Mae'r daith wyddonol, dan arweiniad yr Athro Jan Geert Hiddink o Brifysgol Bangor, yn rhan o broject gwerth £2.1M a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Aeth y tîm o 18 o wyddonwyr ar fwrdd yr RRS Discovery, un o longau ymchwil mwyaf datblygedig y byd, lle byddant yn treulio tair wythnos a hanner.
Cyn cychwyn, daeth grŵp o bobl flaenllaw ar fwrdd y llong am daith o’i hamgylch, gan gynnwys Maer Rhanbarth Dinas Lerpwl, Steve Rotheram, a Chyfarwyddwr Gweithrediadau y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, Natalie Campbell.
Dywedodd yr Athro Jan Geert Hiddink o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, “Mae treillio am bysgod ar wely’r môr yn darparu chwarter o fwyd môr y byd ond dyma hefyd y tarfu corfforol mwyaf helaeth a achosir gan weithredoedd dynol i stociau o garbon sydd wedi'u cloi mewn gwaddod ar wely'r môr. Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd bod tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu y gallai tarfu ar wely'r môr arwain at ryddhau nwyon tŷ gwydr sylweddol o wely'r môr ac i'r atmosffer. Mae ansicrwydd mawr yn ein dealltwriaeth o effaith y tarfu hwn ar storfeydd carbon gwely'r môr. O ganlyniad, mae effaith tarfu ar wely'r môr ar storfeydd carbon yn anfesuradwy i raddau helaeth ac nid yw wedi'i rheoleiddio ar hyn o bryd. Nod y project hwn yw cael dealltwriaeth llawer cliriach o'r hyn sy'n digwydd er mwyn llywio pa gamau y gallai fod angen eu cymryd gan wyddonwyr, llunwyr polisi a rheoleiddwyr yn y dyfodol.”
Mae saith sefydliad ymchwil yn cydweithio yn y project hwn. Y rhain yw Prifysgol Bangor, Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS), Prifysgol Herriot-Watt, Prifysgol Leeds, PML, Prifysgol St Andrews, a Choleg Imperial Llundain.