Cynhadledd goedwigaeth yn cael canmoliaeth am fod yn 'llwyddiant ysgubol'
Mae cynhadledd goedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor a ddaeth â dros 100 o arbenigwyr a llunwyr polisi ynghyd wedi cael canmoliaeth am fod yn “llwyddiant ysgubol”.
Daeth dros 100 o bob i gynhadledd canmlwyddiant Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig yng Nghymru, sef Forestry at 100: A Century of Growth, A Future of Possibility, a gynhaliwyd yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor.
O blith y rhai a ddaeth i’r gynhadledd oedd uwch swyddogion o’r sefydliad, yn ogystal â staff uwch o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sector preifat.
Uchafbwynt y digwyddiad oedd sesiwn yn cynnwys panel o fyfyrwyr BSc coedwigaeth yn eu blwyddyn olaf ym Mangor, sef Llanw Dawson-Stanley, Dan Gittins, Holly Bramley a Penny Newton.
Cadeiriwyd y sesiwn, sef Future Forests, Future Voices: Student Insights on Wales’ Woodland Future, gan Dr Ashley Hardaker, darlithydd coedwigaeth, a Dr Tim Peters, darlithydd rheoli coetiroedd.
Meddai’r Athro John Healey, o'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, “Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at wneud y gynhadledd mor llwyddiannus. Roedd yn gyfle i academyddion a llunwyr polisi drafod yr heriau mawr sy'n wynebu coedwigaeth, sydd â goblygiadau enfawr i'r amgylchedd ac i gymdeithas. Rwy'n arbennig o falch o'n myfyrwyr a oedd yn arbennig o dda yn eu sesiwn panel. Roeddent yn amlwg wedi paratoi’n dda iawn, ac mi wnaethon nhw waith gwych o fynd i’r afael â chyfres o gwestiynau heriol am ddyfodol coedwigaeth. Cawsom gryn dipyn o adborth cadarnhaol ar y sesiwn. Mae'n amlwg bod llawer iawn o fyfyrwyr dawnus yn graddio o Brifysgol Bangor ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth fydd ein myfyrwyr yn ei gyflawni yn y dyfodol.”
Prifysgol Bangor oedd y brifysgol gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig gradd mewn coedwigaeth - ym 1904. Rhoddwyd y brifysgol yn y safle gyntaf o blith holl brifysgolion y Deyrnas Unedig ym maes pwnc amaethyddiaeth a choedwigaeth yng nghynghrair pwnc The Times and Sunday Times UK University Rankings 2026.