yng nghanol y neuadd, tra bod cwmnïau lleol yn arddangos o amgylch yr ochr. Ochr yn ochr â'r prif ddigwyddiad poster, cynhaliwyd rhaglen o sgyrsiau byrion hefyd. Eglurodd cwmnïau lleol yr hyn a wnaethant, a chyflwynodd ychydig o staff yr ysgol eu hymchwil. 

Fe wnaeth Dr Dave Perkins (Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu) groesawu pawb a chyflwyno’r diwrnod.  

Roedd yn wych croesawu cymaint o bobl. Roedd gennym ni fyfyrwyr trydedd flwyddyn, israddedigion eraill, llawer o’n myfyrwyr ôl-radd hyfforddedig, a degau o gwmnïau.

Aeth Dave yn ei flaen i ddweud  

Rwy’n achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’m cydweithwyr: Dr Yanhua Hong sy’n rheoli modiwl project y drydedd flwyddyn, a Carwyn Edwards, sy’n Rheolwr Arloesi Digidol yn M-SParc, am drefnu'r sgyrsiau byrion diwydiannol. Yn olaf, hoffwn gydnabod y myfyrwyr a weithiodd yn galed ar eu gwaith project, a’r myfyrwyr-wirfoddolwyr niferus a helpodd i sefydlu a datgymalu’r byrddau posteri.

Siaradodd yr Athro Roberts (cadeirydd y pwyllgor gwobrau a chydnabyddiaethau) ag enillwyr y gwobrau:

Rydw i wedi mwynhau’r gwaith project. Rydw i wedi bod yn dylunio ac yn datblygu System ‘Electroporation’ i Drin Epidermolysis Bullosa (EB). Mae EB yn glefyd croen sy'n achosi i'r croen godi’n bothelli. Mae ‘electroporation’ yn dechneg o ddefnyddio maes trydanol i gynyddu athreiddedd y gellbilen i helpu cyffuriau i gael eu hamsugno'n haws. Rydw i wedi dylunio ac adeiladu dyluniad electrod prototeip. Roedd yr EXPO yn wych. Roedd yn fy ngalluogi i ddangos fy ngwaith. Mae’n anrhydedd derbyn y wobr hon, a diolch i’r pwyllgor adolygu am fy newis am y wobr hon.

Ms Zainab Almahrous,  BSc Electronic Engineering

Mae llawer o fyfyrwyr dan straen. Ond a allwn ni fodelu’r pwysau sydd ar fyfyrwyr? Dyma fan cychwyn fy mhroject. Rydw i wedi bod yn edrych yn benodol ar asesiadau ac wedi bod yn defnyddio fformiwla pwysau i fodelu’r pwysau sydd ar fyfyrwyr a delweddu'r canlyniadau. Gall yr adnodd ddangos sut mae’r pwysau’n amrywio ar fyfyrwyr sy’n awyddus (dechrau o flaen amser), y rhai sy’n gweithio’n gyson, ac i eraill sy’n dechrau’n hwyr (yn agos at y dyddiad cau) am eu gwaith asesu. Mi wnes i fwynhau’r EXPO. Roedd yn wych gweld yr holl fyfyrwyr eraill yn gweithio. Mi wnes i fwynhau’r sgyrsiau’r cwmnïau hefyd.

Miss Sophie Jolley,  BSc Computer Science

Mae wedi bod yn bleser gweithio ar fy mhroject, ac mae’n anrhydedd gwirioneddol derbyn y wobr hon. Diolch i’r pwyllgor gwobrau am fy anrhydeddu â’r wobr hon. Ar gyfer fy mhroject unigol, rydw i wedi bod yn datblygu llyfr, gyda realiti estynedig integredig. Dychmygwch ddarllen llyfr a gweld y cymeriadau’n dod yn fyw, mewn 3D, ar y dudalen. Gallai'r cymeriadau siarad â chi, rhyngweithio â chi, ac ati. Dyma fy mhroject i. Rydw i wedi ysgrifennu stori fer ar chwedlau gwerin gogledd Cymru ac rydw i’n gweithio ar rai o'r cymeriadau. Yn amlwg, mae yna ddreigiau. Mae’n ffordd wych o ddefnyddio fy holl sgiliau o raglennu cyfrifiadurol, dylunio, adrodd straeon ac ati.

Mrs Rhiannon Owen,  BSc Creative Technologies

Ychwanegodd Dr Yanhua Hong (Uwch Ddarlithydd mewn Optoelectroneg, a threfnydd modiwl y project)  

Roedd yn ddiwrnod gwych. Mi wnes i fwynhau siarad â’r myfyrwyr, clywed am eu gwaith project, a gwrando ar sgyrsiau’r cwmnïau. Roedd gan lawer o gwmnïau ddiddordeb mewn recriwtio myfyrwyr. Rydym yn gwybod am sawl myfyriwr sydd wedi cael gwahoddiad i ddigwyddiadau recriwtio, ar ôl cyfarfod â’r cwmnïau. Dymunwn yn dda iddynt yn eu camau nesaf.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?