Manchester science and industry museum

O Ddiwydiant i'r Dychymyg: Yr Ysgol yn Archwilio Amgueddfa Wyddoniaeth a Diwydiant Manceinion

Myfyrwyr a staff yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor yn cychwyn ar daith undydd llawn hwyl i Fanceinion i ymweld â'r Amgueddfa Wyddoniaeth a Diwydiant.

Taith undydd i Fanceinion i ymweld â'r Amgueddfa Wyddoniaeth a Diwydiant.

Ddydd Gwener, 5 Mai, aeth myfyrwyr a staff o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electroneg ar daith undydd i Fanceinion. Bwriad y digwyddiad cymdeithasol oedd hyrwyddo gwaith tîm, bondio, ac archwilio y tu allan i'r lleoliad academaidd. Roedd y daith yn nodi diwedd y semester. Uchafbwynt y diwrnod oedd ymweld â’r Amgueddfa Wyddoniaeth a Diwydiant, lle cafodd y grŵp gyfle i weld rhai o’r llwyddiannau gwyddonol mwyaf trawiadol erioed. 

 

Roedd yr Amgueddfa Wyddoniaeth a Diwydiant yn gyrchfan perffaith i’r grŵp

Roedd yr  Amgueddfa Wyddoniaeth a Diwydiant yn gyrchfan perffaith i’r grŵp, yn cynnig profiad llawn ac unigryw Roedd yr arddangosfeydd yn amrywio o ddyddiau cynnar y Chwyldro Diwydiannol i'r arloesi modern sydd wedi newid y byd cyfoes. Roedd gan y grŵp ddiddordeb mawr yng nghasgliad helaeth yr amgueddfa o beiriannau, offer, ac arddangosfeydd rhyngweithiol, gan wneud y profiad yn un addysgol a diddorol. Un o'r atyniadau oedd y peiriant arbrofol ar raddfa fach - y cyfrifiadur cyntaf yn y byd gyda rhaglen wedi ei storio. Mae gan yr amgueddfa replica o'r peiriant a adeiladwyd gan y Gymdeithas Cadwraeth Cyfrifiadurol ym 1998.

Ar ôl crwydro drwy’r amgueddfa, aeth y grŵp yn ei blaen i ymweld â’r siop LEGO ym Manceinion, lle wnaethant ail-fyw eu plentyndod a mwynhau siopa. Roedd y siop yn gyfle perffaith i fyfyrwyr a staff ymlacio ac ymollwng, wrth iddynt dreulio amser yn adeiladu eu pobl LEGO eu hunain. Roedd y diwrnod yn brofiad adeiladu tîm ardderchog, gan ei fod yn caniatáu i'r grŵp ryngweithio a chydweithio y tu allan i'r lleoliad academaidd.

Roedd y daith yn llwyddiant ysgubol, gyda’r myfyrwyr a’r staff yn ei disgrifio fel profiad bythgofiadwy. Llwyddodd y digwyddiad i feithrin ymdeimlad o gymuned a hyrwyddo gwaith tîm ymysg y cyfranogwyr, yn ogystal â darparu seibiant o waith academaidd. Roedd y daith hefyd yn fodd i atgoffa pobl o bwysigrwydd archwilio a darganfod, yn ogystal â manteision dysgu trwy brofiad.

"Cawsom ddiwrnod gwych," meddai Dr. Iestyn Pierce, Pennaeth yr Ysgol. “Roedd yr Amgueddfa Wyddoniaeth a Diwydiant yn rhyfeddol, ac roedd y siop LEGO yn gyfle gwych i ni ymlacio. Roedd yn ffordd dda i’n hatgoffa o werth gwaith tîm a phwysigrwydd archwilio."

Dr. Iestyn Pierce,  Pennaeth yr Ysgol

Golygydd J.C. Roberts

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?