Mae'n fraint gwasanaethu fel Deon Meddygaeth yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi cychwyn ar daith i drawsnewid addysg feddygol yng Ngogledd Cymru. Dyma gyfle i fyfyrio ar yr hyn rydym ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd ac i edrych ymlaen o’r newydd.
Twf a cherrig milltir
Bu'r flwyddyn ddiwethaf yn gyffrous wrth i ni groesawu ein carfan gyntaf o fyfyrwyr i’r Ysgol Feddygol , sef y garfan gyntaf i ymgymryd â'u hyfforddiant meddygol llawn yng Ngogledd Cymru. Mae staff academaidd a phroffesiynol newydd wedi dod ag egni, arbenigedd ac ymrwymiad i'n cenhadaeth o fynd i'r afael ag anghenion gofal iechyd rhanbarthol wrth hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg, ymchwil ac ymgysylltu cymunedol.
Mae ein Hysgol yn parhau i gynyddu, nid yn unig o ran maint ond o ran cyrhaeddiad ac effaith. At ei gilydd, mae 99 o fyfyrwyr wedi ymuno ag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i astudio Meddygaeth y flwyddyn academaidd hon. Mae hyn yn cynnwys y myfyrwyr hynny sy'n dechrau ar y cwrs sylfaen newydd. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru ac nad ydynt efallai wedi bodloni'r meini prawf mynediad safonol i astudio meddygaeth.
Carreg filltir bwysig arall yn y flwyddyn academaidd newydd hon fu croesawu ein carfan gyntaf o fyfyrwyr fferylliaeth, gan gryfhau ymhellach ein cyfraniad at weithlu gofal iechyd Gogledd Cymru.
Cydweithio a phartneriaethau
Ni chaiff unrhyw ysgol feddygol ei hadeiladu gan unigolion yn unig. Mae ein cynnydd yn ganlyniad i gydweithio a chyd-weledigaeth, gyda'n myfyrwyr, staff ar draws y Brifysgol, partneriaid clinigol mewn gofal cychwynnol ac eilaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydym yn llunio dyfodol gofal iechyd yn ein rhanbarth.
Ymrwymiad i'r gymuned
Yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, mae gennym y fraint a'r cyfrifoldeb o hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon, gwyddonwyr, ymchwilwyr ac arweinwyr iechyd. Rydym wedi ymrwymo i’r pethau canlynol:
- Rhagoriaeth ac arloesedd mewn addysg, ymchwil a hyfforddiant clinigol.
- Cynhwysiant, agor drysau i'r rhai nad ydynt efallai wedi tybio o’r blaen y gallen nhw weithio yn y byd meddygaeth.
- Y Gymraeg a diwylliant Cymru, gan sicrhau bod ein graddedigion yn deall ac yn adlewyrchu'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
Mae'r ymrwymiad hwn wedi'i grisialu yn y cwrs Mwy na Geiriau – Y Gymraeg fel Sgil Glinigol - a ddatblygwyd gyda Chanolfan Bedwyr. Drwy gyfuno hyfforddiant iaith ag ymwybyddiaeth ddiwylliannol, rydym yn arfogi ein myfyrwyr â geirfa Gymraeg sy'n benodol i feddygaeth a chyfleoedd i'w defnyddio yn ymarferol, gan gryfhau eu gallu i gysylltu'n ystyrlon â chleifion.
Wrth wraidd meddygaeth mae cysylltiad â phobl, y berthynas rydym ni'n ei feithrin gyda'n gilydd, gyda chydweithwyr, ac yn bwysicaf oll gyda'n cleifion. Mae'r cysylltiadau hyn yn cael eu cyfoethogi pan fyddwn yn ymgysylltu ag iaith, diwylliant a hunaniaeth y cymunedau a wasanaethwn.
Edrych ymlaen
Wrth i ni ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd hon, mae ein hymrwymiad yn glir: cefnogi ein myfyrwyr, ein timau, a'n cymunedau. Gyda'n gilydd, rydym yn adeiladu nid yn unig ysgol feddygol, ond dyfodol cynaliadwy, cynhwysol ac iachach i Ogledd Cymru a thu hwnt.