Dŵr, dŵr ym mhobman, ond dim sôn amdano mewn egwyddorion trawsnewid system fwyd
Ysgrifenwyd yr erthygl yma gan Fergus Sinclair, Athro Emeritws yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor.
Mewn darn safbwynt newydd yn y cyfnodolyn Nature Food, mae gwyddonwyr o bedwar sefydliad ymchwil rhyngwladol, a dwy brifysgol yn y Deyrnas Unedig, yn annog y gymuned fyd-eang i integreiddio dŵr a bwydydd dyfrol yn well mewn ymdrechion i wneud systemau bwyd yn fwy cynaliadwy ac ecwitïol.
Maent yn dadlau, er gwaethaf pwysigrwydd dŵr o ran cynhyrchu amaethyddol, prin y sonnir amdano yn yr egwyddorion amaeth-ecolegol sy'n ysgogi disgwrs a gweithredu ynghylch trawsnewid y system fwyd, sy'n angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â heriau byd-eang rhyngweithiol, gan gynnwys newyn, newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a diraddiad helaeth o ran adnoddau tir a dŵr.
Amaeth-ecoleg
Mae cynnydd yn y pwyslais ar ddŵr yn ennill momentwm mewn amaeth-ecoleg oherwydd, er bod llawer o sôn am drawsnewid systemau bwyd, mae llawer o’r drafodaeth yn arwynebol ac ond yn awgrymu gwelliannau ymylol i effeithlonrwydd model amaethyddol sy’n sylfaenol anghynaliadwy, yn seiliedig ar gynnal cnydau ungnwd a magu da byw dwys ar wahân i raddau helaeth, gyda mewnbynnau cemegol sy’n aflonyddu’r amgylchedd.
Mae amaeth-ecoleg yn wahanol o ran hyrwyddo ffyrdd o ffermio mewn cytgord â natur, a sicrhau cadwyni gwerth ecwitïol, cysylltedd, a llywodraethiant ar draws systemau bwyd. Mae hyn yn dibynnu ar arallgyfeirio ac integreiddio, a all ddarparu cynhyrchedd, gwytnwch ac ecwiti ar yr un pryd.
Yn ôl yn 2018, dewiswyd yr Athro Fergus Sinclair, sy’n wyddonydd o Brifysgol Bangor, i weithredu fel Arweinydd Project ar gyfer adroddiad ar amaeth-ecoleg Panel Arbenigwyr Lefel Uchel Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddiogelu Cyflenwad Bwyd y Byd, a gyhoeddwyd yn 2019. Un o gyfraniadau allweddol yr adroddiad oedd cydweddu 13 egwyddor amaeth-ecoleg sydd wedi ysgogi disgwrs a gweithredu o amgylch trawsnewid systemau bwyd ers Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig yn 2021. Un o ganlyniadau allweddol yr uwchgynhadledd oedd sefydlu clymblaid i drawsnewid systemau bwyd trwy amaeth-ecoleg sy’n cynnwys dros 50 o wledydd, tri chomisiwn rhanbarthol (yr Undeb Affricanaidd, yr Undeb Ewropeaidd a Chymuned Economaidd Gwladwriaethau Gorllewin Affrica (ECOWAS), a thros 300 o sefydliadau.
Mae Sarah Freed, awdur arweiniol y safbwynt, a gwyddonydd yn yr Alliance of Bioversity a CIAT, yn awgrymu 'wrth i amaeth-ecoleg ennill momentwm ymysg unigolion sy'n gwneud penderfyniadau, rhoddwyr ac ymchwilwyr, mae'n hanfodol nad yw ei hysbryd cyfannol yn cael ei golli' mae hi'n mynd ymlaen i bwysleisio 'mae ein diwygiadau arfaethedig i’r egwyddorion amaeth-ecolegol yn helpu i sicrhau bod bioamrywiaeth ddyfrol, y tir-i’r-môr, a lleisiau pysgotwyr a chynhyrchwyr bwyd eraill oddi ar y fferm, yn cael eu hintegreiddio’n llawn i bolisïau a buddsoddiadau amaeth-ecolegol'.
Mae dŵr yn hollbwysig i amaethyddiaeth
'Dim dŵr, dim bwyd. Amaethyddiaeth yw'r defnyddiwr dŵr mwyaf a'r llygrydd dŵr mwyaf' meddai Matthew McCartney, sef arweinydd ymchwil ar isadeiledd dŵr cynaliadwy ac ecosystemau yn y Sefydliad Rheoli Dŵr Rhyngwladol (IWMI). Mae'n mynd ymlaen i ddweud 'mae hyn yn golygu bod sicrhau bod dŵr wrth wraidd amaeth-ecoleg yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol bwyd cyfiawn a chynaliadwy.'
Mae hyn yn amlygu’r ffordd bwysig y mae dŵr yn cysylltu pobl ac ecosystemau ar draws tirweddau, o’r mynyddoedd i’r môr. Mae’r hyn y mae ffermwyr yn ei wneud yn eu meysydd, megis defnyddio gwrtaith nitrogen, filltiroedd lawer oddi wrth y cefnfor, ynghyd â'r holl ffermwyr eraill rhyngddyn nhw a'r môr, yn cyfrannu at lygredd morol cynyddol helaeth. Mae Mark Smith, Cyfarwyddwr Cyffredinol IWMI yn cysylltu hyn â newid yn yr hinsawdd gan nodi 'Mae dŵr yn cysylltu pobl ac ecosystemau, ac wrth i sychder a llifogydd ddod yn fwy eithafol, mae rheoli dŵr mewn amaethyddiaeth yn allweddol i sicrhau ffermydd cynhyrchiol, cymunedau mwy diogel, a moroedd glanach'.
Bwyd dyfrol
Mae dŵr yn rhan bwysig o ddiogelu’r cyflenwad bwyd byd-eang a maeth byd-eang oherwydd ei fod yn sail i gynhyrchedd fferm, ond yn ogystal â hynny, mae bwyd dyfrol – y bwyd sy'n deillio o bysgod ac organebau dyfrol eraill – yn rhan hanfodol o ddeiet llawer o bobl. Mae Eddie Allison, Prif Wyddonydd World Fish yn egluro 'mae bwydydd dyfrol yn darparu tua 20% o gymeriant protein anifeiliaid 3.3 biliwn o bobl heddiw, a disgwylir i'r galw byd-eang bron ddyblu erbyn 2050' sy’n golygu y bydd rhoi ystyriaeth i fwyd dyfrol yn elfen ganolog o ddiogelu’r cyflenwad bwyd byd-eang yn y dyfodol.
Mudiadau cymdeithasol
Yn ddiddorol, er bod y disgwrs academaidd ar amaeth-ecoleg wedi bod yn araf i ymgorffori dŵr a bwyd dyfrol, mae pysgotwyr wedi bod ar flaen y gad o ran mudiadau cymdeithasol sy’n gwthio am drawsnewidiadau amaeth-ecolegol. Roedd Michaela Lo, ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Durrell Institute of Conservation and Ecology ym Mhrifysgol Caint, yn glir ynglŷn â hyn wrth ddatgan: 'Mae llenyddiaeth amaeth-ecoleg wedi cynyddu dros y degawdau diwethaf – ond mae'n dal i anwybyddu dŵr, bwydydd dyfrol, a rôl pysgotwyr a chynhyrchwyr bwyd eraill i raddau helaeth. Yn y cyfamser, fel mudiad cymdeithasol, mae amaeth-ecoleg eisoes yn cofleidio'r dimensiynau hollbwysig hyn. Mae'n bryd i sefydliadau lefel uchel ac actorion ddal i fyny!'
Hanfodion allweddol
Er mwyn hyrwyddo trawsnewidiad yn y system fwyd, mae'r awduron yn argymell tri cham gweithredu traws-sector:
- Cydnabod yn benodol gyfraniadau dŵr a bwydydd dyfrol at egwyddorion, polisïau, buddsoddiadau ac arferion amaeth-ecoleg.
- Ehangu'r disgrifiad o gynhyrchwyr bwyd i gynnwys pysgotwyr, fforwyr, bugeiliaid a gweithredwyr systemau bwyd eraill, yn ogystal â ffermwyr.
- Mynd i'r afael â chysylltedd y tir-i’r-môr ac adborth a ddarperir trwy adnoddau dŵr, gan gofleidio cynhyrchedd systemau amaeth a'u heffaith amgylcheddol.
Egwyddorion byw
'Mae amaeth-ecoleg yn cynnig gweledigaeth feiddgar wrth drawsnewid systemau bwyd - ac un y gellir ei gweithredu'n iawn - oherwydd mae ganddi set o egwyddorion penodol' meddai Fergus Sinclair, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor a Chyd-gynullydd y Llwyfan Partneriaeth Drawsnewidiol ar Amaeth-ecoleg. Mae’n mynd ymlaen i ddweud, 'Mae cadw’r egwyddorion hyn yn fyw mewn ymateb i graffu gwyddonol, fel y gwneir yma wrth gynnwys dŵr a bwydydd dyfrol, yn hanfodol er mwyn iddynt barhau i gael effaith'.