Modiwl ADB-2515:
Cyfrifeg Ariannol
Cyfrifeg Ariannol 2024-25
ADB-2515
2024-25
Bangor Business School
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Sara Closs-Davies
Overview
Os ydych wedi cofrestru ar radd BA/BSc Cyfrifeg a Chyllid, rhaid i chi lwyddo gyda marc o 40% yn ymodiwl hwn i symud ymlaen i Flwyddyn 3.
Ymdrin ag uwch faterion cyfrifeg ariannol trwy archwilio amcanion a chynnwys rhai safonau rhyngweithiolcyfrifyddu allweddol. Bydd y ffocws ar gyflwyniad datganiadau ariannol cyhoeddus, datganiadau ariannolcyfunol, cyfrifeg ecwiti i gwmnïau cysylltiedig, a thrin ag asedau diriaethol ac anniriaethol, cyfredol ânanghyfredol. Ym mhob pwnc, bydd gwerthusiad beirniadol yng nghyd-destun safonau rhyngweithiolcyfrifeg gyfredol a sawl dull cyfrifeg berthnasol.
Erbyn llwyddo i gwblhau'r modiwl bydd gennych gwybodaeth a dealltwriaeth o'r pynciau canlynol: Cyflwyno datganiadau ariannol yn unol â safonau rhyngweithiol cyfrifeg; cyfrifo am, a phrisio, stoc; cyfrifo am eiddo, offer a pheiriannau, gan gynnwys eiddo buddsoddiadau, grantiau llywodraeth, asedau anghyffyrddadwy, ac amhariad asedau; rheolau ynglŷn â grwpiau a materion cyfreithiol; paratoi datganiadau ariannol ar gyfer grwpiau; a cyfrifyddu ar gyfer cwmnïau cysylltiol.
Assessment Strategy
Trothwy: D- to D+ (40-49%) Dim o bwys wedi ei hepgor neu'n anghywir o ran defnyddio gwybodaeth/sgiliau. Rhywfaint o ddealltwriaeth o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Cyfuno theori/ymarfer/gwybodaeth i'w weld yn ysbeidiol wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir.
Lefel arall: C- i C+ (50-59%) Llawer o’r wybodaeth a’r sgiliau perthnasol wedi’u defnyddio'n gywir at ei gilydd. Dealltwriaeth ddigonol o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio gweddol o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Peth tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
Da: B- i B +(60-69%) Perfformiad da iawn. Defnyddir y rhan fwyaf o'r wybodaeth berthnasol yn gywir. Dealltwriaeth dda o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio da o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
Rhagorol: A- i A+ (70%+) Perfformiad rhagorol. Defnyddio'r wybodaeth berthnasol yn gywir. Dealltwriaeth ragorol o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio da o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Tystiolaeth gref o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
Learning Outcomes
- Deall amcanion, datblygiad a chymhwysiad safonau cyfrifyddu dethol.
- Deall y gwahanol fathau o berthynas a all fodoli mewn cwmnïau grŵp a’r dulliau cyfrifyddu priodol.
- Defnyddio dull beirniadol a dadansoddol o ymdrin â chyfrifeg.
- Paratoi cyfrifon grŵp yn unol ag egwyddorion o safonau cyfrifyddu perthnasol a chyffredinol derbyniol, gyda phwyslais ar Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol;
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad sydd yn asesu syllabus y modiwl ar ddiwedd y semester. Bydd rhan fwyaf o'r arholiad yn gofyn am waith cyfrifiannu.
Weighting
60%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf ar-lein cwestiynau amlddewis sy'n asesu pynciau dysgwyd yn ystod y chwe darlith gyntaf.
Weighting
40%
Due date
09/11/2022