Modiwl CXC-4009:
Technegau Cyfansoddi
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
- Gallu dirnad a diffinio'n glir y defnydd o gywair, arddull, idiom ac ieithwedd
- Gallu dirnad a diffinio'n glir y gwahanol dechnegau a strategaethau a roddir ar waith mewn gweithiau llenyddol
- Gallu dirnad a diffinio'n glir brif strwythurau gwahanol weithiau llenyddol
- Meithrin agwedd ymholgar wrth ystyried y defnydd o gywair, arddull, idiom ac ieithwedd o fewn gweithiau llenyddol
- Cyflwyno'r hyn a ystyriwyd ar ffurf traethawd academaidd a luniwyd yn unol â'r confensiynau priodol a'r medrau technegol perthnasol
- Cynyddu a dwysáu ymwybyddiaeth o'r posibiliadau ar gyfer ysgrifennu creadigol.
Cynnwys cwrs
Mae ‘Technegau Cyfansoddi’ yn un o fodiwlau craidd MA: Ysgrifennu Creadigol, ac ynddo bydd cyfle i drafod ystod o weithiau llenyddol gan amryfal awduron. Teilwrir yr union destunau llenyddol a drafodir at ofynion y myfyriwr unigol. Yn ei hanfod, ymholi a wna’r modiwl hwn ynghylch yr iaith lenyddol a’r technegau a fabwysiedir fel rhan o’r broses gyfansoddi. Sylwir yn fanwl ar faterion fel y berthynas rhwng cynnwys a thema gwaith llenyddol a’i gywair a’i dechnegau, ei idiom a’i ieithwedd. Y nod yn y pen draw yw cynllunio rhaglen gydgysylltiol ac ynddi berthynas glòs rhwng darllen ar y naill law ac ysgrifennu ar y llall. Bydd cysylltiad tryloyw felly rhwng y traethawd a osodir a’r portffolio creadigol. Rhoddir sylw i hyfforddiant ymchwil o fewn y modiwlau unigol. At hynny, mewn cyfres o seminarau pwnc-benodol, trafodir amryw faterion sy’n berthnasol i’r broses o ymchwilio ar gyfer gwaith ôl-radd, e.e. cywair priodol ar gyfer traethodau academaidd, llên-ladrad, cywain ffynonellau, trefnu nodiadau, sefydlu llyfryddiaethau. Trwy gyfrwng ymweliadau â llyfrgelloedd ac archifdy PB, tynnir sylw at yr ystod o gronfeydd gwybodaeth sydd ar gael a’u defnyddioldeb i’r ymchwilydd unigol. Yn ogystal â sylw i’r agweddau ymarferol a thechnegol hyn ar weithgaredd ymchwil, bydd cyfle mewn seminarau i gyfranogi o amgylchedd ymchwil Ysgol y Gymraeg ac elwa ar y cyfle i drafod rhaglenni unigol yng nghwmni myfyrwyr ôl-radd ac ymchwil eraill.
Meini Prawf
ardderchog
A- i A* - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Rhagoriaeth
- dangos gallu datblygedig i adnabod, gwerthfawrogi ac arfer grym mynegiannol iaith
- dangos gallu datblygedig i ddeall priod nodweddion gwahanol gyweiriau ieithyddol a thechnegau cyfansoddi
- dangos gallu datblygedig i ysgrifennu'n feirniadol
- dangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed ac annibynnol, ac i gyflwyno a datblygu dadl estynedig, yn glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus
- dangos gallu datblygedig i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys
- dangos gallu datblygedig i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol
- dangos gallu datblygedig i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth
- dangos gafael sicr ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth
- dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
C- i C+
C- i C+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Pasio
- dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith
- dangos gallu i ddeall priod nodweddion gwahanol gyweiriau ieithyddol a thechnegau cyfansoddi
- dangos gallu i ysgrifennu'n feirniadol
- dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
- dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill
- dangos gallu i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol
- dangos gallu i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth
- dangos gafael ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth
- dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
da
B- i B+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Teilyngdod
- dangos gallu da i adnabod, gwerthfawrogi ac arfer grym mynegiannol iaith
- dangos gallu da i ddeall priod nodweddion gwahanol gyweiriau ieithyddol a thechnegau cyfansoddi
- dangos gallu da i ysgrifennu¿n feirniadol
- dangos gallu i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl, yn glir ac yn rhesymegol
- dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys
- dangos gallu da i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol
- dangos gallu da i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth
- dangos gafael dda ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth
- dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Adnabod amryfal enghreifftiau o gyweiriau, arddulliau, idiomau ac ieithweddau o fewn amrediad o weithiau llenyddol, e.e. ffurfiol ac anffurfiol, llafar a thafodieithol, arwrol a ffugarwrol, beiblaidd, mabinogaidd, rhyddieithol blaen a barddonol flodeuog, ffwythiannol a ffeithiol, amlgymalog, sathredig, bratiog ac `ansafonol'
-
Gwerthfawrogi a gwerthuso priod nodweddion cyweiriau, arddulliau, idiomau ac ieithweddau
-
Cloriannu ymatebion beirniadol i amryfal enghreifftiau o gyweiriau, arddulliau, idiomau ac ieithweddau o fewn detholiad o weithiau llenyddol
-
Datblygu gwell dealltwriaeth o'r gwahanol dechnegau sy'n rhan o'r broses gyfansoddi
-
Cyfleu'r hyn y buwyd yn ei drafod ar ffurf traethawd academaidd safonol a strwythuredig.
-
Ymelwa'n greadigol o'r amryfal enghreifftiau o dechnegau a strategaethau y buwyd yn eu hystyried wrth fynd ati i gynllunio eu portffolio creadigol eu hunain.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd | 100.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | Seminarau |
12 |
Tutorial | Tiwtorialau |
12 |
Private study | Astudio annibynnol |
376 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q5AN: Diploma Ysgrifennu Creadigol year 1 (DIP/YSGCRE)
- Q5AO: MA Ysgrifennu Creadigol year 1 (MA/YSGCRE)