Y Concordat Datblygu Ymchwilwyr - Sesiwn wybodaeth ar gyfer Ymchwilwyr Ôl-raddedig (ar-lein)
Dan arweiniad:
Emily Holmes - Cadeirydd y Grwp Datblygu Ymchwilwyr a'r Concordat
Sue Niebrzydowski - Deon Ymchwil Ôl-Radd
Alison Wiggett - Rheolwr Datblygu Ymchwilwyr ac Ymchwilwyr ôl-raddedig (IRIS)
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’r sesiwn wybodaeth anffurfiol hon a fydd yn eich cyflwyno i Grŵp Datblygu Ymchwilwyr a’r Concordat Prifysgol Bangor. Mae’r Concordat yn gytundeb cenedlaethol, aml-bartner sy’n rheoli datblygiad gyrfa ymchwilydd. Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r Concordat, a bod eich barn yn cael ei chynrychioli yng ngwaith Concordat Bangor. Yn ddiweddar, rydym wedi recriwtio cynrychiolydd ôl-raddedig o bob un o'r tri Choleg i'r Grŵp Datblygu Ymchwilwyr a’r Concordat:
- Sudeshika Durayalage - Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas
- Subhan Zahid Nazir - Coleg Meddygaeth ac Iechyd
- Lucas Le Brun - Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Mae’r Concordat yn gytundeb rhwng cyllidwyr ymchwil a Phrifysgolion y DU sy’n nodi disgwyliadau a chyfrifoldebau ymchwilwyr, eu rheolwyr, cyflogwyr a chyllidwyr mewn perthynas ag egwyddorion datblygiad gyrfa ymchwilydd. Mae Prifysgol Bangor yn aelod o’r Concordat Datblygu Ymchwilwyr, ac wedi ymrwymo i dair egwyddor allweddol y Concordat:
- Amgylchedd a diwylliant - gan gydnabod bod ymchwil rhagorol yn gofyn am ddiwylliant ymchwil cefnogol a chynhwysol.
- Cyflogaeth - mae ymchwilwyr yn cael eu recriwtio, eu cyflogi a'u rheoli o dan amodau sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad.
- Datblygiad proffesiynol a gyrfaol - mae'r rhain yn hanfodol i alluogi ymchwilwyr i ddatblygu eu llawn botensial
Dewch draw i glywed mwy am y Concordat, cwrdd â'ch cynrychiolwyr ôl-raddedig RDCG, a darganfod sut y gallwch chi gymryd rhan yn ei waith.