plat efo cyllell a fforc a dogn o reis pinc

Achub reis hynafol i’w dyfu ar lwyfandir Nepal

.Mae arbenigwr o Brifysgol Bangor sydd wedi helpu i ddiogelu cyfenwad bwyd dros bum miliwn o dyddynwyr a’u teuluoedd yn India, Pacistan a Nepal dros y blynyddoedd, bellach wedi bod yn rhan o ymdrechion i ddatblygu math o reis y gellir ei dyfu ar lwyfandir Nepal.

Mae’r Athro John Witcombe wedi bod yn gweithio gyda’r Rhaglen Ymchwil Reis Genedlaethol yn Nepal, i ddatblygu tri math newydd o reis sy’n gwrthsefyll clefydau ac a fydd ar gael yn fuan i ffermwyr a thyddynwyr lleol. Mae'r gwaith yn sicrhau y parheir i ddefnyddio math o reis cynhenid y mae iddo arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol ac y credir iddo fod yn cael ei ddefnyddio ers 550 o flynyddoedd.

Mae reis Jumli Marshi yn tyfu 3,050 metr uwchben lefel y môr yng ngorllewin eithaf Nepal. Dyma'r uchaf y gellir tyfu reis yn unrhyw le yn y byd. Mae'r reis yn llawn ffibr, proteinau a mwynau megis haearn, calsiwm a ffosfforws.

Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf mae'r straen hwn wedi bod yn dioddef o glefyd o’r enw malltod reis. Mae hyn wedi golygu bod ffermwyr wedi gorfod newid i dyfu cnydau eraill.

tri person yn sefyll mewn  tirlun sych yn Nepal.
Chwith- dde John Witcombe, Krishnan Joshi a Resham Amgai yn Nepal.

Mae reis Jumli Marshi yn tyfu 3,050 metr uwchben lefel y môr yng ngorllewin eithaf Nepal. Dyma'r uchaf y gellir tyfu reis yn unrhyw le yn y byd. Mae'r reis yn llawn ffibr, proteinau a mwynau megis haearn, calsiwm a ffosfforws.

Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf mae'r straen hwn wedi bod yn dioddef o glefyd o’r enw malltod reis. Mae hyn wedi golygu bod ffermwyr wedi gorfod newid i dyfu cnydau eraill.

Mae'r Athro Witcombe wedi bod yn rhannu ei arbenigedd mewn bridio planhigion trwy weithio gyda ffermwyr a defnyddwyr lleol, i gyflwyno nodweddion y mae’r ffermwyr a’r defnyddwyr lleol hynny eu hunain yn teimlo eu bod yn bwysig. Mae'r ffermwyr yn profi'r mathau newydd o reis trwy eu tyfu ar eu tir. Mae’r dull hwn o dyfu planhigion yn sicrhau fod rhywogaethau newydd wedi eu haddasu'n dda i ofynion a dymuniadau ffermwyr lleol, ac mae hyn yn ei dro yn golygu bod y gymuned ffermio'n fwy tebygol o'u mabwysiadu a'u lledaenu. Jumli Marshi hefyd yw'r math cyntaf o reis i fod yn rhan o dreialon gan ffermwyr yn Nepal sydd wedi'u fridio yn defnyddio marcwyr DNA. Datblygwyd y marcwyr hyn gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor (Katherine Steele a John Witcombe o Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol) mewn cydweithrediad â phartner masnachol yn y Deyrnas Unedig.Mae’r Athro John Witcombe wedi bod yn gweithio gyda’r Rhaglen Ymchwil Reis Genedlaethol yn Nepal, i ddatblygu tri math newydd o reis sy’n gwrthsefyll clefydau ac a fydd ar gael yn fuan i ffermwyr a thyddynwyr lleol. Mae'r gwaith yn sicrhau y parheir i ddefnyddio math o reis cynhenid y mae iddo arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol ac y credir iddo fod yn cael ei ddefnyddio ers 550 o flynyddoedd.

Dyma benllanw 13 mlynedd o waith mewn cydweithrediad â Resham Amgai, ffermwr reis o Nepal sydd wedi arwain ar y gwaith yn Nepal. Mae gan y math cynhenid hwn o reis, Jumli Marshi, enyn sy'n goddef oerni sy'n ei alluogi i ffynnu mewn amodau oer ac o ran ei fwyta mae yn fath o reis y mae pobl yn hoff iawn ohono sy’n golygu ei bod yn broffidiol ei dyfu. Roedd yn destun pryder mawr i ffermwyr lleol fod y math hwn o reis mor agored i afiechyd.

Yr hyn yr ydym wedi'i wneud yw cyflwyno genyn sy'n gwrthsefyll malltod i’r reis Jumli Marshi a ddaw o reis a ryddhawyd yn gyntaf yn Ynysoedd y Philipinau ym 1985, er mwyn datblygu tair fersiwn sy'n gallu gwrthsefyll clefydau. Mae ffermwyr Jumla wedi bod yn lobïo i warchod y reis lleol hwn ac mae’r datblygiad hwn yn cael ei groesawu gan y gymuned leol.  Bydd cael reis Jumli Marshi sy’n gallu gwrthsefyll afiechyd yn tro ar fyd i ffermwyr llwyfandir Nepal, lle mae tyfu reis yn heriol oherwydd ei bod mor uchel yno.

Athro John Witcombe ,  Athro Emeritws,Ysgol Gwyddorau Naturiol

“Mae reis Jumli Marshi yn faethlon ac yn flasus hefyd”, meddai’r gŵr lleol Raj Bahadur Mahat.

Mwy

Astudiaeth Archos Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2022 
Mathau Newydd o Reis Yn Gwella Bywoliaeth Miliynau o Aelwydydd

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?